Skip to main content

Deddfwriaeth gyfredol

Darparodd y ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol a'r is-ddeddfwriaeth bresennol ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru y deunydd crai ar gyfer y cydgrynhoi a gynhyrchodd Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023. Unwaith y daw Deddf 2023 i rym yn llawn yn hwyr yn ail hanner 2024, bydd y ddeddfwriaeth a gafodd ei chydgrynhoi, sy’n cael ei chrynhoi isod, yn cael ei datgymhwyso ar gyfer Cymru neu’n cael ei diddymu (fel sy’n briodol). Bydd Deddf 2023 a’r rheoliadau sy’n ei hategu wedyn yn creu corff o ddeddfwriaeth ddwyieithog ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol daearol.

Y ddeddfwriaeth sylfaenol

Mae'r ddeddfwriaeth sylfaenol sy'n berthnasol i Gymru yn cynnwys Deddfau Senedd y DU, Deddfau'r Senedd/Cynulliad Cenedlaethol (o 2011 i'r presennol) a Mesurau'r Cynulliad Cenedlaethol (rhwng 2007 a 2011). Yn aml iawn, mae deddfwriaeth sylfaenol yn nodi egwyddorion craidd y gyfraith ac yn sicrhau bod yna ddarpariaeth i is-ddeddfwriaeth neu ddeddfwriaeth eilaidd gynnwys rheolau manylach.

Y prif Ddeddfau

Ar hyn o bryd mae yna ddwy brif Ddeddf sylfaenol ar gyfer gwarchod a rheoli amgylchedd hanesyddol Cymru:

Mae Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 ('Deddf 1979') yn amlinellu’r gyfraith sy'n llywodraethu'r broses o ddynodi, diogelu a rheoli henebion cofrestredig. Mae 4,200 a mwy o henebion cofrestredig yng Nghymru ac maen nhw'n cynnwys safleoedd archeolegol ac adfeilion hanesyddol gwag.

Dan ddarpariaethau Deddf 1979, mae Gweinidogion Cymru, gan weithredu drwy Cadw — gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, yn llunio a chynnal Rhestr o henebion o bwysigrwydd cenedlaethol. Mae'n drosedd difrodi heneb gofrestredig neu wneud gwaith i un ohonynt heb ganiatâd priodol gan Weinidogion Cymru. Mae Deddf 1979 yn cynnwys pwerau gorfodi er mwyn rhoi stop ar waith heb ei awdurdodi ac i'w gwneud yn ofynnol i adfer henebion ar ôl difrod a achoswyd gan waith o'r fath.

Mae Deddf 1979 hefyd yn rheoleiddio proses gaffael a gwarcheidiaeth henebion gan Weinidogion Cymru neu awdurdodau lleol a mynediad cyhoeddus i henebion o'r fath.

Ymhlith y diwygiadau a wnaed gan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (‘Deddf 2016’ — gweler isod) mae darpariaethau ar gyfer cytundebau partneriaeth treftadaeth — cytundebau gwirfoddol sy'n ymgorffori cydsyniadau ar gyfer rheoli henebion cofrestredig yn yr hirdymor — a chofrestr statudol o barciau a gerddi hanesyddol a thirweddau a thiroedd eraill a gynlluniwyd.

Nid yw Rhan II Deddf 1979, sy'n sicrhau darpariaeth ar gyfer dynodi, archwilio a diogelu ardaloedd o bwysigrwydd archeolegol, erioed wedi cael ei defnyddio yng Nghymru ac nid yw wedi ei hailddatgan yn Neddf 2023.

Mae Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 ('Deddf 1990') yn sefydlu'r sail gyfreithiol ar gyfer dynodi, diogelu a rheoli adeiladau rhestredig yng Nghymru. Unwaith eto, mae Gweinidogion Cymru, gan weithredu drwy Cadw, yn crynhoi rhestrau o adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig; mae 30,000 a mwy o adeiladau rhestredig yng Nghymru.

Mae angen caniatâd adeilad rhestredig ar gyfer gwaith sy'n effeithio ar gymeriad adeilad rhestredig. Fe'i gweinyddir gan awdurdodau cynllunio lleol ac, mewn rhai achosion, Gweinidogion Cymru. Mae gwaith heb ei awdurdodi yn drosedd, ac mae Deddf 1990 yn rhoi pwerau gorfodi er mwyn rhoi stop ar waith heb ei awdurdodi ac i'w gwneud yn ofynnol i adfer adeiladau a ddifrodwyd ar ôl gwaith o'r fath. Mae'r Ddeddf yn rhoi pwerau hefyd i awdurdodau lleol gymryd camau i gadw adeiladau rhestredig sy'n dirywio.

