Cymru a’r Môr
Mae arddangosfa newydd, Cymru a’r Môr / Wales and the Sea, sydd wedi’i hysbrydoli gan straeon a delweddau o gasgliadau Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru a Cadw, yn cael ei dangos yn awr yng Nghastell Oxwich. Rhai o themâu’r arddangosfa yw Chwedlau o’r Dyfroedd, Awen o’r Môr, Cestyll a Chlogynnau, Peryg ymysg y Tonnau ac, ar nodyn ysgafnach, Ar Lan y Môr. Cafodd yr arddangosfa ei chreu i ddathlu arfordiroedd ysblennydd, moroedd dramatig a dyfrffyrdd mewndirol prysur Cymru, a’r bywyd, antur a chwedloniaeth gyffrous sy’n rhan annatod ohonynt. Yn ogystal â siapio arfordir y wlad, mae’r dyfroedd hyn wedi dylanwadu ar hanes a dychymyg y Cymry. Mae delweddau nodedig yn yr arddangosfa’n cynnwys paentiad o Forest Cove, Cardigan Bay (1883) gan yr arlunydd Cyn-Raffaelaidd John Brett (1831–1902), map môr o Fae Aberystwyth gan Lewis Morris, yr hydrograffydd hunanddysgedig o Ynys Môn (1701–65), a phortread cynnar o ddynion cwrwgl ar lannau Afon Teifi gan Julius Caesar Ibbetson.
Gellir gweld yr arddangosfa yng Nghastell Oxwich o 10 Hydref hyd 3 Tachwedd 2019.
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Oedolyn |
£4.20
|
Teulu* |
£12.20
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
Plant (Oed 5-17) / UCM / Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr |
£2.50
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£3.40
|
*Mynediad i 2 oedolyn a hyd at 3 plentyn o dan 18 |