Skip to main content

Gweler ynglwm cyfle newydd a chyffrous gan Cadw ar gyfer gweithredwr arlwyo proffesiynol i ddarparu a rheoli gwasanaeth arlwyo unigryw yng Nghastell Caernarfon, Safle Treftadaeth Y Byd yng Nghaernarfon, Gwynedd.

Cychwyn yn y lle cyntaf gyda’r Ciosg Dros Dro, ond gyda dull datblygu graddol fyddai’n caniatáu i'r gweithredwr wedyn ehangu i'r gofod mwy parhaol sydd wedi'i greu oddi mewn i Borth y Brenin ar ei newydd wedd.

Mae'r Ciosg Dros Dro ar gael ar unwaith ac yn ei le ar y safle, a'r gobaith yw y bydd gweithredwr trydydd parti a ddewisir yn ei redeg o fis Hydref 2021, a hynny yn dilyn y broses ‘Datganiadau o Ddiddordeb’ hon. Byddai hyn yn ffurfio cam un o'r cyfle hwn gyda ‘Caffi Castell’ yn ychwanegol o Haf 2022.

Mae’r holl manylion ac amserlen digwyddiadau wedi ei cyflenwi yn y dogfen ‘Allan i’r Farchnad’ ynghlwm. Rhaid anfon pob cynnig at cadwcommercial@llyw.cymru i'w dderbyn erbyn hanner dydd fan bellaf ar ddydd Gwener 23 Gorffennaf, 2021.