Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Gweithredwyr Teithiau

Rhaid i chi ddod â'ch cyfeirnod archebu neu god QR unigryw ar bob ymweliad fel prawf o'ch archeb gweithredwr teithiau.

Gallai diffyg cod QR neu gyfeirnod archebu dilys achosi oedi sylweddol i’ch grŵp o ran cael mynediad, ac mewn rhai achosion gallai atal mynediad.

Diolch am ddeall.

Tîm Masnachol Cadw

Rydym yn falch wneud archeb grŵp yn safleoedd Cadw.

Mae rhai o’n safleoedd yn dal i weithredu ar lai o gapasiti. Edrychwch ar ein tudalen I ble hoffech chi fynd? i weld yr amseroedd agor diweddaraf ar gyfer holl henebion Cadw.

*Oherwydd gwaith ailddatblygu yng Nghastell Caerffili, bydd ceisiadau am logi’r safle ac archebion gan y diwydiant teithio yn cael eu hystyried, ond efallai y bydd rhaid cau’r safle ar y funud olaf o dro i dro.

Archebwch ar-lein fel arfer drwy Gynllun Gweithredwyr Teithiau Cadw. Gallwch newid archebion cyn yr ymweliad drwy gysylltu â cadwcommercial@gov.wales

Rhaid i bob grŵp archebu ymlaen llaw. Yn sgil canllawiau Llywodraeth Cymru, mae'n ofynnol i chi gael asesiad risg sy'n cwmpasu pob gweithgaredd taith.

Rhaid i grwpiau sy’n cynnwys plant o dan 18 oed gael eu goruchwylio gan oedolion bob amser pan fyddant ar y safle. Bydd y gymhareb ‘oedolyn i blentyn’ ofynnol yn amrywio yn ôl oedran y plant. Sicrhewch eich bod yn bodloni’r gofynion o ran y gymhareb oruchwylio:

Oed 3–5yrs Dosbarth meithrin a derbyn  1:2
Oed 5–7yrs Ysgol gynradd - babanod (h.y. blwyddyn 1 a 2, 5–7 oed)  1:6
Oed 7–11yrs Ysgol gynradd - plant iau  1:10
Oed 11–14yrs Ysgol uwchradd isaf  1:10
Oed 14–16yrs Ysgol uwchradd  1:15

 

Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer Cynllun Gweithredwr Teithiau Cadw, gallwch hefyd gael Tocynnau Crwydro ar gyfraddau gostyngol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen wybodaeth Tocynnau Crwydro.

Cysylltwch â cadwcommercial@gov.wales er mwyn cael cod i brynu’r tocynnau ar gyfraddau masnach ar-lein.

Archebwch yma

Gwiriwch ein tudalen Dod o Hyd i Le i Ymweld ag ef i gael yr amseroedd agor diweddaraf ar gyfer holl henebion Cadw.

Heneb 

Oedolyn     

    

Plentyn*/ Myfyriwr

   

Dros 65

  

£

    

£

   

£

Castell Biwmares 

8.80

    

6.10

   

7.90

Gwaith Haearn Blaenafon 

6.80

    

4.70

   

6.10

Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion 

4.90

    

3.40

   

4.40

Castell Caernarfon 

12.60

    

8.80

   

11.30

Castell Caerffili 

10.90

    

7.60

   

9.80

Castell Coch 

8.80

    

6.10

   

7.90

Castell Cas-gwent 

8.80

    

6.10

   

7.90

Castell Conwy 

10.90

    

7.60

   

9.80

Castell Cricieth 

6.90

    

4.80

   

6.20

Castell Dinbych 

5.50

    

3.80

   

4.90

Castell Harlech 

8.80

    

6.10

   

7.90

Castell Cydweli 

7.50

    

5.20

   

6.70

Castell Talacharn 

5.50

    

3.80

   

4.90

Plas Mawr 

8.80

    

6.10

   

7.90

Castell Rhaglan 

8.80

    

6.10

   

7.90

Castell Rhuddlan 

5.50

    

3.80

   

4.90

Llys yr Esgob Tŷ Ddewi 

5.70

    

3.90

   

5.10

Abaty Tyndyrn 

7.90

    

5.50

   

7.10

Llys a Chastell Tretŵr 

8.80

    

6.10

   

7.90

*Dylai plant rhwng 5 a 17 oed fod yng nghwmni oedolyn           

Mae'r canllawiau hyn yn rhoi'r wybodaeth angenrheidiol sydd ei hangen ar dywyswyr yn y diwydiant teithio i helpu i gadw eu hunain, eu grwpiau, staff Cadw a’r ymwelwyr yn ddiogel.


Rhagofynion

  • Ffoniwch tîm y ceidwaid i ofyn am gyngor mewn perthynas â dewis y lleoliad delfrydol ar gyfer stopio / siarad, a ble i'w osgoi.
  • Darperir cyngor ar hygyrchedd ar-lein ar dudalen gwefan pob heneb. Bydd angen rhannu’r wybodaeth honno gyda’r grŵp arfaethedig cyn ymweld â’r safle.
  • Mae’n rhaid i'r grŵp sy’n ymweld yn ogystal â'r tywyswyr wisgo dillad addas gan gynnwys esgidiau sy'n addas ar gyfer yr heneb. Mae’n rhaid i hyn gynnwys y newidiadau a ragwelir yn y tywydd a'r hinsawdd.
  • Mae’n rhaid i’r grŵp sydd yn ymweld â heneb fod a’r meddyginiaethau angenrheidiol gyda nhw, gan gynnwys meddyginiaethau fyddai eu hangen mewn argyfwng meddygol.
  • Nid oes lle ar gael ar y safle i storio bygis neu fagiau. Dydy'r tir ddim pob amser yn addas ar gyfer bygis, cadeiriau olwyn ac yn y blaen.
  • Nid oes gan bob safle sydd â staff sy’n gofalu am y safle doiledau na gwasanaethau arlwyo.

