Skip to main content

Mae Cadw wedi cefnogi Gŵyl Hanes Cymru i Blant ers blynyddoedd lawer fel perfformiadau byw ar draws ei safleoedd.

Bu’n rhaid i ŵyl 2020 addasu a chymryd cymeriadau o Hanes Cymru ar-lein. Gwnaethom gefnogi'r Ŵyl ‘Ddigidol’ eleni fel rhan bwysig o’n darpariaeth o adnoddau ar-lein newydd ar gyfer dysgu cyfunol.

Er mwyn ehangu hygyrchedd, anogodd Cadw ymhellach y defnydd o fersiynau Iaith Arwyddion Prydain (BSL) o'r ffilmiau. Hwn oedd y tro cyntaf i'r ŵyl ddarparu'r cyfleuster hwn, ac rydym wrth ein bodd gyda'r datblygiad hwn. Gyda diweddglo’r ŵyl, gallwch nawr fwynhau’r cymeriadau hynny a gefnogir gan Cadw yma nes i’r ŵyl nesaf ddechrau ym mis Medi 2021.

Ar ôl blynyddoedd o fyw dan ormes Arglwyddi’r Mers a brenhiniaeth Lloegr, dyma un Cymro dewr yn penderfynu taw digon oedd digon.*

*Byddwch yn ymwybodol bod y fideo hwn yn cynnwys cyfeiriadau at ryfel ac efallai na fydd yn addas i blant iau.

Gwyliwch efo cyfieithiad BSL

Gwyliwch efo capsiynau

Dros gan mlynedd ers marwolaeth a champ Eisteddfodol y Prifardd Hedd Wyn, dyma gyfle i blant Cymru glywed ei stori drist ond ysbrydoledig.

Gwyliwch efo cyfieithiad BSL

Gwyliwch efo capsiynau

Pam fydde unrhyw un am gerdded 26 milltir heb esgidiau? Dyma gyfle i gwrdd â’r ferch 16 oed, Mari Jones. Merch ysgol, tlawd oedd hi, â’i bryd ar rywbeth pwysig – un o’r llyfrau cyntaf oedd ar gael yn y Gymraeg — Y Beibl. Weithiau mae merch fach yn medru gwneud pethau mawr.

Gwyliwch efo cyfieithiad BSL

Gwyliwch efo capsiynau

Wedi’i eni yng Nghasnewydd Bach, yn Sir Benfro, nid dewis Barti Ddu oedd bod yn fôr-leidr. Eto’i gyd fe ddatblygodd yn arweinydd eofn a ysbeiliodd dros 400 o longau gan arwsydo morwyr y Caribî.

Gwyliwch efo cyfieithiad BSL

Gwyliwch efo capsiynau

Roedd Yr Esgob William Morgan, pan fu farw yn 1604, yn ddyn tlawd gan adael yn ei ewyllys ychydig o lestri piwter, pum pot blodyn, dau baun a dau alarch. Er hyn, yn ystod ei oes, creodd un o drysorau mwya’ gwerthfawr y genedl — Y Beibl Cymraeg. 

Gwyliwch efo cyfieithiad BSL

Gwyliwch efo capsiynau