Diwygiwyd Deddf 1990 gan Ddeddf 2016 er mwyn caniatáu cytundebau partneriaeth treftadaeth ar gyfer rheoli adeiladau rhestredig yn yr hirdymor drwy gytundebau yn dilyn cyd-drafod gan gynnwys caniatadau.

Yn ogystal, mae Deddf 1990 yn caniatáu i awdurdodau cynllunio lleol ddynodi ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig fel 'ardaloedd cadwraeth’; mae mwy na 500 ledled Cymru. Mae awdurdodau'n rheoli ardaloedd cadwraeth sydd â rheolaethau cynllunio, ond mae'r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol cael 'caniatâd ardal gadwraeth' ffurfiol ar gyfer dymchwel adeilad heb ei restru mewn ardal gadwraeth yng Nghymru. Mae gan Ddeddf 1990 ddarpariaeth hefyd ar gyfer grantiau er mwyn gwella neu warchod ardaloedd cadwraeth neu wneud atgyweiriadau i adeiladau ynddynt.

Deddfau Eraill

Yn ogystal â'i diwygiadau i Ddeddfau 1979 a 1990, mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 mae Deddf 2016 yn cynnwys rhai darpariaethau annibynnol. Mae un yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru grynhoi a chynnal rhestr statudol o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru — dyletswydd a gyflawnir ar eu rhan gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Mae un arall yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio a diweddaru cofnod amgylchedd hanesyddol ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru; mae Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru yn cyflawni'r swyddogaeth hon ar gyfer Gweinidogion Cymru. Mae'n rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau statudol hefyd ar gyfer cyrff cyhoeddus penodol ar sut gallant gyfrannu at gofnodion amgylchedd hanesyddol a'u defnyddio wrth gyflawni eu swyddogaethau.

Mae cyfran helaeth o Ddeddf Adeiladau Hanesyddol a Henebion 1953 eisoes wedi'i diddymu, ond mae rhai darpariaethau'n parhau mewn grym sy'n ymwneud â phwerau i Weinidogion Cymru wneud grantiau a benthyciadau ar gyfer gwarchod adeiladau hanesyddol, eu cynnwys neu eu gerddi neu diroedd eraill o ddiddordeb hanesyddol. Mae darpariaethau eraill yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru gaffael adeiladau o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol eithriadol, eu cynnwys neu dir cyfagos a derbyn gwaddolion i'w cynnal a'u cadw.

Mae rhannau o’r Deddfau cynllunio cyfredol sy’n berthnasol i’r amgylchedd hanesyddol wedi’u hymgorffori yn Neddf 2023 hefyd. Mae enghreifftiau’n cynnwys:

Yr is-ddeddfwriaeth

Yn aml, mae is-ddeddfwriaeth (y cyfeirir ati hefyd fel deddfwriaeth eilaidd) yn rhoi'r manylion ychwanegol sydd eu hangen er mwyn rhoi cnawd ar y prif ddatganiadau cyfreithiol a geir mewn Deddfau. Gall fod ar amrywiaeth o wahanol ffurfiau: rheoliadau, gorchmynion, rheolau a chynlluniau, a gall gynnwys canllawiau statudol a gorchmynion lleol.

Ar hyn o bryd, mae'n rhaid gosod y darnau perthnasol o ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth ochr yn ochr ac yna'u darllen gyda'i gilydd er mwyn cael dealltwriaeth lawn o'r gyfraith ar bwnc penodol. Lle y bo'n briodol, mae is-ddeddfwriaeth wedi’i hymgorffori yn Neddf 2023, felly bydd yr holl gyfraith berthnasol ar bwnc penodol ar gael mewn un lle. Nid yw peth o’r is-ddeddfwriaeth, er enghraifft rheoliadau y gallai fod angen eu diwygio’n aml i adlewyrchu amodau newidiol, wedi’i chydgrynhoi. Mae trwch yr is-ddeddfwriaeth hon yn cael ei hailwneud i adlewyrchu deddfu Deddf 2023.