Skip to main content

Mae Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i gymryd camau i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch, yn gliriach ac yn haws ei defnyddio. Yn Dyfodol cyfraith Cymru: Rhaglen ar gyfer 2021  i 2026, nododd Llywodraeth Cymru fod cyfraith Cymru ar yr amgylchedd hanesyddol yn bwnc addas ar gyfer ei phrosiect cyntaf mewn rhaglen uchelgeisiol o gydgrynhoi deddfwriaethol. Y canlyniad yw Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.

Roedd ein deddfwriaeth ar yr amgylchedd hanesyddol yn cynnig testun delfrydol ar gyfer prosiect cydgrynhoi oherwydd ei bod wedi troi’n gawdel dryslyd o ddarpariaethau a gafodd eu diwygio dro ar ôl tro ac a oedd yn ddigon i ddrysu cyfreithwyr hyd yn oed. Roedd hefyd yn seiliedig i raddau helaeth ar ddau o statudau San Steffan a oedd yn dyddio’n ôl ddegawdau, felly, roedd y rhan fwyaf o’n deddfwriaeth ar yr amgylchedd hanesyddol ar gael yn Saesneg yn unig.

Cydgrynhoi yw un o’r dulliau allweddol a fydd yn cael ei ddefnyddio i roi trefn ar gyfraith Cymru ac i’w gwneud yn fwy clir. Mae’n golygu y bydd yr holl ddeddfwriaeth sylfaenol ar bwnc penodol, neu'r rhan fwyaf o’r ddeddfwriaeth honno, yn cael ei chasglu ynghyd, ac y bydd ffurf y gyfraith, a'r ffordd yr eir ati i’w drafftio, yn cael eu moderneiddio. Mae'n bosibl y bydd rhywfaint o le i wneud mân newidiadau i'r gyfraith er mwyn cysoni statudau neu ddileu darpariaethau sydd wedi darfod. Y canlyniad fydd deddf newydd gwbl ddwyieithog a fydd yn ailddatgan y gyfraith i Gymru er mwyn ei gwneud yn haws i bawb ei deall a'i defnyddio.

Er, efallai, y bydd strwythur y gyfraith, a'r ffordd y caiff ei mynegi, yn wahanol iawn ar ôl cydgrynhoi, mae'n bwysig pwysleisio na fydd ei heffaith gyfreithiol yn newid mewn unrhyw ffordd. Yn y bôn, proses gyfreithiol dechnegol yw cydgrynhoi, yn hytrach na chyfle i ddiwygio deddfwriaeth.

Er y bydd y broses o gydgrynhoi holl lyfr cyfraith Cymru yn cymryd cryn amser a degawdau i'w chwblhau, rydym yn cymryd y camau cyntaf gyda Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.