Menywod a helpodd i lunio Cymru yn cymryd eu sedd yng nghanol dinas Caerdydd
Bydd ymwelwyr â Sgwâr Canolog Caerdydd yn gallu cael cymryd seibiant ochr yn ochr â phum menyw eiconig o hanes a chwedloniaeth Cymru wnaeth helpu i lunio stori’r genedl, diolch i gyfres o gerfluniau maint llawn sydd wedi ymddangos yng nghanol y brifddinas.
Wedi'i gomisiynu gan Cadw a'i greu gan gwmni See What We Can Make, o Gaerdydd, mae'r gosodiad 'Menywod ein Hanes' yn dwyn ynghyd bum menyw y mae eu straeon unigryw yn cwmpasu mytholeg Gymreig, y Gymru ganoloesol, treftadaeth ddiwydiannol a llên gwerin.
Wedi'u lleoli ar feinciau ar hyd a lled y sgwâr, mae'r cerfluniau'n gwahodd pobl i eistedd ochr yn ochr â nhw, tynnu lluniau a dysgu mwy am eu straeon unigryw, gan gynnig ffordd ffres a diddorol o gysylltu â gorffennol Cymru yn y sgwâr cyhoeddus modern.
Er bod llawer o straeon mwyaf adnabyddus y wlad yn canolbwyntio ar frenhinoedd, tywysogion a brwydrau, mae Cymru hefyd wedi’i siapio gan fenywod y mae eu dewrder, eu harweinyddiaeth a'u gwytnwch wedi gadael eu marc ar ein gwlad.
Dywedodd Heledd Fychan, Gweinidog y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon:
"Tydi hanes ddim yn unig yn cael ei siapio gan y bobl sy'n ymddangos yn ein gwerslyfrau. Mae hefyd yn cael ei siapio gan bobl nad yw eu profiadau'n cael eu hadrodd mor aml. Mae'r straeon rydyn ni'n dewis eu rhannu yn ein helpu i ddiffinio sut rydyn ni'n deall Cymru heddiw.
“Mae'r cerfluniau hyn yn dathlu menywod y mae eu bywydau, eu profiadau a'u cyflawniadau yn rhan bwysig o'n treftadaeth gyffredin, ond nad yw eu cyfraniadau bob amser wedi’u cydnabod mor eang.
“Drwy ddod â'r ffigyrau hyn i fannau cyhoeddus, rydyn ni'n creu ffordd ddiddorol a hygyrch i gynulleidfaoedd newydd gysylltu â hanes, gan ennyn chwilfrydedd a sbarduno sgyrsiau am y bobl di-ri sydd wedi siapio Cymru ar hyd y canrifoedd.
“Mae pob ffigwr yn gysylltiedig ag un o safleoedd hanesyddol Cadw, a byddant yn teithio i'w 'cartrefi' priodol yn ddiweddarach yr haf hwn lle gall pobl archwilio, dysgu mwy am straeon y menywod hyn a dychmygu sut fywydau oedd ganddynt."
Gall ymwelwyr gwrdd â phum menyw y mae eu bywydau, eu gwaddol a'u profiadau yn cwmpasu canrifoedd o hanes Cymru, pob un â chysylltiad unigryw â lleoliad Cadw lle gallant ddysgu mwy am lefydd wrth galon hanes ein cenedl.
Dyma’r ffigyrau hanesyddol sy’n cael eu portreadu yn y cerfluniau:
Branwen ferch Llŷr (Castell Harlech)
Tywysoges chwedlonol y mae ei stori yn un o golled, gwytnwch a gobaith. Mae ei cherflun yn cynnwys y drudwy a gludodd neges ar draws y môr i Gymru pan gafodd ei hynysu yn Iwerddon, gan ddod yn symbol o obaith mewn dyddiau du
Margaret Thomas (Gwaith Haearn Blaenafon)
Merch 15 oed a oedd yn gweithio ar lefelau tanddaearol Gwaith Haearn Blaenafon. Gan weithio'n droednoeth, ac yn aml mewn mwd a dŵr, byddai'n treulio diwrnodau maith yn gwthio tramiau mewn amodau garw. Mae ei stori’n taflu goleuni ar realiti llym gweithwyr ifanc, y gwnaeth eu llafur helpu i bweru twf diwydiannol Cymru.
Gwladys ferch Dafydd Gam (Castell Rhaglan)
Uchelwraig amlwg a gaiff ei chofio am ei chryfder, ei ffyddlondeb a'i dylanwad. Mae ei cherflun yn gwahodd ymwelwyr i daro dwrn dathliadol, sy'n symbol o effaith barhaol ei gwaddol.
Gwenllian ferch Gruffudd (Castell Cydweli)
Symbol pwerus o wrthsafiad Cymreig, a arweiniodd luoedd yn erbyn goresgyniad y Normanaidd. Mae ei stori yn anrhydeddu dewrder, aberth a phenderfyniad diwyro i amddiffyn ei thir a'i phobl.
Santes Dwynwen (Castell Biwmares)
Nawddsant cariadon Cymru. Gwahoddir ymwelwyr i gwblhau ystum siâp calon ochr yn ochr â'i cherflun, gan ddathlu cariad, cyfeillgarwch a'r cysylltiadau sy'n uno pobl ar draws cenedlaethau.
Ar ôl ymddangos yn Sgwâr Canolog Caerdydd rhwng 27 a 29 Gorffennaf, bydd y cerfluniau'n symud i'w lleoliadau priodol ar safleoedd Cadw o fis Awst.
Yn ogystal â'r gosodiad, mae dros 70 o ddigwyddiadau ar y gweill mewn lleoliadau Cadw ledled Cymru dros fisoedd yr haf, gan helpu i wneud hanes yn hygyrch i bawb o bob oed a diddordeb.
Ewch iMerched drwy’r oesoedd am fwy o fanylion.