Hysbysebu ar sgriniau digidol newydd Cadw
Cyfle unigryw i arddangos eich cynnyrch neu wasanaeth ar un o saith sgrin ddigidol HD y tu allan i rai o'r henebion mwyaf eiconig yng Nghymru. Mae’r saith safle sef Conwy, Caernarfon, Cricieth, Harlech, Castell Coch, Rhaglan a Tyndyrn yn croesawu dros 33,000 o ymwelwyr yr wythnos yn ystod y prif dymor a dros 800,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Gall eich hysbyseb gyrraedd yr ymwelwyr hyn yn ogystal â'r miloedd sy'n pasio'r henebion godidog hyn bob mis.
Edrychwch ar ein pecynnau hysbysebu isod i gael mwy o wybodaeth neu ffoniwch dîm masnachol Cadw ar 03000 257182 neu e-bostiwch cadwcommercial@gov.wales