Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Wedi ei gyhoeddi

Gall ymwelwyr o bob oed fwynhau tymor Calan Gaeaf sy'n llawn straeon am ysbrydion, llwybrau brawychus, profiadau y gallwch ymgolli ynddynt a gweithgareddau sy'n addas i deuluoedd, wrth i Cadw gyhoeddi ei raglen digwyddiadau hanner tymor yn ei gestyll hanesyddol, abatai a lleoliadau hynafol yng Nghymru.

Mae'r rhaglen yn cyfuno gweithgareddau i'r teulu â digwyddiadau gyda'r nos llawn awyrgylch, gan roi cyfle i bob ymwelydd fwynhau treftadaeth Cymru drwy lên gwerin, chwedlau, dirgelwch a dathliadau tymhorol yn rhai o leoliadau hanesyddol mwyaf nodedig y wlad.

Meddai Dr Kate Roberts, Prif Weithredwr Cadw:

"Mae Calan Gaeaf yn amser gwych i brofi lleoedd hanesyddol Cymru mewn goleuni gwahanol. Mae gan lawer o'n safleoedd straeon, chwedlau a hanesion diddorol sy'n gysylltiedig â nhw, sy'n eu gwneud yn llefydd perffaith i gynnal digwyddiadau tymhorol.

"P'un a ydych chi'n chwilio am ddiwrnod hwyliog i'r teulu, gweithgaredd creadigol yn ystod hanner tymor, neu un o'n nosweithiau i oedolion yn unig yn gwrando ar straeon ysbryd a llên gwerin, mae rhywbeth i bawb ei fwynhau ar draws ein rhwydwaith o henebion hanesyddol yr hydref hwn."

Gyda digwyddiadau yn cael eu cynnal ledled Cymru, dyma rai o uchafbwyntiau'r wythnos:

DE CYMRU

Calan Gaeaf (Castell Caerffili)

Dydd Sadwrn 24 Hydref i ddydd Sul 1 Tachwedd, 11:00-15:00
Dewch i gastell mwyaf Cymru i helfa iasol i blant, gyda gwobr annisgwyl. Meddyginiaeth ganoloesol erchyll a chrefftau brawychus ar 24-25 Hydref, a bydd swigod swynol a phaentio wynebau hefyd dros benwythnos Calan Gaeaf.

Helfa Arswydus Castell Coch

Dydd Sadwrn 24 Hydref i ddydd Sul 1 Tachwedd, 11:00-15:00

Yn awyrgylch hud a lledrith Castell Coch, mae'r helfa hon sydd ddim yn rhy frawychus yn herio teuluoedd i ddilyn cliwiau ac ennill gwobr annisgwyl. Mae peintio wynebau a chrefftau dychrynllyd yn ychwanegu at yr hwyl dros benwythnos Calan Gaeaf.

Addurno Pwmpenni Bach (Castell Cas-gwent)

Dydd Sadwrn 24 Hydref i ddydd Sul 1 Tachwedd, 10:00-16:00

Dechreuwch yng ngharchar brawychus Castell Cas-gwent, lle mae pob un yn dewis pwmpen fach cyn mynd i'r man addurno. Mae popeth sydd ei angen arnoch - peniau, sticeri a thlysau - ar gael i addurno’r bwmpen a mynd â hi adref gyda chi.

Noson o Straeon Ysbryd (Castell Cas-gwent)

Dydd Iau 29 Hydref, 18:30-19:30 a 20:30-21:30

Lapiwch yn gynnes ac eisteddwch yn hen bantri Castell Cas-gwent wrth i storïwyr adrodd chwedlau lleol a straeon ysbryd yn y gaer ganoloesol. Mae diod boeth am ddim i groesawu gwesteion i'r noson gartrefol hon sydd i oedolion yn unig, mae’n hanfodol archebu lle ymlaen llaw.

