Skip to main content

Asedau Hanesyddol Eraill

Archeoleg arfordirol a morwrol

Yn y canllaw hwn

1. Cyflwyniad

Mae Prydain yn ynys ac mae ein glannau wedi bod yn fannau cyswllt â'r byd y tu allan ers amser maith. Mae masnach, goresgyn ac amddiffyn, fforio, anheddu, hamdden a diwydiant i gyd wedi gadael eu hôl ar y glannau ac ym moroedd Prydain. Yn ddiau nid yw Cymru yn eithriad.

Mae'r dreftadaeth forwrol hon yn adnodd gwerthfawr a gellir defnyddio pob darn o dystiolaeth i adrodd hanes ein cysylltiadau â'r môr. Mae'n amlwg bod llongddrylliadau ac ysgerbydau llongau yn ffynonellau gwybodaeth ac mae gwrthrychau, harbwrs, adeiladau a strwythurau hefyd yn bwysig i greu darlun o'n gorffennol.

Mae storïau eraill, mwy annisgwyl, i'w cael yn y môr ac ar yr arfordir. Mae'r ffin rhwng y tir a'r môr yn newid dros amser. Mae'r arfordir heddiw yn wahanol iawn i'r arfordir y byddai ein hynafiaid cynhanesyddol wedi'i adnabod a'i ddefnyddio filoedd o flynyddoedd yn ôl. Weithiau gallwn weld olion eu tirweddau. Erbyn hyn dim ond yn y parth rhynglanwol neu drwy raglenni arloesol i fapio gwely'r môr y gallwn gael cipolwg ar rannau o'r tir y byddent wedi'i adnabod.

Mae gan Cadw rôl bwysig i'w chwarae o ran diogelu ein treftadaeth forwrol. Gallwn ddiogelu safleoedd pwysig yn gyfreithiol drwy eu dynodi'n henebion cofrestredig a gallwn hefyd ddiogelu'r llongau drylliedig pwysicaf yn gyfreithiol drwy eu dynodi o dan Ddeddf Diogelu Llongau Drylliedig 1973. Rydym hefyd yn gweithio gyda'r Uned Caniatadau Morol i sicrhau y rhoddir sylw i ddiogelu treftadaeth forwrol yn ystod datblygiadau.

Y brif ffynhonnell o wybodaeth am longau drylliedig a phob agwedd ar ein treftadaeth danddwr yw cronfa ddata forol y Cofnod Henebion Cenedlaethol a gasglwyd gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Mae Cadw yn gweithio'n agos iawn gyda'r Comisiwn er mwyn sicrhau bod cofnodion ac arolygon yn gynhwysfawr ac yn cyrraedd y gynulleidfa ehangaf bosibl.

2. ‘Llongau Drylliedig’ a ‘Broc Môr’

Llongau Drylliedig

Mae'r moroedd o amgylch Cymru yn llawn llongau drylliedig o bob math a maint. Er bod gwerth hanesyddol i bob un ohonynt, mae chwech yn cael eu diogelu'n gyfreithiol ar hyn o bryd. Gelwir y chwech hyn yn ‘llongau drylliedig dynodedig’ ac fe'u diogelir o dan Ddeddf Diogelu Llongau Drylliedig 1973. Mae angen trwydded, a roddir gan Cadw, ar gyfer unrhyw weithgareddau ar y llongau drylliedig hyn, gan gynnwys ymweld â hwy, ffilmio a gwaith arolygu. Mae gwahanol drwyddedau ar gyfer gwahanol weithgareddau. Gellir lawrlwytho ffurflenni a nodiadau cefndirol o'n gwefan neu gallwch gysylltu â Cadw i gael cyngor.

Dylai plymwyr sy'n darganfod llong ddrylliedig hanesyddol sicrhau nad ydynt yn ei difrodi; naill ai drwy darfu ar y strwythur neu symud arteffactau o'r llong ddrylliedig. Mae Cadw bob amser yn awyddus i glywed am ddarganfyddiadau ac efallai y byddwn yn gallu helpu i ddarganfod mwy am y safle. 

Broc Môr

‘Broc Môr’ yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio rhywbeth a gollwyd ar y môr. Gall ‘broc môr’ fod yn rhywbeth a gwympodd oddi ar y llong, rhywbeth a daflwyd i ysgafnhau'r llong, neu ddarn o'r llong ei hun. A dweud y gwir, gall ‘broc môr’ fod yn unrhyw beth bron!

