Skip to main content

Nawr, gall ymwelwyr â Chastell Coch, castell mwyaf hudol Cymru, ‘weld’ trigolion chwedlonol y safle trwy lwybr hela tylwyth teg digidol.

Wedi ei leoli o few ap presennol Cadw, gwahoddir y defnyddiwr i chwilio am a chasglu deg gwahanol rywogaeth o dylwyth teg sydd wedi eu lleoli o amgylch y safle swynol - pob un ag enw Cymraeg traddodiadol.

Gan ddefnyddio technoleg realiti estynedig, mae’r tylwyth teg yma ichi eu darganfod, yn cuddio yn ystafelloedd y castell ond dim ond i’w gweld trwy sgrîn (hud) eich ffôn symudol neu lechen (tablet).  Nodwch bob un o’r deg tylwythen deg yng nghofrestr tylwyth teg yr ap i dderbyn gwobr arbennig!

Sut i ddefnyddio’r llwybr:

  • Cyn ymweld â Chastell Coch, lawrlwythwch ap Cadw o siop apiau eich ffôn.  Ymwelwch â’r adran ‘Llwybrau Digidol’ i lawrlwytho cynnwys y tylwyth teg i’ch ffôn er mwyn ichi allu ei ddefnyddio’n y castell pan nad oes cysylltiad. 
  • Yna, pan ddewch chi i’r castell, fydd dim angen signal ffôn symudol na WiFi, dim ond troi eich Bluetooth ymlaen!
  • Pan gyrhaeddwch, bydd dolen i’r llwybr yn ymddangos ym mhrif ddewislen yr ap.  Defnyddiwch y mapiau i’ch arwain trwy’r gwahanol loriau a bydd cofrestr y tylwyth teg yn disgleirio pan fydd un gerllaw.

Cofiwch gasglu’r tylwyth teg yn ddiogel.  Peidiwch ag edrych ar eich ffôn ar y grisiau, yn y maes parcio, nac yn y siop na’r toiledau, na’r tu ôl i ardaloedd wedi eu gwarchod â rhaff, gan na fydd y tylwyth teg i’w gweld yn y mannau yma fyth.

Tylwyth Teg/Fairies young person in the drawing room with 'Manon' on screen