Skip to main content

Ailagor safleoedd heb staff: Cwestiynau Cyffredin

 

  1. Beth mae ‘safle heb staff’ yn ei olygu?

Mae gennym eiddo treftadaeth heb staff ar hyd a lled Cymru ac maen nhw’n amrywio o gestyll ac abatai canoloesol i feini hirion a siambrau claddu cynhanesyddol.  Mae modd mynd i'r safleoedd hyn yn rhad ac am ddim.  Does dim canolfannau i ymwelwyr na staff yn y safleoedd hyn.

 

  1. Dydy fy safle lleol heb staff ddim ar y rhestr o’r rhai sydd ar agor – pryd fydda i’n cael ymweld?  

Rydyn ni’n gwerthfawrogi bod ein safleoedd treftadaeth a’n henebion yn yr awyr agored yn gallu rhoi synnwyr o dawelwch, mwynhad a llesiant i gymunedau lleol yn ystod y cyfnod ansicr hwn. Felly, rydyn ni’n gweithio’n galed gydag awdurdodau lleol Cymru i agor cynifer o’n safleoedd treftadaeth heb staff sydd yn yr awyr agored ag y gallwn ni, a gwneud hynny yn y ffordd fwyaf diogel bosibl.                                                                                       

Byddwn yn ailagor safle heb staff Cadw ar ôl cynnal archwiliadau iechyd, diogelwch a chynnal a chadw angenrheidiol, a all gynnwys cyflwyno mesurau cadw pellter cymdeithasol newydd, er mwyn i ni allu bod yn hyderus bod pob safle yn ddiogel i ymwelwyr eu defnyddio’n gyfrifol.

Gyda dros 100 o safleoedd heb staff ar draws Cymru, bydd y broses hon yn cymryd mwy amser mewn rhai henebion na rhai eraill, felly ni allwn roi’r union ddyddiadau pan fydd safleoedd unigol yn ailagor.

Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon pan fydd safleoedd eraill sydd heb staff yn gallu ailagor. Tan hynny, diolch i chi am eich amynedd.

 

  1. Yw hi’n ddiogel i mi ymweld â safle Cadw sydd heb staff?   

Ydy, ar yr amod bod y wefan hon yn nodi bod y safle ar agor. Ni fyddwn yn codi’r cyfyngiad ar fynediad cyhoeddus yn ein safleoedd heb staff oni bai ein bod ni’n siŵr eu bod yn ddiogel i ymwelwyr. 

Ar ben hynny, mae’r rhan fwyaf o’n safleoedd heb staff yn henebion yn yr awyr agored, lle mae’r risg o drosglwyddo’r coronafeirws yn isel iawn. Mewn rhai achosion, rydyn ni wedi cyflwyno mesurau, fel cau tyrrau neu ardaloedd caeedig, er mwyn helpu ymwelwyr lleol i gadw pellter cymdeithasol wrth fwynhau eu hymweliad.

Rydyn ni’n gofyn i’r ymwelwyr ein helpu i gadw’r safleoedd hyn yn ddiogel i bawb drwy ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru bob amser ar gadw pellter cymdeithasol.

Yn yr un modd ag arfer, rydyn ni’n annog pobl i ymweld yn gyfrifol a dilyn y Cod Cefn Gwlad:

 

Parchwch bobl eraill

• meddyliwch am y gymuned leol ac am bobl eraill sy’n mwynhau’r awyr agored

• parciwch yn ofalus gan gadw mynediad i byrth a mynedfeydd yn glir

• gadewch y gatiau a’r eiddo fel roedden nhw cyn i chi gyrraedd

• dilynwch y llwybrau ond gwnewch le i bobl eraill pan fydd hi’n gul.

 

Diogelwch yr amgylchedd naturiol

• peidiwch â gadael eich ôl, ewch â’ch sbwriel adref gyda chi

• peidiwch â dod ag alcohol na barbeciw i safleoedd

• rheolwch unrhyw gŵn yn effeithiol

• baw cŵn - rhowch e mewn bag ac wedyn mewn bin, neu ewch ag ef adref gyda chi.

 

Mwynhewch yr awyr agored

• cynlluniwch ymlaen llaw, ymchwiliwch i weld pa gyfleusterau sydd ar agor, paratowch

• dilynwch y cyngor a’r arwyddion lleol a chadwch bellter cymdeithasol.

