Skip to main content

Concwest? Ddim yn hollol

Cyrhaeddodd y Rhufeiniaid o dan reolaeth y Llywodraethwr Aulus Platius ym Mhrydain yn 43 OC, gan derfynu’r amser y cyfeiriwn ato fel y cyfnod cynhanes. Buan y bu iddynt ruo drwy dde Lloegr ond daeth eu cynnydd i ben yn sydyn wrth gyrraedd mynyddoedd a chymoedd Cymru – a’i llwythau Celtaidd brodorol a oedd yn ffyrnig o ddigroeso.

Byddai’n cymryd rhyw chwarter canrif arall iddynt ddarostwng y gymysgedd drafferthus hon o wrthwynebiad llwythol a thir, ond – yn wahanol i dde a dwyrain Prydain a gafodd eu Rhufeinio’n ddwys – ni chafodd Cymru erioed ei threchu yn yr ystyr lawnaf. Er nad oedd ond yn goncwest rhannol, mae yng Nghymru o hyd rai o safleoedd Rhufeinig mwyaf dadlennol ac arwyddocaol Prydain.

Cartref oddi cartref

A hwythau’n gynllunwyr milwrol uwchlaw popeth, aethant ati i sefydlu tair prif ganolfan barhaol ym Mhrydain yng Nghaerllion, Caer a Chaerefrog. Mae Caerllion (Isca iddynt hwy) yn dyddio o 75 OC. Roedd yn dref gwbl amddiffynedig, lle gallai minteioedd llengfilwyr campus ymlacio a mwynhau ychydig mewn baddondy rhyfeddol ac amffitheatr â 6,000 o seddi.    

I’r Brythoniaid brodorol 2,000 o flynyddoedd yn ôl, rhaid bod Isca yn lle syfrdanol, megis ‘byd yfory’ gyda’i systemau cynhesu dŵr, ei ysbyty, a chanolfan hamdden gyntaf Cymru. Erbyn hyn, mae’r ymwelwyr yn rhyfeddu llawn cymaint pan fyddant yn gweld maint a soffistigedigrwydd un o’r safleoedd milwrol Rhufeinig mwyaf aruthrol sydd wedi goroesi yn Ewrop.   

Roedd Isca yn rhan o rwydwaith o amddiffynfeydd a chaerau bychain – dros 30 i gyd – yn lledu tua’r gorllewin i Gaerfyrddin ac i’r gogledd i Gaernarfon ac Ynys Môn. Roeddent fel petaent yn gwneud y tro am fod heddwch anesmwyth wedi setlo dros y wlad, a’r llwythau brodorol yn dechrau derbyn y buddion a gynigiai Rhufain. 

Darganfod aur Rhufeinig

Os teithiwch drwy Gymru byddwch yn taro ar safleoedd Rhufeinig, a’r rheini’n aml yn y lleoedd mwyaf annisgwyl. Yn nhref gysglyd Caerwent, mae tref Rufeinig a oedd yn brifddinas i lwyth y Silwriaid, sef llwyth Celtaidd brodorol a gafodd ei Rufeinio. Ar diroedd amaeth heddychlon wrth ymyl Afon Wysg ychydig filltiroedd i’r gorllewin i Aberhonddu, mae’r Gaer, sef caer fewndirol fwyaf y Rhufeiniaid, a rhannau ohoni’n dal i sefyll 8 troedfedd / 2.4m o uchder.    

Mae safle maestrefol cyffredin yng Nghaerfyrddin yn gartref i amffitheatr eithriadol, y mwyaf gorllewinol yn yr holl Ymerodraeth Rufeinig. A fry ar y bryn yng Nghaernarfon uwchben castell enwocaf Cymru, mae’r Segontiwm, sef y gaer Rufeinig hiraf ei gwasanaeth yng Nghymru a gafodd ei garsiynu drwy gydol y feddiannaeth Rufeinig bron. 

Y mwyaf syfrdanol o’r cyfan yw Dolaucothi ym Mhumsaint, yr unig safle ym Mhrydain lle gwyddom yn bendant fod y Rhufeiniaid wedi cloddio am aur (ai hwn oedd y rheswm y daethant yma yn y lle cyntaf?). Mae system helaeth Dolaucothi o draphontydd dŵr yn esiampl ddisglair o hyd o arbenigedd peirianneg y Rhufeiniaid.  

Gwaith ffordd o’ch blaenau

Yn cysylltu popeth oedd campwaith peirianneg arall: sef gwe pry cop o ffyrdd Rhufeinig a allai wrthsefyll tywydd Cymru. Mae olion rhithiol y priffyrdd hynafol hyn - a’r enwocaf ohonynt yn cael ei galw’n Sarn Helen - i’w gweld o hyd (bydd angen map Arolwg Ordnans, nid Sat Nav, arnoch i ddod o hyd iddynt).

Yn anialwch gorllewinol Bannau Brycheiniog mae darn hynod atgofus o ffordd yn trywanu, yn y dull Rhufeinig clasurol, mor syth â saeth, ar draws tir uchel agored rhwng Llanymddyfri a Threcastell. Ar y ffordd, mae’n mynd heibio i gasgliad estron yr olwg o grybiau, twmpiau a phantiau, sef y cyfan sy’n weddill o’r Pigwn; mae’n siŵr fod hwn ymhlith y gwersylloedd gorymdeithio dros nos yr oedd y milwyr Rhufeinig yn lleiaf hoff ohonynt.     

Diwedd ymerodraeth

Daw pob ymerodraeth i ben. Gan bwyll, collodd y gannwyll Rufeinig ei gwrid wrth i broblemau bentyrru ar y Cyfandir. Yng Nghymru, diffoddodd ei fflam yn raddol tua dechrau’r 5ed ganrif, gan hebrwng oes newydd i mewn, a fyddai’n cael ei galw ‘yr Oesoedd Tywyll’.