Skip to main content

Arolwg

Caer ganoloesol fawreddog yn dal i sefyll uwchben y dref ar ôl 700 mlynedd 

Diolch i’r grisiau tro a adferwyd yn ei dyrau mawr, gallwch gerdded cylch cyflawn o gwmpas bylchfuriau Castell Conwy. Argymhellwn hynny’n fawr. Hon yw un o’r caerau canoloesol mwyaf mawreddog yn Ewrop.

Yn y pellter cwyd mynyddoedd clegyrog Eryri ac oddi tanoch mae harbwr a strydoedd cul Conwy yn ymestyn o’ch blaenau - wedi’u gwarchod o hyd gan 1,400 o lathenni (1.3km) o gylch di-dor o furiau trefol.

Mae’n ddigon i fynd â’ch gwynt. Yn enwedig o ystyried bod Brenin Edward I a’i bensaer James o San Siŵr wedi adeiladu’r castell a’r waliau mewn pedair blynedd anhygoel rhwng 1283 a 1287.

Cymer Conwy ei le ochr yn ochr â chestyll gwych eraill Edward ym Miwmares, Harlech a Chaernarfon yn Safle Treftadaeth y Byd.  

Mae’r gaer enwog hon mewn cyflwr eithriadol o dda. Mae’n cynnwys y gyfres fwyaf cyflawn o randai brenhinol canoloesol yng Nghymru. Cwyd y llenfur uchel ac wyth tŵr urddasol bron mor drawiadol ag adeg eu hadeiladu fwy na 700 mlynedd yn ôl.    

Felly peidiwch ag ofni dringo’r grisiau hynny, os gallwch chi, er mwyn llawn brofi Conwy. Nid oes un lle gwell ym Mhrydain i sefyll ar y bylchfuriau a breuddwydio.  

Sut i ymweld
•    prynwch eich tocynnau mynediad wrth gyrraedd (neu archebwch ar-lein)*
•    gwiriwch ein hamseroedd agor a’n prisiau isod
•    cymerwch olwg ar gyngor iechyd a diogelwch Llywodraeth Cymru cyn ymweld.

*ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd.

Rhagor o wybodaeth


Amseroedd agor

Bob dydd 9.30am–5pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Bob dydd 9.30am–6pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Bob dydd 9.30am–5pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Bob dydd 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr

Noder: yn ystod tywydd garw, efallai y bydd angen inni gau’r heneb ar fyr rybudd am resymau iechyd a diogelwch. Edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol neu ffoniwch eim timau cyn ymweld er mwyn sicrhau bod y safle ar agor ac yn ddiogel i ymweld â hi.

Facebook @CadwWales | Twitter @cadwcymru


Prisiau a Thocynnau

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£11.70
Teulu*
£37.70
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr
£8.20
Pobl hŷn (Oed 65+)
£11.10

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim

Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas yn derbyn gostyngiad o 10% oddi ar bris tocyn mynediad unigol wrth ei brynu wrth gyrraedd


Cyfleusterau

Access guide icon Toiledau hygyrch icon Newid cewynnau icon Mynediad i feiciau icon Pay and Display car park icon Arddangosfa icon Siop roddion icon Tywyslyfr icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon Clyw cludadwy icon Toiledau   icon Ymweliadau ysgol icon Llogi Safle icon Gorsaf Ail-lenwi â Dŵr icon Wi-Fi icon

Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.

Castell Conwy — Canllaw Mynediad

Toiledau hygyrch ar gyfer ymwelwyr.

Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.

Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.

Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.

Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.

Mae dolen sain gludadwy ar gael.

Toiledau i ymwelwyr ar lefel isaf y ganolfan ymwelwyr gyda chyfleusterau newid cewynnau.

Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.

Darganfyddwch ein gweithgareddau addysgol am ddim.

Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!

Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.

Mae gorsaf ail-lenwi â dŵr ar gael ar y safle hwn.

Mae WiFi cyhoeddus Cadw ar gael am ddim ar y safle hwn.


Cyfarwyddiadau

Ffordd
Conwy ar yr A55 neu’r B5106.
Rheilffordd
2km/1.6mllr Cyffordd Llandudno neu 0.6km/0.4mllr Gorsaf Conwy, ar lwybr Crewe-Cyffordd Llandudno/Caergybi.
Bws
200m/220llath, llwybr Rhif 5, Llandudno - Conwy - Bangor/Caernarfon
Beic
RBC Llwybr Rhif 5 (150m/164llath).

Cod post LL32 8AY

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50


Cysylltu â ni

Rhif ffôn 03000 252239

E-bost
ConwyCastle@llyw.cymru

Cyfeiriad
Castell Conwy
Rose Hill St, Conwy LL32 8AY

Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 01492 592358
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.