Skip to main content

Hysbysiad ymwelwyr

Os ydych chi’n bwriadu ymweld ag Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru (rhan o Amgueddfa Cymru), gwiriwch yr amseroedd agor a’r gofynion cyfredol o ran tocynnau. 

Gwefan Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru 

Diolch.

Arolwg

Bywyd moethus a gwaedlyd y gaer Rufeinig      

Roedd bywyd yn galed i lengfilwr Rhufeinig yng Nghymru’r ganrif gyntaf. Pan na fyddai wedi’i gau yn ei farics neu’n goddef cyfarth canwriad, byddai allan yn mentro ei fywyd mewn ysgarmesau â Brythoniaid hynafol.  

Ond yma yn Isca, un o dair lleng-gaer barhaol yn unig ym Mhrydain, gwnaethpwyd iawn am hyn oll. Gallai’r llengfilwr bob amser dreulio amser gyda’i ffrindiau ym maddonau’r gaer – neu fynd am dro i’r amffitheatr i wylio’r gladiatoriaid. 

Mewn adeilad modern dan do yng Nghaerllion heddiw, gallwch archwilio olion y pwll nofio awyr agored, neu natatio eang, a arferai ddal mwy na 80,000 galwyn o ddŵr. Yn sgil rhyfeddodau taflunio ffilm, cewch gipolwg ar filwr Rhufeinig yn dal i blymio i’r dyfnderoedd heddiw.

Cewch hefyd weld yr ystafelloedd cyfyng lle cysgai’r dynion a lle cadwent eu harfau – yr unig farics llengol Rhufeinig sydd i’w gweld o hyd yn Ewrop.  

A gallwch gerdded drwy fynedfa fawr y gogledd i’r amffitheatr Rufeinig fwyaf cyflawn ym Mhrydain a dychmygu mwstwr 6,000 o bobl yn udo am waed.

Sut i ymweld
•    prynwch eich tocynnau mynediad wrth gyrraedd (neu archebwch ar-lein)*
•    gwiriwch ein hamseroedd agor a’n prisiau isod
•    cymerwch olwg ar gyngor iechyd a diogelwch Llywodraeth Cymru cyn ymweld.

*ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd.

Mwy am Gaer, Baddonau a Barics Rhufeinig Caerllion


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–5pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Prisiau a Thocynnau

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£5.00
Teulu*
£16.30
Person Anabl a Chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr
£3.60
Pobl hŷn (Oed 65+)
£4.80

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim

Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas yn derbyn gostyngiad o 10% oddi ar bris tocyn mynediad unigol wrth ei brynu wrth gyrraedd

 

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£5.30
Teulu*
£17.00
Person Anabl a Chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr
£3.70
Pobl hŷn (Oed 65+)
£5.10

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim

Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein).

 


Cyfleusterau

Access guide icon Cŵn tywys yn unig icon Pay and Display car park icon Arddangosfa icon Siop roddion icon Tywyslyfr icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon Clyw cludadwy icon Lluniaeth icon Ymweliadau ysgol icon Cyflwyniad fideo icon Llogi Safle icon

Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.

Baddonau Rhufeinig Caerllion — Canllaw Mynediad

Maes parcio talu ac arddangos gyferbyn â'r baddonau, tua 20 o leoedd.

Dim maes parcio hygyrch penodol

Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.

Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.

Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.

Mae dolen sain gludadwy ar gael.

Mae lluniaeth ysgafn ar gael.

Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, cysylltwch ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn uniongyrchol ar 025920 573547.

Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!

Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.

Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.


Cyfarwyddiadau

Ffordd
B4596 i Gaerllion, M4 gorllewin (Cyff 25), dwyrain (Cyff 26).
Rheilffordd
6km/4mllr, Casnewydd, ar lwybr Caerdydd -Casnewydd/Llundain/Manceinion/Lerpwl.
Bws
Llwybrau Rhif 27, 28, 28B Casnewydd - Caerllion neu Lwybrau Rhif 29, 29B Casnewydd - Cwmbrân.
Beic
RBC Llwybr Rhif 88 (165m/180llath).

Cod post NP18 1AE

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50


Cysylltu â ni

Rhif ffôn 03000 252239

E-bost
CaerleonFortressBaths@llyw.cymru

Cyfeiriad
Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion
High St, Caerleon, Casnewydd NP18 1AE

Ar gyfer contractwyr a danfoniadau, ffoniwch 01633 422518
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.