Bathodyn Sgowtiaid Newydd yn cael ei Lansio yng Nghastell Caerffili
Daeth grŵp o bobl ifanc o bob rhan o adrannau ScoutsCymru i fod y cyntaf yng Nghymru i dderbyn Gwobr Cennin Pedr newydd wrth i Cadw a ScoutsCymru lansio bathodyn cenedlaethol yn swyddogol i ddathlu diwylliant, treftadaeth a hunaniaeth Cymru.
Mae’r Wobr Cennin Pedr, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â phobl ifanc, yn annog Sgowtiaid o bob oed i archwilio'r iaith Gymraeg, traddodiadau, straeon a lleoedd hanesyddol trwy amrywiaeth o weithgareddau ymarferol a chreadigol.
Lansiwyd y wobr yn swyddogol yng Nghastell Caerffili ar 11 Gorffennaf 2026, lle cyflwynwyd eu bathodynnau i bobl ifanc o adrannau Squirrels, Beavers, Cubs, Sgowtiaid ac Explorers a dreialodd y bathodyn, gan ddod y cyntaf yng Nghymru i ennill Gwobr Cennin Pedr a helpu i lunio ei datblygiad cyn ei chyflwyno'n genedlaethol.
Roedd Dr Kathryn Roberts, Prif Weithredwr Cadw yn falch o groesawu Uchel Siryf Gwent, Mrs Shereen Williams MBE, Mrs Agnes Xavier Phillips YH DL, Dirprwy Arglwydd Raglaw Gwent, Mr Mike Prew, Maer Tref Caerffili, a thros 60 o bobl ifanc a gwirfoddolwyr o’r Sgowtiaid ledled Cymru i'r castell. Dywedodd:
"Rwy'n falch bod Cadw yn cefnogi’r Wobr Cennin Pedr. Mae hon yn ffordd wych i bobl ifanc ymgysylltu â threftadaeth a diwylliant anhygoel Cymru a dysgu amdanynt.
"Mae ein lleoedd hanesyddol yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio Cymru fodern ac mae wedi bod yn wych gweld angerdd pawb wrth dderbyn eu gwobrau heddiw. Edrychwn ymlaen at groesawu mwy o bobl ifanc i'n henebion wrth iddynt archwilio ein treftadaeth a rennir a gweithio tuag at wobr Cennin Pedr."
Fel rhan o'r bartneriaeth, mae Cadw yn cefnogi'r wobr drwy gyllid a thrwy alluogi mynediad i'w safleoedd hanesyddol ledled Cymru, gan roi cyfle i bobl ifanc brofi treftadaeth Cymru yn uniongyrchol a chysylltu â'r lleoedd sy'n adrodd stori'r genedl. Mae'r wobr wedi'i chynllunio i fod yn hygyrch ym mhob adran, o squirrels i explorers, gyda gweithgareddau yn amrywio o ddysgu caneuon Cymraeg ac archwilio'r Eisteddfod, i goginio bwyd traddodiadol, ymweld â safleoedd hanesyddol ac ymgysylltu ag Addewid y Sgowtiaid yn Gymraeg.
Mae ScoutsCymru yn cefnogi bron i 14,000 o bobl ifanc ledled Cymru, rhwng 4 a 25 oed, ac yn cael ei gyflenwi gan dros 4,600 o wirfoddolwyr mewn cymunedau ym mhob un o'r 22 ardal awdurdod lleol.
Dywedodd Maddie, aelod o Dîm Ieuenctid ScoutsCymru a helpodd i ddatblygu'r wobr:
"Mae wedi bod yn gyffrous iawn helpu i ddatblygu rhywbeth y gall pobl ifanc eraill ledled Cymru gymryd rhan ynddo. O ddysgu geiriau Cymraeg newydd i ymweld â llefydd hanesyddol, mae rhywbeth yn y wobr i bawb."
Dywedodd Jamie, sydd hefyd yn aelod o Dîm Ieuenctid ScoutsCymru ac wedi chwarae rhan ganolog yn y gwaith o ddatblygu’r wobr:
"Mae’r Wobr Cennin Pedr yn ymwneud â dod â Chymru'n fyw. Mae'n ymarferol, yn greadigol ac yn rhywbeth y gall pob person ifanc weld eu hunain ynddo."
Trwy gyfuno antur awyr agored, dysgu diwylliannol a mynediad i rai o safleoedd hanesyddol pwysicaf Cymru, mae’r Wobr Cennin Pedr yn cefnogi pobl ifanc i feithrin sgiliau, hyder ac ymdeimlad cryfach o gysylltiad â Chymru.
Mae’r Wobr Cennin Pedr bellach ar gael i bob grŵp Sgowtiaid, gydag arweinwyr yn cael eu hannog i'w chyflawni mewn ffyrdd sy'n adlewyrchu eu cymunedau lleol, gan gefnogi pobl ifanc i fagu hyder, datblygu sgiliau newydd a dyfnhau eu cysylltiad â Chymru.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://scoutscymru.org.uk/welsh-awards/