Yn ôl y gyfraith mae'n rhaid hysbysu'r Derbynnydd Llongau Drylliedig o unrhyw ddeunydd drylliedig, p'un a gafodd ei ddarganfod ar y môr neu ar y lan. Mae'r mathau o ddeunydd y rhoddir gwybod amdano yn cynnwys portyllau, clychau, cwmpawdau, potiau, canonau, darnau arian, placiau enw ...mae'r rhestr yn parhau. Nid yw rhoi gwybod am froc môr yn golygu y caiff ei gymryd oddi wrthych o reidrwydd, ond mae'n golygu y gellir asesu gwerth hanesyddol ac archeolegol y deunydd a bydd y Derbynnydd Llongau Drylliedig, os yw'n bosibl, yn ceisio darganfod pwy oedd y perchennog.

 

3. Llongau Drylliedig Cymru

Safle Llong Ddrylliedig Lychlynnaidd Smalls, Sir Benfro (SM 4644 0876)

Man darganfod dyrnfol cleddyf llychlynnaidd bwysig yn dyddio o’r 11fed ganrif, ar y llwybr masnach rhwng Dulyn Lychlynnaidd a Denmarc, 25km (15 milltir) o’r lan. Ardal wedi’i diogelu: Cwmpas o 100m, canol 51 43.18’G.  05 40.13’G’n

Y Mary, Skerries, Ynys Môn (SH 2651 9479)

Y ‘cwch hwylio Prydeinig cyntaf’, a adeiladwyd gan y Dutch East India Company ac a roddwyd i’r Brenin Charles II pan y’i dychwelwyd i’r orsedd. Hwyliodd Samuel Pepys ynddo, ac fe’i defnyddid ar gyfer teithiau swyddogol ac ar gyfer teithiau hamdden brenhinol. Fe’i suddwyd ym 1675. Mae wedi’i rhannol ddatgloddio ac mae’r arteffactau yn Amgueddfa Lerpwl. Ardal wedi’i diogelu: Cwmpas o 100m, canol 53 25’16’’G 04 36’40’’G’n

Llong Ddrylliedig Pwll Fanog, Afon Menai, Ynys Môn (SH 5342 7070)

Cwch llwythi yn cludo llechi yn dyddio o tua’r 14eg ganrif neu’r 15fed ganrif. Roedd y llechi o ardal Llanberis, wedi’u hollti â gaing gau ac wedi’u pentyrru i mewn i’r cwch pren sydd wedi goroesi o dan ei lwyth trwm. Mae’n rhoi gwybodaeth bwysig am y diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru ar ddiwedd y cyfnod canoloesol. Ardal wedi’i diogelu: Cwmpas o 150m, canol 53 12’46’’G  04 11’43’’G’n

Llong Ddrylliedig Tal-y-Bont, Abermaw, Gwynedd (SH 5665 2229)

Llong fasnachol yn cludo llwyth o farmor Carerra o’r Eidal, a suddwyd tua 1702. Roedd yn arfog a chanddi 18 o brif ganonau, 8 canon haearn bwrw llai o faint a 10 canon haearn gyr. Mae’r llong ddrylliedig wedi’i rhannol ddatgloddio a datgelwyd ei chloch, a nifer fawr o arteffactau morlywio a domestig. Fe’i suddwyd ar greigiau tanddwr peryglus Sarn Badrig. Ardal wedi’i diogelu: Cwmpas o 300m, canol 52º 46’ 41” N  04º 07’ 24” W

Y Diamond, Abermaw, Gwynedd (SH 5276 2291)

Llong gyfansawdd ddrylliedig yn dyddio o’r 19fed ganrif. Fe’i hadeiladwyd o bren ac â nodweddion copr, ond atgyfnerthwyd ei ffrâm â haearn, ac mae ganddi ddau danc dŵr mawr. Mae’r llong hon a ddarganfuwyd yn ddiweddar (yn agos i long ddrylliedig Tal-y-Bont) heb ei datgloddio, felly nid ydym yn sicr pa lwyth yr oedd yn ei gludo, sut roedd hi’n edrych, na beth oedd ei henw. Mae gwaith arolygu ac ymchwil yn cael ei wneud ar y llong hon. Ardal wedi’i diogelu: Cwmpas o 200m, canol 52 46.531’G  04 11.025’G’n

Llong danfor Resurgam, Y Rhyl, Sir Ddinbych (Na ellir ei newid yn NGR)

Cynlluniwyd Resurgam, sef llong danfor bweredig gynharaf y byd sydd wedi goroesi, gan y Parch Garrett ym 1879 ac fe’i hadeiladwyd gan J T Cochrane ym Mhenbedw (lle y gellir gweld model yn y dociau). Roedd ganddi gorff silindrig a phen blaen a phen-ôl ar ffurf côn ac fe’i gyrrid gan foeler mawr a pheiriant o fath Lamm.  Suddodd 15 milltir o’r Rhyl ar y ffordd i Portsmouth ar gyfer treialon môr. Ardal wedi’i diogelu: Cwmpas o 300m, canol 53 23.78’G  03 33.18’G’n

