Teithiau treftadaeth
Os ydych chi'n ymweld â rhan benodol o Gymru fel rhan o daith grŵp neu unigol, gallwn awgrymu teithiau o amgylch safleoedd Cadw yn yr ardal i chi!
Gellir llwytho teithlenni i lawr oddi ar y dudalen hon sy'n rhoi cefndir bras am y safle i chi, yn ogystal â’r pellter rhyngddynt er mwyn eich galluogi i gynllunio ymlaen llaw a threfnu i weld cynifer o'n safleoedd hanesyddol â phosibl yn ystod eich ymweliad!