Skip to main content

Bwthyn Treftadaeth yw eiddo rhif 129 Cadw a'i ased mwyaf diweddar. Mae'r tŷ teras bach o'r bedwaredd ganrif ar ddeg wedi'i leoli yng Nghwm Dâr, yng nghanol cymoedd De Cymru. Mae'n nodweddiadol o nifer o adeiladau hanesyddol yng Nghymru a thu hwnt ond yn unigryw gan nad yw wedi newid braidd dim y tu mewn na'r tu allan ers iddo gael ei adeiladu yn 1854.

Gan fod traean o adeiladau Cymru wedi'u codi gan ddefnyddio dulliau traddodiadol, mae Bwthyn Treftadaeth yn bwysig gan ei fod yn cynrychioli canran sylweddol o'n treftadaeth adeiledig. 

Bydd y prosiect hwn, a arweinir gan Cadw, nid yn unig yn sicrhau y caiff Bwthyn Treftadaeth ei ddiogelu er mwyn i genedlaethau'r dyfodol ei fwynhau, ond fe'i defnyddir hefyd fel adnodd dysgu i bwysleisio sut y gall adeilad hanesyddol, p'un a yw'n gastell neu'n dŷ teras, gadw ei gymeriad tra'i fod yn effeithlon o ran ynni ac yn gynaliadwy heb fynd i fawr o waith.  

Bydd Bwthyn Treftadaeth yn helpu Cadw i arddangos arfer gorau y gellir ei rannu ledled Cymru a thu hwnt, a rhannu gwybodaeth yw prif nod y prosiect.

Mae Bwthyn Treftadaeth yn ddiddorol oherwydd ei adeiladwaith a'r gwaith cynnal parhaus, ond hefyd am fod iddo hanes cymdeithasol arbennig. Gall hyn ein helpu i ddeall pam y cafodd ei adeiladu, pwy oedd yn byw yno a sut roeddynt yn byw eu bywydau o ddydd i ddydd.

Gwelwyd cynnydd enfawr yn y galw am lo stêm Cymru yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Glo oedd tanwydd y diwydiant, yn pweru ffatrïoedd, cychod a threnau. Erbyn y 1850au roedd pedwar pwll glo yng Nghwm Dâr a thyfodd y pentref wrth i dai teras gael eu hadeiladu yn gartrefi i'r mewnlifiad o weithwyr.

Mae Bwthyn Treftadaeth yn enghraifft sydd heb newid braidd o gwbwl o'r math o dŷ a adeiladwyd gan berchenogion pyllau glo i ddenu eu gweithlu.  Roedd yn gartref i gyfres o deuluoedd o löwyr, a oedd fel arfer yn byw gyda'u gwragedd, plant, teulu estynedig; ac ar brydiau lojars hefyd!

Felly pwy oedd trigolion Bwthyn Treftadaeth a sut y gallwn ddarganfod mwy amdanynt?

Ein cam cyntaf oedd cofnodion cyfrifiadau sydd, o 1871 ymlaen, yn rhoi manylion am y bobl yr oedd Bwthyn Treftadaeth yn gartref iddynt. Mae'r cofnodion hyn yn rhoi darlun bywiog o fywyd a gwaith yr adeg honno. Mae'n ddarlun o fythynnod gorlawn a gweithlu dros dro a oedd yn cynnwys llafur plant.

Cofnodion Cyfrifiadau

Mae'n ddarlun o fythynnod gorlawn a gweithlu dros dro a oedd yn cynnwys llafur plant.

1871 - teulu Voss yw'r trigolion cyntaf a gofnodir, a dengys y cofnodion bod y tad a'r llysfab yn gweithio yn y diwydiant glo.

Erbyn 1881 teulu Morgan oedd yn byw yno - mam, tad a phump o blant, i gyd mewn t? pedair ystafell bychan.

Ddeg mlynedd yn ddiweddarach, Edward Jones - glöwr a g?r gweddw - yw'r penteulu, a oedd yn cynnwys ei ddau blentyn, ei nai sy'n löwr a'i wraig ef. Dengys y cyfrifiad bod mab 13 mlwydd oed Edward hefyd yn gweithio tanddaear.

1901 - Roedd teulu Read yn byw yno. Roedd y tad a'r mab yn gweithio yn y pyllau glo.

Roedd teulu arall wedi symud i mewn erbyn 1911. Roedd gan y glöwr Rees Lewis a'i wraig Elizabeth bedwar plentyn a dau lojar, a oedd hefyd yn löwyr a oedd yn gweithio sifftiau. Byddai'r fam wrthi'n coginio, glanhau ac yn cynhesu d?r ar gyfer baddonau yn ddi-baid - y 'sifft' hiraf o bosibl ohonynt i gyd.

Ar ôl hynny, bu llai o newid - daeth George Marsh, ei wraig a'i blant yno rywbryd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf ac arhosodd y bwythyn yn y teulu heblaw am ychydig o flynyddoedd yn y 1960au. Wyres George Marsh, Hazel Hartland, oedd yn berchen ar y t? cyn i Cadw ei brynu.  Mae gan Miss Hartland werth tua 80 mlynedd o atgofion o'r bwthyn. Mae ei hatgofion manwl o fywyd y teulu yn ein helpu i ddehongli'r t? ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

O dan arweiniad Cadw bydd gwaith adfer Bwthyn Treftadaeth yn syml ac yn astudio dulliau cost-effeithiol, a mesurau ynni-effeithlon sy'n adeiladu ar rinweddau cynaliadwyedd cynhenid adeiladau traddodiadol.  Bydd y gwaith yn gyfuniad o ddulliau modern a thraddodiadol yn amrywio o insiwleiddio ac atal drafftiau i waith atgyweirio da a fydd yn helpu ffabrig gwreiddiol yr adeilad i berfformio ar ei orau.

