Skip to main content

Rydyn ni wedi datblygu nifer o adnoddau addysgol yn llawn gweithgareddau sydd wedi’u bwriadu i helpu i addysgu agweddu ar y Cwricwlwm Cenedlaethol, wedi’u hysbrydoli gan safleoedd Cadw, boed yn yr ystafell ddosbarth neu i’w defnyddio wrth ymweld ag un o’n henebion.

Taith Pod

Gogledd Cymru Taith Pererin — adnodd ar gyfer athrawon.

Cefnogi Cwricwlwm newydd Cymru.

Adoddau Addysg Cyfnod Allweddol 2

Mae rhestr o safleoedd Cadw lle mae’r Cistiau Trysor ar gael i’w gweld yma.

Datblygwyd yr adnodd Bywyd Cyfrinachol Gwrthrychau ar Hwb gan Rwydwaith Celfyddydau ac Addysg: De Ddwyrain Cymru. Mae’n edrych ar wrthrychau fel ysgogiad ar gyfer dysgu creadigol/ meddwl yn greadigol.

Gall eich helpu i wneud i wrthrychau neu nodweddion safle ddod yn fyw mewn modd creadigol ar gyfer eich myfyrwyr, wrth iddyn nhw greu straeon.

Paratowyd yr adnoddau Cynhanes a Neolithig i roi cyflwyniad i ddisgyblion i’n safleoedd Neolithig a Chynhanes ac i ategu amrywiaeth o gysylltiadau cwricwlwm yn cynnwys y Cwricwlwm Cymreig.

Mae’r adnodd Cynhanes yn sôn am y cyfnodau cynhanes pwysicaf o’r Oes Baleolithig i’r Oes Haearn, ac yn ategu’r hyn a addysgir yn y Cwricwlwm Cymreig, yn ogystal â darparu gwybodaeth gefndir i gefnogi ymweliadau â safleoedd cynhanes, yn cynnwys y rhai sydd dan ofal Cadw.

Mae’r adnodd Neolithig yn sôn am y safleoedd Neolithig sydd dan ofal Cadw a’r llu o weithgareddau y gellir eu gwneud ar y safleoedd hyn. Mae’r adnodd wedi’i gynllunio i ategu amrywiaeth o gysylltiadau cwricwlwm a’r Cwricwlwm Cymreig.

 

Mae gêm llinell amser Castell Coch a Chaerdydd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi’i chynllunio i gyflwyno disgyblion i un o destunau hanes Cyfnod Allweddol 2 sef newid yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae’r adnodd yn cynorthwyo athrawon i gyflwyno’r Cwricwlwm Cymreig trwy ganolbwyntio ar Gaerdydd a Dyffryn Taf.

Mae’r gêm yn rhoi gwybodaeth i ddisgyblion am ddigwyddiadau, pobl, adeiladau a chludiant yn yr ardal drwy’r 1800au. Gellir defnyddio’r wybodaeth hon i ysgogi trafodaeth ar y testun allai wedyn arwain at waith pellach fel rhan o ymchwiliad hanesyddol.  Mae’r taflenni gwybodaeth yn cyfeirio disgyblion at fannau lle mae’n bosibl iddyn nhw ymchwilio pob maes diddordeb ymhellach.

 

Mae’r adnoddau yma ar Oes y Tywysogion yn cynnwys adnoddau cynradd ac uwchradd sydd o darddiad Cymreig. Maent yn edrych ar hanes Cymreig yn ystod y cyfnod o ogwydd Cymreig, Prydeinig ac Ewropeaidd ac nid ar y berthynas rhwng Cymru a Lloegr yn unig. Maent wedi eu cynllunio i gefnogi’r cwricwlwm newydd yng Nghymru gyda’r pwyslais ar ddatblygu llythrennedd, rhifedd a llythrennedd sgiliau digidol.

Gallwch eu lawr lwytho’n rhad ac am ddim o’r wefan Hwb drwy ddilyn y dolenni hyn. 

        Trosolwg: Oes y Tywysogion  

        Tystiolaeth: Oes y Tywysogion

 

Pecyn adnoddau addysgiadol ar-lein newydd cyffrous i athrawon/plant ei ddefnyddio yn ac o gwmpas Abaty Dinas Basing.

Gellir defnyddio’r pecyn adnoddau i ymweld ar eich liwt eich hun ynghyd â nodiadau ar gyfer athrawon. Gellir cysylltu ei ffeithiau a themâu diddorol â’r cwricwlwm creadigol newydd hefyd. Creodd y gwirfoddolwyr waith celf gwreiddiol i gyd-fynd â’r adnodd gan ymgynghori ag ysgolion lleol yn ystod holl gamau’r prosiect.

Prosiect Dylan Thomas 100

Prosiect arloesol i greu cerddi a ffilmiau sy’n coffáu bywyd Dylan Thomas.

I goffáu bywyd Dylan Thomas, bu disgyblion Blwyddyn 5 a 6 o Ysgol Talacharn, Ysgol Griffith Jones, Sanclêr ac Ysgol Llys Hywel, Hendy-gwyn, yn cymryd rhan mewn prosiect llenyddol llawn dychymyg i greu ffilmiau amlgyfrwng byr.

Mae’r ffilmiau difyr — sy’n cynnwys ffotograffau, peintiadau, animeiddio a barddoniaeth — i’w gweld ar sianel YouTube Cadw.

Nodau’r prosiect oedd ysbrydoli’r disgyblion i ymwneud yn frwd ag iaith, â’r castell ac â’u hanes lleol eu hunain.

Defnyddiodd y plant Gastell Talacharn, y Poem in October gan Dylan Thomas a’ ‘Thaith Gerdded y Pen-blwydd’ yn Nhalacharn fel ffynonellau i’w hysbrydoli.

Pecyn adnoddau

I alluogi ysgolion eraill i wneud gwaith tebyg, mae pecyn adnoddau dysgu, sy’n cynnwys tair gwers a deunyddiau ategol, ar gael i’w lawrlwytho isod.

Er bod yr adnoddau wedi’u seilio ar Gastell Talacharn, mae modd eu haddasu i ddatblygu llythrennedd ar unrhyw rai o’n safleoedd ni.

 

Datblygwyd yr adnodd Bywyd Cyfrinachol Gwrthrychau ar Hwb gan Rwydwaith Celfyddydau ac Addysg: De Ddwyrain Cymru. Mae’n edrych ar wrthrychau fel ysgogiad ar gyfer dysgu creadigol/ meddwl yn greadigol.

Gall eich helpu i wneud i wrthrychau neu nodweddion safle ddod yn fyw mewn modd creadigol ar gyfer eich myfyrwyr, wrth iddyn nhw greu straeon.