App ffôn symudol Cadw
Darganfyddwch 6,000 o flynyddoedd o hanes ledled y wlad gydag app Cadw. Gallwch baratoi ar gyfer eich ymweliad yn gyflym a hawdd!
Chwiliwch am eich safle Cadw agosaf neu ddod o hyd iddo ar y map cyfleus. Gallwch ddod o hyd i digwyddiadau cyffrous ar safleoedd Cadw, a gwirio amseroedd agor a phrisiau mynediad yn uniongyrchol ar y app.
Am drefnu taith? Cymrwch olwg ar Deithiau Digidol yr app er mwyn lawrlwytho cynnwys ychwanegol a theithiau yn barod ar gyfer eich ymweliad. Yna, wrth i chi grwydro safle o'ch dewis, bydd cynnwys cudd, gan gynnwys gemau, pwyntiau sain ac ail-luniadau cyn/ar ôl yn cael eu datgloi.
Nodweddion eraill yr app:
- Disgrifiadau Safle er mwyn dysgu mwy am eich hoff safleoedd
- Cynnwys cudd arbennig, sy’n cael ei ddatgloi yn ac o gwmpas safleoedd arbennig gan offer Bluetooth, ynni isel
- Orielau lluniau ar gyfer safleoedd mwy o faint
- Sianeli cyfryngau cymdeithasol Cadw er mwyn i chi ddweud wrth eich dilynwyr am eich profiadau yn ymweld â safleoedd Cadw
- Y wybodaeth ddiweddaraf sy’n cynnwys pytiau difyr ynghyd â gwybodaeth newydd
Lawrlwythwch nawr AM DDIM i iPhone neu Android.
Peidiwch ag anghofio rhoi adborth i ni, boed yn yr App Store neu'r Android Market Place, neu ar ein tudalennau Facebook a Twitter. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!