Skip to main content
  • Ydych chi eisiau dysgu sgiliau newydd?
  • Defnyddio a gwneud y gorau o’r sgiliau sydd gennych chi’n barod?
  • Fyddech chi’n hoffi ychwanegu at eich CV?
  • Cyfarfod â phobl newydd a gweithio ochr yn ochr â staff gwybodus a medrus?

Os ydych chi wedi ateb ‘ydw’ i unrhyw un o’r rhain, yna dewch i wirfoddoli i Cadw. Ar hyn o bryd mae gennym ni swyddi gwag yn y canlynol:

Dywedodd gwirfoddolwraig hyn am ei phrofiad yn ddiweddar:

Rydw i wedi mwynhau cynnal y sgyrsiau yn fawr ac mae’n anodd gadael, ond mae’n rhaid i mi ganolbwyntio ar basio fy arholiadau o’r diwedd. Diolch o galon am y cyfle, rydw i’n bendant wedi dysgu llawer o’r profiad. Byddaf yn gweld eisiau dod i Gaerffili gan fy mod yn hoff iawn o’r castell erbyn hyn, ar ôl treulio cryn amser yn ymchwilio i’w hanes yn fwy nag y gwnes wrth dyfu i fyny. Dwi’n meddwl ei fod yn ddiddorol iawn ac yn fawreddog, bob tro rydw i’n ei weld. Mae gallu cerdded tu mewn i’w waliau ac ysbrydoli eraill i deimlo mor frwdfrydig amdano â Cadw a minnau, wedi bod yn hyfryd.

Wrth wirfoddoli, byddwch yn cefnogi gwaith Cadw, dod yn rhan o dîm, dysgu sgiliau newydd, yn ogystal â rhannu’r sgiliau sydd gennych eisoes, er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn. Mae’r ymrwymiad i wirfoddoli’n hyblyg, a gallwch ddewis faint o amser fyddech chi’n dewis ei roi.

Os ydych chi’n dymuno gwirfoddoli, cliciwch i’r dudalen safle o’ch dewis, am fanylion y cyfleodd gwirfoddoli sydd ar gael yn y safle hwnnw. Cwblhewch a dychwelwch y ffurflen gais ar-lein. Bydd y safle’n cysylltu â chi am drafodaeth bellach.

Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael yng Ngwaith Haearn, Blaenafon. Rhowch help i ni ddod â stori Gwaith Haearn Blaenafon, safle ehangach Treftadaeth y Byd, yn ogystal â dros ddau gan mlynedd o hanes diwydiannol, yn fwy byw nag erioed o’r blaen.

Os hoffech chi gefnogi profiad yr ymwelydd fel stiward safle, ym mythynnod Stack Square Gwaith Haearn Blaenafon (y rhai yn y gyfres BBC Coal House), a’r safle ehangach, cwblhewch a dychwelwch y ffurflen gais ar-lein isod os gwelwch yn dda i: BlaenavonIronworks@llyw.cymru ac fe gysylltwn ni â chi.

 

Mae cyfleoedd cyffrous i wirfoddoli yng Nghastell Caerffili, castell mwyaf Cymru. Rydyn ni'n chwilio am wirfoddolwyr i berfformio fel cymeriadau mewn gwisgoedd.

Wedi ei amgylchynu â chyfres o ffosydd ac ynysoedd dyfrllyd, syniad Gilbert ‘Goch’ de Clare, sef y dyn a adeiladodd y Castell Coch gwreiddiol, oedd Castell Caerffili. Y troeon cyntaf y ceisiodd Gilbert adeiladu castell, difethodd y tywysog Cymreig Llywelyn ap Gruffydd ei gynlluniau. Ond llwyddodd yn y diwedd ac adeiladodd gadarnle enfawr gan ddefnyddio system amddiffyn gonsentrig ‘waliau o fewn waliau’. Dirywio wnaeth y safle dros y blynyddoedd  tan i drydydd ardalydd Biwt ddechrau gwaith cadwraeth yn hwyr yn y 19eg ganrif. Fel y gwelwch, mae nifer o straeon i’w hadrodd.

Os hoffech chi helpu’r ceidwaid i ddod â’r safle enfawr hwn yng Nghaerffili’n fyw a chefnogi profiad ymwelwyr, llenwch y ffurflen gais ar-lein a’i dychwelyd i: CaerphillyCastle@llyw.cymru ac fe wnawn ni gysylltu’n ôl â chi.

Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael yng Nghastell Coch, Tongwynlais. Cartref hardd, chwedlonol gŵr cyfoethog iawn.

Mae Castell Coch, sydd wedi ei adeiladu ar sylfaen hynafol,  yn sgil-gynnyrch dychymyg byw, Fictorianaidd a chyfoeth di-ben-draw. Roedd William Burges wedi cael rhwydd hynt gan 3ydd Ardalydd Bute, i greu encil gwledig i gyd-fynd ag ysblander ei brif gartref, Castell Caerdydd.

Os ydych chi’n dymuno cefnogi profiad yr ymwelydd yng Nghastell Coch - mae gennym ni ar hyn o bryd swyddi gwag am Stiwardiaid Ystafelloedd.

Cwblhewch a dychwelwch y ffurflen gais ar-lein isod os gwelwch yn dda i CastellCoch@llyw.cymru ac fe gysylltwn ni â chi.

 

Mae cyfleoedd i wirfoddoli nawr ar gael yng Nghastell Conwy, sydd ymysg y caerau canoloesol gorau sy’n dal i fodoli ym Mhrydain heddiw. Ynghyd â Chastell Harlech, Castell Caernarfon a Chastell Biwmares, mae’r heneb hon wedi bod yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd Cestyll a Muriau Trefi Edward I ers 1986. Cafodd ei hadeiladu ar gyfer Edward I gan Master James o St George, ac mae cryfder milwrol aruthrol Conwy yn deillio ar y garreg y saif arni. Dywed rhai mai hon yw caer Gymreig fwyaf mawreddog Edward I. A hoffech chi ddangos i ymwelwyr pam? Os hoffech chi gynorthwyo â phrofiad ymwelwyr yng Nghonwy, mae dwy swydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer Tywyswyr.  

Llenwch a dychwelwch y ffurflen gais ar-lein i: ConwyCastle@llyw.cymru a chysylltwn yn ôl gyda chi.

 

Cyfleoedd cyffrous i wneud gwaith gwirfoddol yng nghastell trawiadol Dinbych, sydd yn ôl pob tebyg yn un o saith rhyfeddod Cymru.

Ynghyd â dros hanner milltir o furiau'r dref, mae Castell Dinbych yn gaer glasurol sydd o ran ei faint yn nodweddiadol o gestyll Edward 1, ac yn goron ar fryn serth uwchben y dref ganoloesol. Yn syml, adeiladodd Edward I y castell ar ben caer Gymreig draddodiadol. Wrth wneud hynny, gwnaeth yn siŵr bod holl olion Dafydd ap Gruffudd, y deiliad anlwcus blaenorol, wedi eu dileu am byth. Henry de Lacy gafodd y dasg o adeiladu'r castell newydd gyda phrif saer maen y brenin , James o San Siôr, wrth ei ochr. Nodwedd harddaf castell Dinbych yw ei borthdy gyda’i dri thŵr mawr, trawiadol. Efallai na fydd eich tasg mor fawr ag un James o San Siôr, ond bydd cefnogi a chyflwyno amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau ar y safle yn rhoi her a boddhad o fath gwahanol.

Os hoffech chi helpu i sicrhau bod ein digwyddiadau yn rhedeg yn esmwyth, gan gefnogi ein ceidwaid i wella profiad ein hymwelwyr, llenwch a dychwelwch y ffurflen gais ar-lein i: DenbighCastle@llyw.cymru a byddwn ni mewn cysylltiad â chi.

 

Mae cyfleoedd gwirfoddoli cyffrous ar gael yng Nghastell Harlech, rhan o safle Treftadaeth y Byd Edward I. Ar hyn o bryd mae gennym swyddi gwag ar gyfer gwirfoddolwyr yn rôl Chwaraewyr / Tiwtoriaid Gemau Canoloesol.