Cyrraedd y safle
Cofiwch fod angen i bob tywysydd sy’n arwain taith ddod â'r cyfeirnod archebu unigryw neu'r cod QR gyda nhw ar gyfer pob ymweliad fel prawf o’r archeb. Gallai peidio â bod gyda cod QR dilys neu gyfeirnod archeb oedi mynediad y grŵp yn sylweddol.

Gwnewch yn siŵr bod y nifer sy’n bresennol ymhob grŵp yn gywir a bod hynny’n cael ei gadarnhau gan aelod o staff Cadw wrth i chi gyrraedd y safle. Cofiwch, bydd y nifer sy’n bresennol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer anfonebu. Gwnewch yn siŵr os gwelwch yn dda bod gan tywysydd y daith yr union nifer ar gyfer pob categori ar gyfer rhoi’r wybodaeth honno i aelod o staff Cadw ar y safle, e.e. 20 o bobl hŷn, 20 o oedolion, 10 o bobl ifanc, 2 arweinydd taith.

Ar ôl cyrraedd y safle ar ddiwrnod yr ymweliad, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael eich briffio ar y safle gan aelod o staff Cadw. Bydd cyfle bryd hynny hefyd i drafod nodweddion allweddol y safle, y risgiau a'r camau gweithredu a argymhellir.
Gall amodau a threfniadau amrywio o ddydd i ddydd, felly peidiwch â chymryd yn ganiataol y byddan nhw’r un fath ar ymweliad blaenorol.

Lle bo'n berthnasol, rhoddir map o’r safle i chi sy'n dangos cynllun y safle yn gyffredinol. Gall hyn hefyd dynnu sylw at nodweddion pwysig fel systemau unffordd a hysbysiadau
rhybuddio diogelwch. Bydd rhaid i chi rannu'r negeseuon diogelwch pwysig hyn gyda'ch grŵp. 

Bydd y rhain yn cael eu haddasu yn benodol ar gyfer pob safle, ond mae'r rheolau sylfaenol canlynol yn berthnasol ym mhob safle Cadw:

  • Peidiwch â dringo ar strwythurau hanesyddol neu fodern
  • Arhoswch o fewn y ffensys a rheiliau gwarchod
  • Defnyddiwch yr holl reiliau llaw sy’n cael eu darparu
  • Cymerwch ofal wrth ddringo grisiau troellog a gadewch ddigon o le i olau naturiol gyrraedd ardal y grisiau
  • Cofiwch ildio eich lle i bobl sy'n dod i lawr grisiau cul

Teithiau Tywys
Rhaid i bob tywysydd taith dderbyn sesiwn friffio benodol i'r safle ar ddiwrnod eu hymweliad. Gall hyn gynnwys gwybodaeth am newidiadau ar y safle, fel:

  • Cynnal a chadw y tiroedd
  • Prosiectau cadwraeth
  • Ardaloedd y tu allan i'r terfynau
  • Peryglon tymhorol

Cynlluniwch y daith gan ddefnyddio’r ardaloedd sydd ar gael ar y diwrnod hwnnw. Cofiwch gymryd gofal arbennig mewn mannau sy’n brin o le fel safle fechan ar gyfer gweld golygfa, balconï, tŵr troellog neu lwybr cerdded mewnol cul neu
lwybr sydd ddim yn arwain i unlle. Dylai maint y grŵp adlewyrchu'r lle sydd ar gael yn yr ardaloedd hyn. Addaswch y daith i gyd-fynd ag anghenion y grŵp, maint a chynllun y safle, a chynnwys seibiannau ar gyfer diod a chyfleodd i orffwyso lle bo'n addas.

Byddwch yn ymwybodol o bresenoldeb ymwelwyr eraill a’r angen i chi beidio tarfu ar eu profiadau nhw wrth i chi hebrwng eich grŵp o amgylch y safle.

Delio ag argyfwng
Mae darpariaeth cymorth cyntaf ar gael yn y ganolfan ymwelwyr. Bydd angen cofnodi manylion personol unrhyw berson sydd wedi'i anafu yn ogystal ag unrhyw dystion.
Nid yw Cadw yn gyfrifol am unrhyw ddamwain sy’n digwydd y tu allan i safle’r heneb ac nid yw'n cymryd cyfrifoldeb am unrhyw un sydd wedi'u hanafu ac sy'n mynd i'r ysbyty oherwydd eu hanafiadau.
Mewn argyfwng, dilynwch gyfarwyddiadau’r staff bob amser. Mae’n rhaid i arweinwyr taith gynorthwyo staff Cadw i gyfarwyddo eu grŵp eu hunain lle bo angen.

Ymgysylltu â Staff
Os byddwch yn teimlo yn ystod eich ymweliad nad ydy'r heneb yn edrych yn dderbyniol neu nad ydy’n teimlo’n ddiogel, yna rhowch wybod i aelod o staff cyn gynted â phosibl.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi a’ch cleientiaid eto yn fuan.

Ebost: Cadwcommercial@llyw.cymru

Ffôn: 03000 257 182