Skip to main content

Dewch ar daith gyda’r tywysydd Deian ap Rhisiart i gyfarfod cyfrinachau’r castell a adeiladwyd yn wreiddiol gan Llywelyn Fawr.

Dyma gastell fu’n newid dwylo yn aml rhwng y Cymry a’r Saeson a dychmygwch yn y canol oesoedd pa mor beryglus ac ansefydlog oedd y cyfnod wrth i ryfel fod yn gysgod parhaus ar y trigolion. 

Awn yn ol mewn hanes gan fentro i fyd y milwyr Cymreig a oedd ceisio cipio’r castell.  Gwaed ac urddas, angerdd a mawredd, y cyfan yn amlwg yn hanes y drydedd ganrif ar ddeg. 

Camwch wedyn i eisgidiau cadfridion y chwedlonol Owain Glyn Dwr wrth iddynt gipio’r castell a’i losgi.  Ar y daith, profwch y cyffro, y yr helynt a’r dinistr wrth i Glyn Dwr a’I ddynion ymladd ei gwrthryfel cenedlaethol. 

Awr o daith yn chwilota rhwng muriau trawiadol Castell Cricieth.

Bydd y digwyddiad yn daith gerdded a fydd yn para 60 munud yn dechrau yn y ganolfan groeso ac yn cael ei arwain rhwng muriau Castell Criccieth. Bydd yna gyfyngiadau symudedd mewn mannau ar y daith ond addas i'r teulu

Teithiau am 11am, 1pm a 3pm.

Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn. 


Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 06 Ebr 2024
11:00 - 16:00
Gwen 07 Meh 2024
11:00 - 16:00
Iau 11 Gorff 2024
11:00 - 16:00
Iau 22 Awst 2024
11:00 - 16:00
Iau 12 Medi 2024
11:00 - 16:00
Sad 28 Medi 2024
11:00 - 16:00
Prisiau mynediad
Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£7.50
Teulu*
£24.00
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr
£5.30
Pobl hŷn (Oed 65+)
£7.00

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim

Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein).

I gael gwybodaeth lawn am y safle, gan gynnwys amseroedd a chyfleusterau agoriadol tymhorol, ewch i'r dudalen heneb Castell Cricieth