Skip to main content

Arolwg

Cerrig nadd gwych yn ymestyn yn ôl i wawrddydd Cristnogaeth yng Nghymru

Mae'r adeilad bychan hwn sydd drws nesaf i eglwys yr abaty canoloesol yn ddiddorol iawn ynddo'i hun – dyma un o'r ysgolion eglwysig cynharaf yng Nghymru. Ond y tu mewn mae'r stori go iawn.

Yno fe welwch gasgliad rhyfeddol o bron i 30 o gerrig a chroesau arysgrifedig, a rhai ohonynt yn dyddio o ddyddiau cynnar Cristnogaeth yng Nghymru'r chweched ganrif. Safai’r rhain yn wreiddiol fel cerrig milltir ar ffyrdd Rhufeinig – neu yn achos un ohonynt ar ben beddrod o'r Oes Efydd – a chawsant eu hailgylchu er cof am benaethiaid lleol.

Ymhlith y cerrig nadd diweddarach mae croesau pen-disg a chroesau olwyn trol gwych o'r nawfed a'r 10fed ganrif, e.e. Croes Fawr Cobelin gyda'i golygfa gerfiedig o helfa.

Yn yr oriel i fyny'r grisiau, ymhlith y cerfluniau a'r arysgrifau canoloesol o Abaty Margam, mae delw o farchog o'r 14eg ganrif. Mae wedi’i wisgo mewn maelwisg a gwelir draig fechan ar waelod ei darian. Ond efallai mai seren y sioe yw'r gargoil grotésg a gynlluniwyd i wagio dŵr glaw drwy ei ben-ôl.

Mwy am Amgueddfa Cerrig Margam


Amseroedd agor

Ar agor ar ddyddiau Mercher, Sadwrn a Sul a Gwyliau Banc o 10am tan 3pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Mae'r amgueddfa bellach ar gau a dim ond ar gael i'w hagor ar gyfer ymweliadau grŵp a drefnwyd ymlaen llaw o 10 neu fwy gyda chyfnod rhybudd o bythefnos o leiaf.

I wneud cais am ymweliad, anfonwch e-bost at: CadwEstatesandProperty@llyw.cymru


Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Cyfleusterau

Maes parcio icon Disabled person access icon Tywyslyfr icon Amgueddfa icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon

Mae'r amgueddfa ar ddwy lefel. Dim mynediad i'r llawr uchaf i ddefnyddwyr cadair olwyn.Mae'r maes parcio yn agos at lwybr ar yr un lefel â'r amgueddfa/ffordd sy'n arwain at y drws.

Nid oes lleoedd parcio penodol i bobl anabl.

Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.

Mae amgueddfa ar y safle.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.


Cyfarwyddiadau

Ffordd
Margam, 4m (6.4km) i’r De Ddwy. o Bort Talbot, oddi ar yr A48, yn ffinio â Pharc Gwledig Margam.
Rheilffordd
Port Talbot 5m (8.1km).
Beic
RBC Llwybr Rhif 4 (350 llath/320m)

Cod post SA13 2TA.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50