Hwyl Calan Gaeaf: Straeon Brawychus a Chrefftau Creadigol (Gwaith Haearn Blaenafon)

Dydd Iau 29 Hydref i ddydd Sadwrn 31 Hydref, 11:00-15:30

Yn yr hen waith haearn atmosfferig adroddir hanesion dirgel o chwedlau, llên gwerin a straeon ysbrydion Cymru. Mae crefftau Calan Gaeaf creadigol yn cwblhau tri diwrnod o adloniant tymhorol yng nghanol Blaenafon.

Chwedlau Brawychus y Baddonau Rhufeinig  (Baddonau Rhufeinig Caerllion)

Dydd Sadwrn 24 Hydref i ddydd Sul 1 Tachwedd, 10:00-16:00
Wedi'u cuddio ymhlith olion Baddonau Rhufeinig Caerllion, mae nifer o greaduriaid chwedlonol wedi symud i mewn. Dilynwch eu llwybrau dirgel o amgylch y safle hynafol i ddarganfod pa greaduriaid brawychus sy'n llechu ymhlith yr adfeilion.

Noson o Straeon Ysbryd a Llên Gwerin o Gymru (Tref Rufeinig Caerwent)

Dydd Gwener 30 Hydref, 19:00-20:30

Gall oedolion ymgynnull yn Ysgubor Caerwent am noson o straeon ysbryd a llên gwerin o Went a thu hwnt. Mae'r digwyddiad yn cynnwys diod boeth am ddim ac mae’n hanfodol archebu lle ymlaen llaw.

GOGLEDD CYMRU

Calan Gaeaf ym Mhlas Mawr gyda Chwmni Theatr Ceridwen 

Dydd Sadwrn 31 Hydref, 10:00-15:00

Camwch i mewn i un o dai tref Elisabethaidd gorau Prydain wrth i Feistr Plas Mawr a'i deulu baratoi ar gyfer parti Calan Gaeaf chwedlonol yn ddiweddarach y noson honno. Bydd cymeriadau hanesyddol yn rhannu llên gwerin lleol ac yn datgelu ofergoelion Cymru'r unfed ganrif ar bymtheg i ymwelwyr yn ystod y dydd.

Cwmni Theatr Ceridwen yn cyflwyno: Dirgelwch Llofruddiaeth Plas Mawr

Dydd Sadwrn 31 Hydref, 18:30-19:45 a 20:15-21:30

Mae'n Noswyl yr Holl Saint, 1585, ac mae llofruddiaeth wedi tarfu ar neuaddau dirgel Plas Mawr. Ymunwch â digwyddiad theatrig ac ymgollwch ynddo wrth holi'r teulu, ystyried yr sibrydion am ddewiniaeth a gweithgarwch goruwchnaturiol, a datgelu'r gwir i achub y teulu. Rhaid archebu lle.

Helfa Calan Gaeaf (Castell Dinbych)

Dydd Sadwrn 31 Hydref, 10:00-16:00

Yng Nghastell Dinbych bydd llwybr Calan Gaeaf sy'n llawn crefftau dychrynllyd, peintio wynebau a gwobrau siocled. Dewch mewn gwisg frawychus a cherddwch drwy’r gaer ddramatig ar ben bryn ar daith llawn arswyd.

Hanes Byw – In Time Unlimited (Castell Conwy)

Dydd Mawrth 27 Hydref i ddydd Gwener 30 Hydref, 10:00-16:00

Teithiwch yn ôl i 1283 a helpwch i adeiladu Castell Conwy trwy ymgolli mewn byd rhithwir. Cewch gyfarfod cymeriadau hanesyddol, datrys posau a chwblhau teithiau canoloesol mewn antur ryngweithiol unigryw.

Arswyd Calan Gaeaf (Castell Biwmares)

Dydd Sadwrn 31 Hydref, 10:00-17:00

Mae cymeriadau arswydus yn llechu y tu mewn i Gastell Biwmares wrth i chi ddilyn y llwybr Calan Gaeaf trwy'r gaer ganoloesol anorffenedig. Cewch gyfarfod y gwrachod sy’n byw yno yn eu hystafell grefft llawn arswyd, cewch wneud rywbeth sy’n codi braw i fynd adref a chwblhau'r her am wobr siocled.

