Skip to main content

Cynllun Llawr — Castell Coch

Esiamplau o digwyddiadau ar y safle

  • Dangosiadau ffilm a dramâu yn y cwrt
  • Adrodd straeon a chaneuon yn yr ystafelloedd wedi'u dodrefnu
  • Teithiau tywys Calan Gaeaf
  • Gwneud torchau Nadolig yn ardal y gegin

Gwybodaeth meysydd parcio

Mae gan y safle 80 o fannau parcio pwrpasol a lle i bedwar bws. Mae’r maes parcio uchaf y tu allan i'r fynedfa ac mae’r maes parcio canol a’r maes parcio isaf ryw bum munud o daith gerdded o’r safle.

Mynediad i’r Safle

Does dim mynediad i'r safle ei hun ond mae yna fynediad i gerbydau i'r maes parcio tu allan i'r safle ond mae cyfyngiadau ar waith. Cyrhaeddir yr safle drwy giât ac yna dramwyfa gymharol serth. Mae'r giât yn ddigon llydan i fws 60 sedd basio drwyddi.

Mynediad i bobl sy’n chael yn anodd symud o gwmpas

Mae'r safle yn un hygyrch ond bydd angen i’r ymwelwyr fod yn ymwybodol o nifer o fannau yn y safle, gan gynnwys tramwyfa serth sy’n arwain i'r heneb a phont godi serth o bren (â chanllaw arni) wedyn. Mae’r prif gwrt cerrig brig yn gymharol lefel ond mae’n anwastad gydag ymylon llethrog o’i amgylch ar yr ochr. I gyrraedd ystafelloedd mewnol yr heneb defnyddir grisiau cerrig ac mae dwy ran o dair o’r rhain yn gul iawn (mae canllawiau ar gael yn y rhan fwyaf).

Cyfleusterau

  • Mae byrbyrdau ar gael o'r siop anrhegion
  • Mae toiledau gwryw / benyw ar gael ond does dim nodweddion i’ch helpu os ydych yn ei chael yn anodd symud o gwmpas
  • Mae cyfleusterau newid babanod
  • Meinciau
  • Dolenni sain cludadwy ar gael
  • Mae'r signal ar gyfer ffonau symudol ar y safle yn wael

Trwydded ar y Safle?

Trwydded PPL a PRS. Trwydded safle ar gael hefyd.

Mannau o dan do

Mae gan y safle ofod mewnol, sef y Neuadd Wledda sy'n mesur 35 x 25 x 40 troedfedd. Ceir dwy fynedfa – y prif ddrws 37' x 86' a'r drysau dwbl i’r Parlwr 46' x 96'. Mae 28 o risiau carreg yn arwain at yr ystafell hon. Mae’r ffenestri yn 8-12 x 36' ynghyd â gwydr lliw ar y brig. Ceir chwe sbotolau Eco. Mae nodweddion hynod yr ystafell hon yn cynnwys y nenfwd pren a’i baneli addurnol, murluniau ar y waliau a'r lle tân amlwg.

Trwydded ar gyfer Priodasau a Phartneriaethau  Sifil

Oes - trwydded ar gyfer Y Parlwr.

Cynllun  o’r safle

Oes

Power ar gael ar y safle

Oes- pŵer or prif gyflenwad

Dwr ar gael ar y safle

Nac oes

Caniatad i osod pegiau yn y llawr

Ni chaniateir pegiau yn y tir.

Unrhyw fannau cyfnedig?

Oes – Mae Oriel y Glêr o amgylch y Parlwr ar gau i’r cyhoedd fel rheol, ond gallwn drefnu ei bod ar gael ar gyfer ffilmio. Trwydded i 30 o bobl sydd gan y Parlwr. Does yna dim ardaloedd cyfyngedig arall ar y safle heblaw am yn ystod gwaith cadwraeth a gwaith cynnal a chadw