Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Wedi ei gyhoeddi

Dros ddau ddiwrnod gogoneddus yr haf hwn, ar Orffennaf 13 a 14, roedd Abaty Nedd yn llawn bwrlwm wrth i tua 300 o ddisgyblion cyffrous a chwilfrydig o ysgolion uwchradd a chynradd lleol ddod draw i’r safle pwysig hwn ar garreg eu drws, a dysgu mwy am yr Abaty gan amryw o arbenigwyr a gweld llu o 'drysorau'.

Mae Ysgol Gyfun Dŵr y Felin yn ysgol Ceidwaid Ifanc Cadw sy'n gysylltiedig â safle'r Abaty. Mae wedi cymryd rhan mewn sawl 'Diwrnod Hwyl' ers nifer o flynyddoedd, gan gynnal gweithgareddau amrywiol ar draws y safle - chwiliadau Mathemateg, Saesneg a phynciau eraill wedi’u darparu gan Cadw a chan yr ysgolion. Pwy feddyliai y gallai Trigonometreg fod yn gymaint o hwyl!

Mae’r Diwrnodau Hwyl wedi mynd o nerth i nerth dro sy blynyddoedd diwethaf, wrth i Cadw wahodd a chroesawu mwy o sefydliadau cefnogol i gyfrannu at y cynnig. Ac eleni, ehangwyd y Diwrnodau Hwyl o un i ddau ddiwrnod, gydag ysgol newydd, Ysgol Gynradd Gymraeg Rhosafan o Bort Talbot, yn ychwanegu dimensiwn newydd. Roeddem hefyd wedi gwahodd grwpiau treftadaeth lleol i ymuno â ni ar ôl i'r diwrnod ysgol ddod i ben.

O amgylch yr Abaty, rhannodd aelodau o Cadwraeth Cymru, sef tîm cadwraeth Cadw, eu gwybodaeth a'u sgiliau gydag arddangosiadau ymarferol o gerfio cerrig, pwyntio morter calchfaen a gwaith plastr, gan gyflwyno'r disgyblion i sgiliau adeiladu traddodiadol. Dangosodd Rubin Eynon, yr un wnaeth greu modelau’r Tŷ Tuduraidd a'r Abaty sy'n rhan o ddehongliad y safle, sut yr aeth ati i greu’r modelau, tra rhoddodd grwpiau, Historia Populi ac Over There's, ddehongliad hanesyddol byw mewn ffordd ddifyr ac ysgafn.

Eleni yn y Claddgell sydd wedi'i ddatgloi, ymunodd Amgueddfa Cymru, Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd Castell-nedd, a Chymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd â ni. Gyda'i gilydd mi wnaethon nhw roi  mewnwelediadau diddorol i hanes a phwysigrwydd yr Abaty. 

Diolch i'r partneriaid hyn, mi wnaeth y disgyblion a fynychodd y Diwrnodau Hwyl eleni gael cipolwg ar siarteri'r Abaty, teils marchogion yn ymgiprys enwog Castell-nedd, ceiniogau arian o gasgliad a ddarganfuwyd ar y safle, darnau o wydr a phlastr wal o'r eglwys ganoloesol a chasgliad o ddogfennau a delweddau yn ymwneud â chloddio'r safle gan Barti Ymchwil Abaty Castell-nedd.

Mae'r adborth gan y ddwy ysgol wedi bod yn hynod gadarnhaol. Cafodd y plant amser gwych, gan ymgysylltu trwy'r amser, a mynd adref gydag ymdeimlad gwirioneddol o gyffro am hanes, treftadaeth a chrefftau traddodiadol. 

Ar ôl y diwrnod dywedodd Mrs Morgan pennaeth Ysgol Gynradd Gymraeg Rhosafan:

"Mae'r plant (a'r staff!) wedi mwynhau'r profiad yn fawr ac wedi cael eu hysbrydoli i ddysgu am yr abaty a'i hanes cyfoethog. Mi wnaeth brwdfrydedd a gwybodaeth y rhai oedd yn arwain y sesiynau ddod â'r safle’n fyw i ni. Roedd yn hyfryd gweld y plant yn ymgysylltu a gofyn cwestiynau ystyriol trwy gydol yr ymweliad. Doedden ni ddim wedi sylweddoli bod safle hanesyddol mor ryfeddol ar garreg ein drws. Mae ymweld â'r abaty yn sicr wedi helpu'r plant i gael mwy o werthfawrogiad o'u treftadaeth leol, ac rwy'n gobeithio ei fod wedi sbarduno diddordeb mewn hanes a fydd yn parhau i ddatblygu, yn enwedig yn hanes eu cymuned a'u hardal eu hunain. Diolch eto am wneud y diwrnod yn un mor bleserus a chofiadwy i bawb a gymerodd ran."

Dywedodd Bev Bowen o Dŵr y Felin:

"Diolch unwaith eto am ddiwrnod ardderchog ddoe. Fe wnaeth y disgyblion i gyd fwynhau'n fawr, fel arfer, ac roeddwn wrth fy modd cael gweld mwy o drysorau eleni. Roedd yn wych."

Mae digwyddiadau fel y rhain yn hynod o bwysig i Cadw. Dyma fydd profiad ystyrlon cyntaf llawer o’r plant o safle hanesyddol, gan greu atgofion a chyfleoedd dysgu a fydd yn aros gyda nhw am flynyddoedd i ddod. 

Nid mater bach yw darparu profiad mor gofiadwy ac ymarferol i gymaint o bobl ifanc. Ni fyddai wedi bod yn bosibl cynnal y diwrnod heb y gwaith partneriaeth ac ymroddiad, gwaith caled, amynedd a haelioni’r partneriaid wrth rannu eu gwybodaeth, a'r ymgysylltiad gan arweinwyr yr ysgolion dan sylw a'r disgyblion wnaeth fynychu’r diwrnod, ac ni fyddai chwaith wedi bod yn ddigwyddiad ymgysylltu mor wych ag y bu.

Felly, nawr rydym eisoes yn bwrw iddi i gynllunio ar gyfer Diwrnodau Hwyl Castell-nedd y flwyddyn nesaf!

Am ragor o wybodaeth 

Ynglŷn ag Abaty Nedd - Abaty Nedd | Cadw 

Ymweliadau Addysg â Safleoedd Cadw - Ymweliadau Addysg | Cadw

Dod yn ysgol Ceidwaid Ifanc - Ceidwaid Ifanc Cymru | Cadw 

Y Diwrnod trwy lygaid Dŵr y Felin (10) Adran Hanes Dŵr y Felin (@dyf_history) / X

Perthynol