Caiff y gwaith ei gwblhau mewn camau. Ein man cychwyn fydd dadansoddiad manwl o'r adeilad er mwyn ei ddeall yn iawn. Bydd hyn yn canolbwyntio ar gyflwr a pherfformiad ynni ac yn cynnwys nifer o fathau gwahanol o brofion, cyn ymgymryd â'r gwaith atgyweirio, ar ôl y gwaith atgyweirio, ac yna ar ôl mesurau ôl-ffitio ynni-effeithlon. Bydd hyn yn helpu i nodi'r gwelliannau effeithlonrwydd ynni ychwanegol y bydd angen i ni eu gwneud, yn gyntaf drwy atgyweirio'r adeilad i safon dda ac yna drwy ôl-ffitio gan ddefnyddio mesurau ynni-effeithlon. 

Bydd y broses, y wybodaeth a gesglir a'r canlyniadau a gyrhaeddir, gyda chymorth gwaith ymchwil arall, yn ein helpu i ddatblygu dull deallus a realistig o atgyweirio adeiladau o'r fath heb fod angen cynnal gwaith ymchwil a dadansoddi helaeth ar bob adeilad traddodiadol.

Rhennir y gwaith yn dair rhan:

Cynhaliwyd arolwg manwl iawn sy'n cynnwys dadansoddiad trylwyr ar gyfer lleithder a phydredd pren. Mae profion eraill ar y gweill hefyd, yn cynnwys profion (thermol) gwerth 'U' insitu. Caiff y canlyniadau eu cymharu â'r gwerthoedd 'U' a gyfrifwyd o ddata a gyhoeddwyd, sef yr hyn y dibynnir arno gan amlaf. Mae gwerthoedd 'U' waliau Bwthyn Treftadaeth hyd at 30% yn well nag a feddyliwyd. Cefnogir y canfyddiad hwn drwy astudiaethau o adeiladau traddodiadol eraill sy'n rhoi'r un canlyniadau.

Mae profion a gwaith dadansoddi arall yn cynnwys profion cyfernod gwresogi thermol sy'n mesur pa mor effeithlon y mae adeilad o ran ei ddefnydd o ynni. Bydd thermograffi is-goch yn ein galluogi i weld lle y caiff ynni ei ollwng o'r adeilad, a bydd profion gollyngiad aer yn ein helpu i ddod o hyd i darddiad y drafftiau. Byddwn hefyd yn cynnal gwaith monitro amgylcheddol er mwyn mesur sut mae tywydd a'r defnydd a wneir o'r adeilad yn effeithio ar gyflyrau amgylcheddol a sut mae hyn oll yn effeithio ar berfformiad thermol gorchudd yr adeilad, yn ogystal â symudiadau lleithder, gan fod hyn hefyd yn effeithio ar gyflwr adeiledd yr adeilad.

Gall gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio sy'n cadw'r adeilad yn sych a chlyd wella effeithlonrwydd ynni os caiff ei gwblhau yn gywir.

Yn aml caiff adeiladau traddodiadol eu camddeall, a chânt eu trin yn yr un ffordd ag adeiladau modern. Er enghraifft, gall y ffordd y caiff waliau eu trin a'u hatgyweirio effaith fawr ar effeithlonrwydd ynni. Gall waliau llaith olygu y caiff traean yn fwy o wres ei golli a bydd gwaith atgyweirio yn Bwthyn Treftadaeth yn cynnwys cael gwared ar y pwyntio morter sment sy'n bodoli ar hyn o bryd. Gall craciau ddatblygu mewn morter sment sy'n caniatau i leithder dreiddio i mewn, sydd wedyn yn cael ei ddal y tu mewn i'r waliau. Caiff waliau eu hail-bwyntio mewn morter calch sy'n caniatau i'r lleithder ddianc gan olygu lefelau lleithder is y tu fewn i'r adeilad.

Gall ffenestri, unwaith y cânt eu hatgyweirio a'u gwrth-ddrafftio, leihau gollyngiadau aer o 86% ac o ganlyniad i hyn wella eu heffeithlonrwydd ynni. Bydd atgyweiriadau effeithlonrwydd ynni eraill yn cynnwys rhoi rendr calch ar y drychiad cefn rwbel cerrig, gwaith i'r gwteri dwr glaw, pibellau am i lawr a draeniau, a gwaith atgyweirio i'r simnai a'r to.

Mae amrywiaeth o fesurau ôl-ffitio y gellir eu gwneud o bosibl yn Bwthyn Treftadaeth er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni ymhellach yn cynnwys gosod haen arall o wydr sy'n golygu gwelliant o 63% sy'n cynyddu i 77% os caiff paneli pren sy'n plygu'n ôl ac sydd wedi'u hinsiwleiddio eu gosod hefyd.

Mae mesurau eraill yn cynnwys ailosod y cyntedd y tu mewn i'r fynedfa flaen, ac adeiladu portsh allanol yn y cefn lle bu adeilad allanol yn flaenorol. Mae insiwleiddio'r groglofft, goleuadau ynni isel, gwresogi ynni isel, ynni adnewyddadwy, panel rheoli gwresogi da, mesurydd 'smart' ynghyd â mesurau casglu dwr hefyd yn bosibiliadau tebygol. Fodd bynnag, canlyniadau'r gwaith ymchwil a'r dadansoddi fydd yn penderfynu ar y mesurau ôl-ffitio mwyaf addas.