Mae muriau Harlech yn codi o glogwyn sydd bron yn fertigol. Adeiladwyd y ‘waliau o fewn waliau’ ar gyflymder eithriadol rhwng 1283 a 1295 gan fyddin o grefftwyr medrus a llafurwyr, bron i fil ohonynt, am y pris rhyfeddol o rad o £8,190. Dywedir fod ‘Gwŷr Harlech’ yr anthem answyddogol boblogaidd, yn disgrifio’r gwarchae a ddigwyddodd yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau, pan lwyddodd llond llaw o ddynion i wrthsefyll byddin ymosodol o filoedd. Ond mae pethau’n newid ac erbyn hyn, croesawu’r miloedd ymwelwyr y mae’r llond llaw o unigolion, wrth i’r bont newydd sy’n ‘arnofio’ alluogi pawb i gael mynediad hygyrch i’r castell.

Os ydych chi’n meddwl y gallech chi fod yn feistr gemau canoloesol, yn eu chwarae, yn dangos i eraill sut i wneud ac yn helpu i ddod â’r cynnig gemau’n fyw, dyma eich cyfle i helpu ein ceidwaid i wella’r profiad i’n hymwelwyr. I wneud cais, llenwch y ffurflen gais ar lein a’i dychwelyd i: HarlechCastle@llyw.cymru ac fe wnawn ni roi gwybod i chi.

 

Wrth edrych dros yr aber, mae’r crair trawiadol hynafol hwn yn mynnu eich sylw. Fodd bynnag, fel gwirfoddolwr  ‘Tywysydd Castell a Gerddi’ yn y Plasty Tuduraidd a arferai fod yn gastell hynafol, byddech chi’n gallu cynorthwyo’r ymwelwyr i werthfawrogi’r safle godidog hwn hyd yn oed yn fwy.

Cafodd ei adeiladu gan y teulu De Brian yn y 13eg Ganrif, mwy na thebyg ar ben Castell cylchfur Normanaidd. Mae’r plasty cadarn hwn yn waddol parhaol Syr John Perrot. Cafodd ei ddatgymalu yn rhannol yn dilyn gwarchae yn ystod y Rhyfel Cartref.  Er hyn, bu’n ysbrydoliaeth i greadigrwydd ysgrifenedig Dylan Thomas a’r awdur Richard Hughes a fu’n ysgrifennu mewn hafdy yn yr ardd, gyda’r castell yn ysbrydoli ac yn fodd i’r awen lifo drachefn.

Os ydych yn arddwr brwd a bod gennych ddiddordeb yn hanes Talacharn a’r gerddi Fictoraidd, ac yn gallu gweld eich hun fel tywysydd yn cyfleu gwybodaeth a storïau ar y safle hwn, dyma gyfle unigryw i chi gynorthwyo ein ceidwaid i wella profiad yr ymwelydd.  I wneud cais, cwblhewch a dychwelwch y ffurflen gais ar-lein at: LaugharneCastle@llyw.cymru ac fe ddown i gysylltiad â chi.

 

Mae cyfleoedd unigryw i wirfoddoli ym Mhlas Mawr, Conwy — y tŷ Elisabethaidd mwyaf cain ym Mhrydain!

Mae Plas Mawr yn symbol o oes lewyrchus, fywiog.  Dyma gyfnod y Dadeni Dysg a Shakespeare, ac oes aur Plas Mawr. Roedd y perchennog, Robert Wynne, masnachwr dylanwadol, uchel ei barch, yn hoff iawn o urddas a gwychder. Pe byddai cyfoeth yn cael ei fesur yn ôl steil, yna roedd y Cymro bonheddig hwn, oedd wedi teithio’r byd, yn gyfoethog iawn, iawn!

Os hoffech chi gefnogi profiad yr ymwelydd ym Mhlas Mawr, mae gennym ni ar hyn o bryd swyddi gwag i wirfoddolwyr — Stiwardiaid Ystafelloedd, Tywyswyr Taith ac ar y Rhaglen Ddysgu — cwblhewch y ffurflen gais ar-lein, a’i dychwelyd os gwelwch yn dda at plasmawr@llyw.cymru a byddwn yn cysylltu â chi.

 

Mae cyfleoedd newydd cyffrous gennym i chi wirfoddoli fel tywysydd yn adeilad trawiadol ac unigryw Capel y Rug a adeiladwyd yn yr ail ganrif ar bymtheg.