 

Darllenwch ein cyngor a'n canllawiau diweddaraf ar ymweld â'n safleoedd di-staff.

 

  1. Mae fy safle treftadaeth heb staff lleol wedi ailagor. Fydda i’n gallu defnyddio’r maes parcio gerllaw?

Mae cyfleusterau parcio yn rhai o’n safleoedd treftadaeth heb staff. Edrychwch ar dudalen y safle ar y we i gael gwybodaeth benodol neu ddiweddariadau i’r cyfleusterau parcio cyn i chi ymweld. Gallwch chi chwilio am eich safle lleol yma.

Ar ben hynny, mae rhai o’n safleoedd heb staff yn cael eu cloi dros nos felly mae hi’n werth edrych ar dudalennau gwe safleoedd unigol i gael manylion yr oriau agor cyn i chi ymweld.

 

  1. Pam eich bod yn cynnal arolwg ymwelwyr mewn safleoedd treftadaeth heb staff?

Rydyn ni’n defnyddio'r arolwg hwn i’n helpu ni i fonitro bod ymwelwyr yn defnyddio ein safleoedd yn ddiogel, ac mae’n ffordd syml i ymwelwyr lleol roi gwybod am unrhyw broblemau e.e. ymddygiad gwrthgymdeithasol a chriwiau mawr gyda'i gilydd.

Byddwn yn monitro ymatebion yr arolwg bob dydd ac yn trosglwyddo unrhyw bryderon i’r adrannau perthnasol iddyn nhw eu hadolygu a’u rheoli. 

Mae’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu drwy'r arolwg yn ddienw – felly ni fydd yn cynnwys unrhyw ddata personol.

 

  1. Rwyf eisiau rhoi gwybod am bryder iechyd a diogelwch (e.e. ymddygiad gwrthgymdeithasol, criwiau mawr gyda’i gilydd, problem gyda chynnal a chadw’r safle) yn fy safle treftadaeth lleol sydd heb staff. Beth ddylwn i ei wneud?

Llenwch ein harolwg ymwelwyr safleoedd heb staff i roi gwybod am y broblem iechyd a diogelwch. Byddwn yn monitro’r ymatebion hyn bob dydd ac yn trosglwyddo unrhyw bryderon i’r adrannau perthnasol iddyn nhw eu hadolygu a’u rheoli.

Os oes gennych chi bryder brys — ffoniwch ni ar 03000 256000.

Risg i Fywyd:

Os gwelwch chi ddigwyddiad neu sefyllfa sy’n peri bygythiad dybryd i fywyd ein hymwelwyr, ffoniwch y gwasanaeth brys priodol ar 999. 

Risg i’r Heneb / Trosedd Treftadaeth yn digwydd ar y funud:  

Os oes angen i chi roi gwybod bod difrod yn cael ei wneud, ffoniwch yr heddlu ar 101 a gofyn iddyn nhw ddod i’r safle. 

Rhoi gwybod bod difrod wedi cael ei wneud i un o henebion Cadw:

Os ydych chi eisiau rhoi gwybod eich bod yn gweld difrod i heneb heb staff – e-bostio Cadw@llyw.cymru neu ffoniwch ni ar 03000 256000 (Dydd Llun – Dydd Gwener, rhwng 8.30am a 5pm). 

Rhoi gwybod am broblem gyda chynnal a chadw’r safle – os ydych chi eisiau rhoi gwybod am broblem gyda chynnal a chadw’r safle, e-bostiwch Cadw@llyw.cymru neu ffoniwch ni ar 03000 256000 (Dydd Llun – Dydd Gwener, rhwng 8.30am a 5pm). 

 

  1. Pryd bydd eich safleoedd treftadaeth gyda staff yn ailagor i ymwelwyr?

Yn unol â chyngor a chanllawiau Llywodraeth Cymru, mae ein holl henebion gyda staff yn dal ar gau i ymwelwyr, ond rydyn ni’n cynllunio er mwyn ailagor y rhain yn ddiogel, gan gynnwys cestyll, abatai a thai hanesyddol eiconig — ac rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu chi’n ôl cyn gynted ag y bydd hi’n ddiogel gwneud hynny.

Cadwch lygad ar ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ac unrhyw gyhoeddiadau pellach.