Skip to main content

Cynnal a Chadw!

Y cam cyntaf tuag at wytnwch hinsawdd ac effaithlonrwydd ynni

Mae'n debyg mai gwaith cynnal a chadw rheolaidd yw'r peth pwysicaf y gallwch ei wneud i ddiogelu eich adeilad hanesyddol. Drwy nodi problemau bach yn gynnar, gallwch atal difrod difrifol a'r angen am waith atgyweirio drud yn nes ymlaen.

Sut i wella Effeithlonrwydd Ynni mewn Adeiladau Hanesyddol

Mae her newid hinsawdd yn golygu bod angen i bawb weithredu.

Rydyn ni wedi creu canllawiau i unrhyw un sydd am wella effeithlonrwydd ynni adeilad traddodiadol neu hanesyddol. Mae rhesymau da dros wneud hyn, gan gynnwys gostwng allyriadau carbon a lleihau biliau tanwydd, ac yn aml gall wneud yr adeilad yn fwy cyfforddus i fyw neu weithio ynddo. Mae’n rhan o fyw'n fwy cynaliadwy hefyd.

Llifogydd ac Adeiladau Hanesyddol yng Nghymru

Grweiniad ar sut i baratoi ar gyfer llifogydd i weithredu yn ystod ac ar ôl llif er mwyn lleihau’r difrod.

Bwriedir Llifogydd ac Adeiladau Hanesyddol yng Nghymru yn bennaf ar gyfer perchnogion tai, perchnogion busnesau bach ac eraill sy’n helpu i reoli adeiladau hanesyddol, ac mae’n egluro sut i fynd ati i ddiogelu adeiladau traddodiadol ac osgoi gwaith atgyweirio modern amhriodol yn dilyn difrod gan lifogydd.

Rheoli Newid i Adeiladau Rhestredig

Mae adeiladau rhestredig yn adnodd cyfyngedig, i’w trysori a’u diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Gall newid fod yn ddymunol neu’n angenrheidiol, ond mae angen ei reoli’n dda.

Mae eich adeilad rhestredig yn ased gwerthfawr unigryw, ond mae’n debyg ei fod eisoes wedi newid dros amser ac efallai y bydd angen i chi wneud newidiadau pellach. Mae a wnelo cadwraeth â rheoli newid yn ofalus. Golyga hyn ddod o hyd i’r ffordd orau o warchod a gwella nodweddion arbennig eich adeilad rhestredig fel y gall y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol ei werthfawrogi a’i fwynhau.