Skip to main content

Caewyd Chwarel Dinorwig ym 1969. Nid saernïo wagenni a bwrw cledrau sydd yma heddiw ond adrodd hanes arbennig iawn: stori'r diwydiant llechi yng Nghymru.

Cyfle prin i weld un o'r unig incleiniau cario llechi sy'n dal i fod yn weithredol wrth ei gwaith, ynghyd a sgwrs gan Geidwad yr Amgueddfa, Dr Dafydd Roberts.

Cyfeiriad - Amgueddfa Lechi Cymru, Y Gilfach Ddu, Parc Gwledig Padarn, Llanberis, LL55 4TY.

Mae'r Amgueddfa yn Llanberis, ym Mharc Gwledig Padarn. Os ydych yn defnyddio teclyn llywio â lloeren, defnyddiwch y cod post LL55 4TY.


Prisiau

Am ddim