Wrth i chi fynd i mewn i Gapel y Rug fe gewch eich rhyfeddu gan yr addurniadau blodeuog trawiadol. Dydy tu allan y capel ddim yn eich rhagrybuddio o’r hyn sydd i’w weld y tu mewn i’r adeilad hynod. Adeiladodd sylfaenydd y capel hwn, sef yr arch-Frenhiniwr Gyrnol William Salesbury, gapel preifat ag iddo statws uchel eglwysig sydd ag arddull wahanol iawn i arddull Piwritanaidd y cyfnod. Mae'r pren a ddefnyddiwyd yn creu tipyn o argraff i ddechrau. Gallwch weld cerfiadau neu siapiau rhosynnau ar reiliau'r allor, y seddi teuluol, yr oriel addurnedig a hefyd ar y meinciau. Yn sicr, fe ddaliwyd sylw Syr Edwin Lutyens gan y capel, ond a fedrwch chi ddal sylw'r ymwelwyr sy’n ymweld â’r safle fel y byddan nhw’n mynd adref wedi’u cyfareddu gan Gapel y Rug, ac wedi eu hysbrydoli ganddo, fel y cafodd Syr Edwin Lutyens, fel sydd i’w weld heddiw yn Nhŷ Rhaglaw yn Delhi Newydd yn India?

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn pensaernïaeth grefyddol liwgar a'ch bod ag awydd i fod yn dywysydd, yna dyma eich cyfle i helpu ein ceidwaid i gyfoethogi profiad yr ymwelydd. I wneud cais, llenwch y ffurflen gais ar-lein a'i dychwelyd at: RugChapel@llyw.cymru a byddwn yn siŵr o gysylltu yn ôl â chi.

 

Mae hwn yn safle crefyddol o bwys enfawr yng Nghymru, mae hefyd yn gartref naturiol i ddiwylliant Cymreig. Fe'i canmolir gan lawer o feirdd ac mae’n adnabyddus am ei borth gorllewinol eiconig a'r teils llawr o'r 14eg ganrif. Mae bardd canoloesol Cymru, Dafydd ap Gwilym, wedi'i gladdu yma, fel y mae Tywysogion Cymru o deyrnas Deheubarth.

Adeiladodd mynachod Sistersaidd yr Oesoedd Canol ffyrdd a phontydd a ddaeth â phererinion a masnachwyr i'r abaty... ac maen nhw'n parhau hyd heddiw, gan fod llawer i'w denu nhw at y safle ysgogol, hanesyddol bwysig hwn.

A allwch chi helpu ein gwarcheidwaid i wella profiad yr ymwelwyr hyn, trwy gynnig croeso cynnes a chyfeillgar a chyfleu stori Abaty Ystrad Fflur a'r dirwedd ehangach i bawb a / neu ein helpu gyda'n gardd berlysiau newydd? I wneud cais, llenwch a dychwelwch y ffurflen gais ar-lein i StrataFloridaAbbey@llyw.cymru a byddwn yn cysylltu â chi.

 

Mae cyfleoedd diddorol ar gyfer gwirfoddoli ar gael er mwyn gwella’r amgylchedd hanesyddol ymhellach.

Mae’r amgylchedd hanesyddol yn ganolog i ddiwylliant Cymru ac mae ei gymeriad yn cyfrannu at ein syniad o le a’n hunaniaeth ddiwylliannol.

Mae’n gwella ein hansawdd bywyd ac yn ychwanegu at arwahanrwydd lleol. Mae’n ased economaidd a chymdeithasol pwysig. Mae’n hanfodol bod yr amgylchedd hanesyddol yn cael ei werthfawrogi, ei ddiogelu a’i wneud yn hygyrch ar gyfer cenedlaethau presennol a’r dyfodol. Mae’r un mor bwysig bod straen a gwybodaeth o amgylch yr amgylchedd hanesyddol yn cael eu casglu a’u rhannu.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn archwilio cofnodion yr eiddo anhygoel sydd yn ein gofal ac ymchwilio i hanes y safleoedd arbennig hyn, efallai y gallwch ein helpu i gasglu gwybodaeth allweddol fydd yn ein helpu i gadw, rheoli, dadansoddi a chyflwyno ein casgliad o etifeddiaeth genedlaethol i’r cyhoedd. Er mwyn ymgeisio, cwblhewch a dychwelwch y ffurflen gais ar-lein at: Yr Amgylchedd Hanesyddol a byddwn yn cysylltu â chi.