Skip to main content

Problemau gyda’r ddeddfwriaeth bresennol

Mae dros 4,200 o henebion cofrestredig a mwy na 30,000 o adeiladau rhestredig yng Nghymru, ac mae’r mwyafrif helaeth mewn dwylo preifat. Daw dynodi, diogelu a rheolaeth gyson o’r asedau hanesyddol hyn, yn eu tro, o dan Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 ('Deddf 1979') a Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 ('Deddf 1990'). Gan fod angen caniatâd ffurfiol ar gyfer llawer o waith ar asedau hanesyddol, a bod gwaith heb ei awdurdodi yn drosedd, rhaid i berchnogion, asiantau ac awdurdodau cydsynio wneud defnydd aml o’r Deddfau.

Fodd bynnag, pan fyddant yn troi at y Deddfau, maent yn gweld deddfwriaeth sy’n ymddangos yn groes i’r setliad datganoli presennol, sy’n llawn gwelliannau ac sy’n ddyrys tu hwnt i ddarllenydd cyffredin. Bydd y trafferthion hyn yn diflannu pan fydd Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 yn dod i rym yn llawn yn ail hanner 2024. Bydd y ddeddfwriaeth gydgrynhoi newydd yn cyfuno’r holl ddeddfwriaeth gyfredol mewn un Ddeddf ddwyieithog ac yn mynd i’r afael â’r materion a nodir isod.

I unrhyw un sy’n eu darllen am y tro cyntaf, gallai Deddfau 1979 a 1990 beri dryswch mawr ynghylch pwy sy’n gyfrifol am yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru. Er bod rhai o ddarpariaethau’r Deddfau’n sôn yn benodol am Weinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol yw’r unig awdurdod sy’n cael ei grybwyll mewn eraill, sydd yr un mor gymwys i Gymru.

Mae’r sefyllfa hon wedi codi oherwydd i Ddeddfau 1979 a 1990 gael eu llunio gan Senedd y DU cyn datganoli, felly mae’n ddealladwy eu bod yn gosod dyletswyddau ar yr Ysgrifennydd Gwladol ac yn rhoi pwerau iddo. Fodd bynnag, mae datganoli wedi trosglwyddo’r cyfrifoldeb am yr amgylchedd hanesyddol i Weinidogion Cymru. Bydd defnyddwyr rheolaidd y ddeddfwriaeth yn gwybod bod swyddogaethau wedi’u trosglwyddo’n ffurfiol — felly gellir darllen ‘Gweinidogion Cymru’ yn lle ‘yr Ysgrifennydd Gwladol’ lle mae’r gyfraith yn effeithio ar Gymru. Mae’r rhai sy’n anghyfarwydd â’r gyfraith yn debygol o fod yn ddryslyd ynghylch pwy sy’n arfer awdurdod dros yr amgylchedd hanesyddol. Bydd eu dryswch yn cynyddu pan fyddant yn dod o hyd i welliannau a wnaed ar ôl datganoli, lle rhoddir dyletswyddau a phwerau penodol i Weinidogion Cymru.

Mae Deddf 2023 yn unioni’r sefyllfa ddryslyd hon drwy ailddatgan cyfraith amgylchedd hanesyddol Cymru yn unig a breinio’r cyfrifoldeb amdano’n benodol i Weinidogion Cymru.

Gan eu bod wedi’u llunio ddegawdau’n ôl, mae Deddfau 1979 a 1990 wedi’u diwygio’n helaeth. Nid yw gwelliannau ynddynt eu hunain yn broblem; maent yn caniatáu i ddeddfwriaeth gael ei haddasu yng ngoleuni profiad neu ei newid i fodloni amodau sy’n newid. Y broblem gyda deddfwriaeth yr amgylchedd hanesyddol yw bod gwahanol weinyddiaethau’r DU i gyd wedi diwygio’r Deddfau, gan ei gwneud yn anodd i ddefnyddwyr wybod pa gyfraith sy’n berthnasol iddynt.

Mae hyn yn arbennig o wir am Ddeddf 1979, sy’n berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban. Dros 40 mlynedd ar ôl ei phasio, mae’r Ddeddf wedi’i diwygio’n helaeth bellach gan lywodraethau pob un o’r tair gwlad.

Mae pob gwelliant a wneir gan un o’r gweinyddiaethau yn cymhlethu Deddf 1979 drwy adael arlliw gwahanol yn y testun, ar ffurf darpariaeth newydd neu anodiad mewn statud efallai. Mae system gymhleth o rifo’r darpariaethau’n cael ei drysu ymhellach gan y ffaith bod llyfr statud yr Alban ar wahân i lyfr statud Cymru a Lloegr; felly mae rhai o’r diwygiadau i Ddeddf 1979 a wnaed gan lywodraethau Cymru a’r Alban yn rhannu’r un rhifau. Y canlyniad yw darn cymhleth ac astrus o ddeddfwriaeth; mae hyd yn oed gweithwyr cyfreithiol proffesiynol yn ei chael yn her penderfynu pa ddarpariaethau sydd mewn grym ac ymhle.

Mae Deddf 2023 yn datrys y problemau hyn. Yn ystod y broses gydgrynhoi, mae’r darpariaethau hynny sy’n gymwys i Gymru wedi cael eu tynnu o ddryswch deddfwriaeth bresennol yr amgylchedd hanesyddol, a’u hintegreiddio’n rhesymegol ac yn ddi-dor i’r Ddeddf newydd, sydd bellach yn rhydd o gyfeiriadau dryslyd at awdurdodaethau eraill y DU.

Oherwydd i’r rhan fwyaf o’r ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru gael ei deddfu cyn datganoli, dim ond yn Saesneg y mae ar gael. Dim ond yr ychydig ddarpariaethau annibynnol yn Neddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 sydd wedi’u cofnodi’n ddwyieithog. Ar y llaw arall, mae’r is-ddeddfwriaeth ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol, y mae cyfrifoldeb amdano wedi’i ddirprwyo i Weinidogion Cymru, i gyd yn ddwyieithog. Os ydych yn dymuno ymgynghori â’r gyfraith ar gyfer asedau hanesyddol pwysicaf Cymru trwy gyfrwng y Gymraeg, dim ond cyfran fach o’r ddeddfwriaeth berthnasol sydd ar gael i chi.

Un o’r manteision cliriaf a gaiff ei gyflawni gan gydgrynhoi yw bod Deddf 2023 a’r ddogfennaeth ategol yn gwbl ddwyieithog. Yn hygyrch i bawb, bydd yn darparu sylfaen ddwyieithog ddiogel ar gyfer pob deddfu yn y dyfodol.

Er mai degawdau yn hytrach na chanrifoedd sydd ers i’r Deddfau sy’n cael eu hystyried ar gyfer cydgrynhoi gael eu pasio, mae rhywfaint o’r iaith a ddefnyddir ynddynt eisoes yn hen ffasiwn, yn drwsgl ac, weithiau, yn agos at fod yn annealladwy i’r darllenydd cyffredin. Weithiau, mae’n fater o eiriau technegol neu anghyfarwydd, ond yn aml, yn enwedig yn y ddeddfwriaeth hŷn, gall strwythur y darpariaethau fod yn gymhleth ac yn anodd ei ddilyn.

Un o nodau canolog cydgrynhoi yw gwella hygyrchedd y gyfraith i bobl Cymru. Mae Deddf 2023 yn ailddatgan y gyfraith mewn iaith glir a hawdd ei deall, lle bynnag y bo modd, gan sicrhau ei bod ar gael i gynulleidfa mor eang â phosibl.