Skip to main content

Dewch i weld Castell Biwmares yn cael ei gludo’n ôl i’r Oesoedd Canol, lle bydd marchogion, arglwyddi ac arglwyddesau, cerddorion a chellweiriwyr yn mynd â chi’n ôl i weld sut beth oedd bywyd yng Nghymru yn y cyfnod hwn.

Profwch fywyd yr Oesoedd Canol ar ei orau. Ymwelwch â’r gwersyll canoloesol, dysgwch sut i wneud saethau, gwaith lledr, coginio canoloesol, arfau, gemau a mwy.

Bydd yna arddangosiadau am arfwisgoedd a sut i’w gwisgo, a sut y defnyddid arfau yn erbyn marchogion a’u gwisgai. Bydd yna hefyd arddangosiadau sy’n dangos sut yr ofnid saethwyr ar faes y gad, gyda chyfle i ddysgu sut i saethu marchog, a bydd yna hefyd arddangosiad am ddillad, a sut y câi ei ddefnyddio i ddangos braint a chyfoeth.

Cadwch lygad allan am ddienyddiwr y castell, gyda’i straeon ofnadwy am arteithio ac enghreifftiau o offer a ddefnyddid yn ôl yn nyddiau tywyll cosbau canoloesol.

Gwyliwch farchogion yn hyfforddi yn yr arena brwydro, a byddwch yn barod am frwydr. Cadwch lygad allan hefyd am y saethwr meddw.

Ymunwch â hyfforddiant dril a’r Ysgol Marchogion ar gyfer yr hen a’r ifanc.

A bydd cellweiriwr y castell yno i’ch difyrru gyda’i jôcs doniol a’i driciau peryglus.

Bydd y diwrnod yn dod i ben gyda brwydr fawr rhwng Gerard de Rhodes a’r Capten Nicholas Horton, gyda'u dynion a'u saethwyr. Fydd pethau ddim yn mynd yn dda i’r Capten Horton, a bydd angen iddo recriwtio mwy o farchogion o'r dorf! Bydd plant tair ar ddeg oed ac iau yn cael eu gwahodd i ymuno â rhengoedd y Capten i helpu i drechu Syr Gerard a'i farchogion.

Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.


Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 25 Mai 2024
10:00 - 17:00
Sul 26 Mai 2024
10:00 - 17:00
Llun 27 Mai 2024
10:00 - 17:00
I gael gwybodaeth lawn am y safle, gan gynnwys amseroedd a chyfleusterau agoriadol tymhorol, ewch i'r dudalen heneb Castell Biwmares