Teithiau Calan Gaeaf Brawychus (Castell Conwy)

Dydd Llun 26 Hydref i ddydd Mawrth 27 Hydref, am 11:00, 12:30 a 14:00

Dewch i Gastell Conwy yr hydref hwn am daith sy’n addas i blant sy'n cyfuno ysbrydion cyfeillgar ag ochr mwy dychrynllyd bywyd canoloesol. Cewch glywed am gyfrinachau dychrynllyd y castell, arferion anghwrtais wrth y bwrdd bwyd a meddyginiaethau echrydus yn y gaer hon sy’n safle Treftadaeth y Byd.

Hwyl Calan Gaeaf (Castell Harlech)

Dydd Sadwrn 31 Hydref, 11:00-16:00

Yn erbyn cefndir dramatig Castell Harlech, dilynwch lwybr Calan Gaeaf drwy'r cadarnle canoloesol cyn gwneud bathodynnau brawychus a chrefftau tymhorol.

Teithiau Castell Caernarfon

Dydd Iau 29 Hydref, teithiau am 11:00-11:45 a 15:00-15:45

Ymunwch â cheidwaid y castell am daith gerdded 45 munud o amgylch Castell Caernarfon, a darganfod hanes ddiddorol y safle Treftadaeth y Byd UNESCO hwn a’r straeon y tu ôl i'w furiau canoloesol cadarn.

Gorllewin Cymru: 

Llwybr Calan Gaeaf (Castell Cydweli)

Dydd Llun 26 Hydref i ddydd Sul 1 Tachwedd, 09:30-17:00

Dewch i hela am gwestiynau Calan Gaeaf sydd wedi'u cuddio o fewn muriau Castell Cydweli a'u datrys i gyd i fod yn rhydd ac ennill gwobr. Efallai y bydd y rhai sy'n methu yn cael eu rhoi dan glo yn y dwnsiwn gydag ysbryd Gwenllïan.

Llwybr Calan Gaeaf (Castell Talacharn)

Dydd Sadwrn 31 Hydref, 11:00-16:00

Crwydrwch dyrau a thiroedd Castell Talacharn i chwilio am lythrennau coll. Rhowch nhw at ei gilydd i ffurfio gair Calan Gaeaf, yna mynnwch eich gwobr ar ôl cwblhau'r her dymhorol hon.

Diwrnodau Gweithgareddau i Blant (Abaty Ystrad Fflur)

Dydd Iau 29 Hydref, 10:00-12:00

Gall haneswyr ifanc ymchwilio i orffennol canoloesol Abaty Ystrad Fflur trwy weithgareddau rhyngweithiol sydd ar gael yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Mae'r pynciau'n cynnwys bywyd y mynaich Sistersaidd, Ffermdy Mynachlog Fawr, a thirwedd ddiwydiannol yr ardal. Mae’n hanfodol archebu lle drwy'r wefan.

CANOLBARTH CYMRU

Llwybr Arswydus (Llys a Chastell Tretŵr)

Dydd Gwener 30 Hydref i ddydd Sadwrn 31 Hydref, 10:00-16:00

Mae Gwrach Tre-tŵr wedi colli ei heiddo ar hyd a lled y llys a'r castell hanesyddol. Chwiliwch yr ystafelloedd a'r tiroedd i ddarganfod yr eitemau coll, bydd gwobr felys i’r helwyr llwyddiannus.

Mae capasiti cyfyngedig yn rhai o’r digwyddiadau ac mae angen archebu ymlaen llaw. Edrychwch ar y wefan am fanylion.

Aelodaeth Cadw

I'r rhai sy'n awyddus i wneud y gorau o anturiaethau’r hydref, mae aelodaeth Cadw yn cynnig mynediad am ddim i ddigwyddiadau a mynediad diderfyn i fwy na 130 o leoedd hanesyddol ledled Cymru. Mae mynediad am ddim i blant gydag aelodaeth oedolyn, sy'n golygu ei fod yn opsiwn gwerth chweil i deuluoedd ar hyd y flwyddyn.