Skip to main content

Hysbysiad Ymwelwyr

Mae Cadw wedi cyhoeddi manylion buddsoddiad gwerth £10m mewn gwaith datblygu yng Nghastell Caerffili

Yn ystod y cam hwn o’r prosiect, bydd y Neuadd Fawr, y cwrt canolog a rhai ardaloedd llawr gwaelod y ward fewnol ar gau i ymwelwyr. Bydd lloriau uwch a llwybrau’r waliau ar agor fel arfer ond bydd angen defnyddio grisiau troellog hanesyddol er mwyn eu cyrraedd.

Oherwydd natur y gwaith, ni fydd modd defnyddio’r toiledau i ymwelwyr o fewn y castell. Bydd cyfleusterau cyfagos hefyd ar gau dros benwythnos gŵyl y banc.

Oherwydd gwaith ailddatblygu yng Nghastell Caerffili, bydd ceisiadau am logi’r safle ac archebion gan y diwydiant teithio yn cael eu hystyried, ond efallai y bydd rhaid cau’r safle ar y funud olaf o dro i dro.

Darllenwch y stori lawn

Arolwg

Bwriadu ymweld â Chastell Caerffili? Defnyddiwch ein map defnyddiol i wneud y mwyaf o’ch ymweliad!

Castell Caerffili / Caerphilly Castle site map

Arswyd rhag tywysog Cymru wedi ysbrydoli castell canoloesol grymusaf Cymru   

Ni adeiladodd Llywelyn ap Gruffudd Gastell Caerffili. A dweud y gwir, ceisiodd ei ddymchwel ddwywaith cyn iddo gael ei gwblhau. Ond ef, yn sicr, a’i hysbrydolodd. 

Yn sgil esgyniad nerthol Dywysog Cymru, argyhoeddwyd Arglwydd y Mers, Gilbert de Clare, fod angen caer arno a honno ar frys. Ac roedd yn well iddi fod yn gwbl aruthrol. 

Felly o 1268 adeiladodd de Clare y castell mwyaf yng Nghymru – a hwnnw’n ail yn unig i Windsor ym Mhrydain oll. Cyfunwyd waliau, tyrau a phorthdai enfawr ag amddiffynfeydd dŵr helaeth i orchuddio 30 erw i gyd.   

Mae hynny deirgwaith cymaint â chadarnle Cymru gyfoes, sef cartref rygbi Cymru, Stadiwm y Principality.

Pan fu farw Llywelyn, trawsnewidiwyd y gaer flaenaf hon yn gartref gwych a chanddo barc hela a llyn gogleddol. Fe’i trosglwyddwyd i ddwylo ffefryn creulon a barus Edward II, Hugh Despenser, a ailwampiodd y neuadd fawr mewn modd addurniedig.

Erbyn hynny, rhaid bod Caerffili yn ymddangos fel rhyw gastell chwedlonol yn arnofio mewn llyn hudol, effaith a gryfhawyd yn rhyfedd gan bowdwr gwn y Rhyfel Cartref a adawodd tŵr y de-ddwyrain ar ongl ansicr.  

A dweud y gwir, mae’n siŵr mai Tŵr Cam Cymru – sy’n gwyro mwy na thŵr Pisa hyd yn oed – yw nodwedd anwylaf y castell.

Mwy am Gastell Caerffili


Amseroedd agor

Bob dydd 9.30am–5pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Bob dydd 9.30am–6pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Bob dydd 9.30am–5pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Bob dydd 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr

 


Prisiau a Thocynnau

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£10.60
Teulu*
£34.30
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr
£7.50
Pobl hŷn (Oed 65+)
£10.00

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim

Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas yn derbyn gostyngiad o 10% oddi ar bris tocyn mynediad unigol wrth ei brynu wrth gyrraedd

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£10.90
Teulu*
£34.90
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / UCM / Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr
£7.60
Pobl hŷn (Oed 65+)
£10.40

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim

Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein).


Cyfleusterau

Access guide icon Pay and Display car park icon Trwydded seremoni sifil icon Croeso i gŵn icon Arddangosfa icon Siop roddion icon Tywyslyfr icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon Clyw cludadwy icon Cyflwyniad fideo icon Ymweliadau ysgol icon Llogi Safle icon Wi-Fi icon

I gael gwybodaeth hygyrchedd, cysylltwch â’n tîm castell yn: CaerphillyCastle@llyw.cymru

Mae meysydd parcio talu ac arddangos arhosiad byr a hir ar gael; mae’r maes parcio arhosiad byr tua 110m i ffwrdd. Mae’r maes parcio arhosiad hir tua 500m i ffwrdd.

Mae lleoedd parcio penodol ar gael ar gyfer pob anabl.

Noder: Nid yw Neuadd Fawr Castell Caerffili ar gael ar gyfer priodasau tan 2025.

Taith 3D Neuadd Fawr Castell Caerffili

Mae croeso i gŵn ar lefelau gwaelod y castell pan fyddant ar dennyn. Gall rhai ardaloedd fod ar gau pan fyddwch yn ymweld gan fod gwaith adnewyddu yn digwydd ar hyn o bryd. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’n tîm os gwelwch yn dda.

Ffôn: 02920 883143

E-bost: CaerphillyCastle@llyw.cymru

Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.

Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.

Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.

Mae dolen sain gludadwy ar gael.

Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.

Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.

Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!

Nid yw Castell Caerffili ar gael ar hyn o bryd i’w logi ar gyfer digwyddiadau, ffilmio ac arddangosfeydd oherwydd y gwaith ailddatblygu parhaus.

Mae WiFi cyhoeddus Cadw ar gael am ddim ar y safle hwn.


Cyfarwyddiadau

Ffordd
A468 (o Gasnewydd), M4 (Cyff 32), A470, A469 (o Gaerdydd).
Rheilffordd
1km/0.6mllr Caerffili, ar lwybr Caerdydd-Bargod Rhymni.
Bws
Gyferbyn, Caerffili/Islwyn Rhif 26, Caerdydd-Caerffili/Tredegar.
Beic
RBC Llwybr 4 (200m/219llath).

Cod post CF83 1JD

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50


Cysylltu â ni

Rhif ffôn 03000 252239

E-bost
CaerphillyCastle@llyw.cymru

Cyfeiriad
Castell Caerffili
Castle St, Caerffili CF83 1JD

Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 02920 883143
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.