4. Tirweddau tanddwr

Mae newid yn yr hinsawdd a chynhesu byd-eang yn faterion llosg ar hyn o bryd, ond gorfu i bobl eraill — ein hynafiaid cynharaf — fod yn dyst i newidiadau dirfawr yn eu hamgylchedd hefyd. Gwyddom fod pedair Oes Iâ yn ystod y cyfnod Palaeolithig, rhwng tua 800,000 a 12,000 o flynyddoedd yn ôl. Rhwng yr Oesoedd Iâ hyn cafwyd cyfnodau twymach. Yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf, oherwydd y tymereddau oer a'r haenau iâ helaeth, roedd yn amhosibl byw mewn rhan helaeth o Ogledd Ewrop. Wrth i dymereddau godi a'r rhewlifau ddadmer tua 12,000 o flynyddoedd yn ôl, dechreuodd pobl ymledu i'r gogledd a'r gorllewin. Fodd bynnag, wrth i'r rhewlifau ddadmer cododd lefelau'r môr. Aeth tiroedd isel ffrwythlon dan ddŵr, gan droi coetir yn forfa heli a gwthio morliniau yn ôl tuag at dir uwch. Collwyd tirweddau cyfarwydd, weithiau'n araf ac yn raddol ac weithiau'n hynod o gyflym, o fewn cof cenedlaethau byw. Erbyn hyn gellir ailymweld â'r tiroedd coll hyn oddi ar arfordir Prydain fodern diolch i waith arloesol gan Brifysgol Birmingham. Mae wedi defnyddio data arolwg a gasglwyd gan gwmnïau masnachol i fapio gwely'r môr ac ystyried sut olwg oedd ar y tiroedd cynhanesyddol hyn.

Ni ellir gweld y tirweddau hyn yn fanwl ond gellir mapio nodweddion allweddol. Er enghraifft, gallwn weld lle y llifai cyrsiau afon 12,000 oed i mewn i lyn sylweddol yn ardal Môr Hafren heddiw. Byddai ardaloedd o dir isel o amgylch y llyn wedi bod yn llawn anifeiliaid i'w hela ac mae'n bosibl eu bod yn cynnwys olion archeolegol gwerthfawr. Caiff y math hwn o wybodaeth ei bwydo i mewn i'r broses gynllunio, gan helpu i sicrhau y diogelir ein treftadaeth.

Ariannwyd Prosiect Tirweddau Palaeolithig Arfordir y Gorllewin gan Gronfa Cynaliadwyedd yr Ardoll Agregau a weinyddir gan Lywodraeth Cymru ac English Heritage a chafodd arian gan Cadw hefyd.

5. Ffynonellau gwybodaeth

Dylai'r adnoddau isod eich helpu i ddysgu mwy am yr amgylchedd hanesyddol morol.

I gael gwybodaeth am longau drylliedig dynodedig a'r mathau o drwydded sydd ar gael: Cysylltwch â cadw@llyw.cymru 

I weld Cofnod Amgylchedd Hanesyddol Cymru, gan gynnwys gwybodaeth am safleoedd archeolegol arfordirol a rhynglanwol a mapiau chwiliadwy: www.archwilio.org.uk

I gael gwybodaeth am y gronfa ddata archeoleg forwrol genedlaethol, gan gynnwys cofnodion awyrennau a gollwyd, llongddrylliadau a nodweddion morwrol: CBHC(Morol) I gael gwybodaeth gyffredinol am archeoleg danddwr a chyrsiau sydd i'w cynnal: www.nauticalarchaeologysociety.org

6. Cymerwch ran

Mae Cadw yn gweithio gyda'r Gymdeithas Archeoleg Forwrol i ddarparu hyfforddiant a chyrsiau i bobl yng Nghymru sydd am ddysgu mwy am ein treftadaeth forwrol. Mae rhai cyrsiau yn addas i ddechreuwyr pur ac mae eraill yn gofyn am rywfaint o wybodaeth flaenorol. Mae cyrsiau ar gael i blymwyr a'r rhai nad ydynt yn blymwyr!

Mae'r Gymdeithas Archeoleg Forwrol hefyd yn cynnal y cynllun ‘Mabwysiadu Llong Ddrylliedig’. Os ydych chi, neu eich grŵp, yn plymio i'r un safleoedd llongau drylliedig yn rheolaidd pam nad ydych yn eu ‘mabwysiadu’? Gallech chwarae rhan bwysig yn y gwaith o fonitro cyflwr eich llong ddrylliedig, yn ogystal â helpu i ddarganfod llawer mwy amdani.

Mae Cadw hefyd wedi rhoi cymorth grant i Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru i sefydlu a chynnal prosiect a elwir yn Arfordir. Nod prosiect Arfordir yw annog unigolion a grwpiau i gymryd rhan yn y gwaith o gofnodi safleoedd archeolegol arfordirol yn eu hardal, ymchwilio iddynt a'u monitro.

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd

Arfordir Treftadaeth Arfordirol