Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig
MYDG yn cynnal cystadleuaeth flynyddol ar gyfer prosiectau treftadaeth yn ysgolion Cymru gan gynnig nifer o wobrau ariannol, gyda hyd at £1000 i’r enillwyr.
Nod Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yw annog pobl ifanc, o bob oed, cefndir a gallu, i ymddiddori fwyfwy yn eu treftadaeth Gymreig (Cynefin a Stori Cymru), i ddarganfod rhagor am gyfoeth ac amrywiaeth eu treftadaeth ac i rannu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’u cymunedau eu hunain â’r byd yn ehangach.
Mae’r fenter yn cynnal cystadleuaeth flynyddol ar gyfer prosiectau treftadaeth mewn ysgolion, gan gefnogi a meithrin datblygu sgiliau trawsgwricwlaidd trwy astudio hanes a diwylliant Cymru. Mae’r cwricwlwm newydd yn darparu cyfleoedd cyfoethog i archwilio’r dreftadaeth Gymreig a chysyniad cynefin gyda dysgwyr ym mhob lleoliad yng Nghymru.
Dehonglir y gair ‘treftadaeth’ yn y modd ehangaf, i gynnwys pobl a’u hanes cymdeithasol, crefydd, traddodiadau a diwylliant; byd gwaith, amaethyddiaeth, diwydiant, cyllid, masnach, gwyddoniaeth, technoleg, celfyddyd a chwaraeon.
Gall y prosiectau hyn fod yn rhan o’r gwaith cwricwlwm-ganolog arferol yn amserlen yr ysgol, neu gallant adlewyrchu gwaith a wneir gan yr ysgol i goffáu digwyddiad, person neu adeilad lleol. Bydd y gwaith prosiect a wneir ar gyfer y gystadleuaeth hon yn ateb llawer o ofynion hanes y cwricwlwm newydd, Cwricwlwm i Gymru. Mae’r prosiectau hyn yn gofyn am ymchwil, casglu defnyddiau, dadansoddi a gwerthuso, ynghyd â sgiliau cyfathrebu.
Gellir eu cyflwyno trwy arddangosfeydd, perfformiadau, adferiadau a dulliau eraill sy’n cyfrannu at dreftadaeth, neu trwy gofnodion print neu ar ffurf electronig. Anogir ysgolion i rannu eu darganfyddiadau. Bydd beirniaid yn asesu’r prosiectau, gan ystyried y lefel briodol o safbwynt llythrennedd, rhifedd a sgiliau technoleg gwybodaeth.