Skip to main content

Arolwg

Tomen a beili mewn cyflwr da, ac iddynt hanes cythryblus

Yn ôl pob tebyg, adeiladwyd Cas-wis gan gyfaneddwr Ffleminaidd cynnar o’r enw anarferol Wizo, ac erbyn hyn hwn yw un o’r cestyll tomen a beili gorau o ran cyflwr yng Nghymru (bryn bach yw tomen, ag amddiffynfeydd fel arfer, wedi’i amgylchynu gan ardal agored, neu feili, y tu mewn i wal allanol).

Yn ymddangos yn gyntaf mewn dogfennau ym 1147 pan ymosododd y Cymry arno, cafodd Castell Cas-wis fywyd byr ond llawn cyffro. Ymosododd y Cymry eto ym 1193, y tro hwn dan arweiniad Hywel Sais (mab Arglwydd Rhys, llywodraethwr y rhan hon o Gymru), cyn i’r tywysog brodorol Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) orffen y gwaith a’i ddinistrio ym 1220.

Mae olion y gorthwr gwag o garreg – ychwanegiad diweddarach at y domen – yn dal i sefyll hyd at 13 troedfedd/4m o uchder mewn mannau, yn ddi-dor i raddau helaeth heblaw am ddarn i’r gogledd a chwalwyd efallai yn ystod ymosodiad Llywelyn.


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Cyfleusterau

Polisi dronau icon Dim ysmygu icon

Cyfarwyddiadau

Ffordd
Isffyrdd oddi ar yr A40, 8km/4.8mllr i'r dwyrain o Hwlffordd
Beic
RBC Llwybr Rhif 440 (4.4m/7km)