Skip to main content

Arysgrifwyd yn 1986

Cestyll Biwmares, Caernarfon, Conwy a Harlech oedd y cestyll gorau a adeiladwyd gan Frenin I Edward yng Nghymru. Yng Nghaernarfon a Chonwy adeiladwyd trefi newydd wedi'u hamgáu o fewn muriau anferth ar yr un adeg â'r cestyll. Cafwyd eu dechrau a'u cwblhau i raddau helaeth rhwng 1283 a 1330. Y canlyniad, yn unigol ac ar y cyd, yw'r enghraifft orau sydd wedi goroesi o bensaernïaeth filwrol o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg yn Ewrop. Gyda'i gilydd, cafodd y pedwar castell hwn a dau fur tref eu harysgrifo ar Restr Treftadaeth y Byd yn 1986 fel Safle Treftadaeth y Byd Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd.

Yn 2004, cyhoeddodd Cadw ei gynllun rheoli cynhwysfawr cyntaf ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd er mwyn helpu i ofalu am y safle er budd cenedlaethau'r dyfodol. Ers hynny cyflawnwyd nifer o'r amcanion a'r camau gweithredu, yn cynnwys gwaith cadwraeth sylweddol, gosod cyfleusterau newydd i ymwelwyr a deunydd dehongli newydd. Hefyd, yn ystod y cyfnod hwn, cafwyd sawl datblygiad strategol ehangach, megis cynlluniau datblygu lleol ac unedol cyfredol a deddfwriaeth sylfaenol newydd mewn perthynas â'r amgylchedd hanesyddol a llesiant cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru.

Felly mae cynllun rheoli newydd wedi cael ei baratoi i ddarparu strategaeth a gweledigaeth glir ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd, ac yn arwain ei waith rheoli ar gyfer y deng mlynedd nesaf.  Paratowyd hyn yn dilyn ymgynghori helaeth â rhanddeiliaid.

Ceir rhagor o wybodaeth am Gestyll a Muriau Trefi’r Brenin Edward yng Ngwynedd ar wefan UNESCO, yn cynnwys datganiad am Werth Cyffredinol Eithriadol, ac yn y cynllun rheoli newydd isod.