Skip to main content

Cynllun Llawr — Llys a Chastell Tretŵr

Cynllun Llawr — Castell

Esiamplau o digwyddiadau ar y safle

  • Ail-greadau hanesyddol
  • Perfformiadau byw dramâu a cherddoriaeth
  • Ffilmio ar gyfer ffilmiau/cyfresi teledu
  • Sgyrsiau a teithiau bywud gwyllt

Gwybodaeth meysydd parcio

Maes parcio glaswellt a graean i hyd at 50 o geir a lle parcio wrth ymyl y ffordd gyferbyn â'r llys i 15 o gerbydau. Does dim lleoedd parcio dynodedig i bobl anabl na bysiau. Mae safle bach i feiciau yn y maes parcio hefyd.

Mynediad i’r Safle

Mae giatiau dwbl bwaog yn y porthdy yn rhoi mynediad i'r cwrt gyda llwybr cobls carreg, 2.2m o led ac 1.9m o uchder gan godi i 2.9m yng nghanol y bwa. Mae giatiau dwbl (3.35 m o led, heb gyfyngiad uchder) yn arwain i Ardd y De yn rhoi mynediad cyfyngedig i'r safle, ac mae angen i’r ardal laswelltog a gyrhaeddir fel hwn gael ei gwarchod rhag difrod gan gerbydau. Mae un giât i Ardd y De (1.35m o led a 2.2m o uchder yng nghanol y bwa hanner ffordd rhwng y ddwy giât uchod) ac un giât (1.37m o led, heb gyfyngiad uchder) rhwng Aden ogleddol y Llys a'r toiledau.

Mynediad i bobl sy’n chael yn anodd symud o gwmpas

Mae'r rhan fwyaf o’r safle yn hygyrch er y gallai'r fynedfa gobls garreg fod yn anaddas i rai sy’n defnyddio cadeiriau olwynion a chadeiriau treiglo. Gellir trefnu bod mynedfa ochr ar gael os bydd angen. Ar hyn o bryd, does dim mynediad i gadair olwynion i'r castell, ond mae’r siop/y tiroedd/llawr gwaelod Aden y Gorllewin yn hygyrch i bawb gyda rampiau lle bo’u hangen. Ceir mynediad i lefelau uchaf Aden y Gorllewin drwy ddringo grisiau un cyfeiriad o'r solar gyda grisiau 23cm a chanllaw ar y ddwy ochr (lled isaf = 0.97 m) a grisiau sy’n dyblu nôl o'r gegin gyda’r grisiau yn 18cm ac un canllaw canolog (lled isaf = 0.76 m).

Cyfleusterau

  • Mae toiledau gwryw / benyw ar gael gan gynnwys cyfleusterau i’r rhai sy’n defnyddio cadeiriau olwynion
  • Mae byrddau a meinciau picnic ar gael
  • Dolennau sain cludadwy
  • Mae’r signal ffonau symudol yn dda ar y cyfan o amgylch y safle

Trwydded ar y Safle?

Trwydded alcohol. Mae gan y safle drwyddedau PPL a PRS.

Mannau o dan do

Neuadd Uchaf (Aden y Gorllewin) – 15.62m (hyd) x 7.2m (lled) x 2.67m (uchder). Un fynedfa sy’n 1.1m (lled) x 2.31m (uchder). Lle i 50 o bobl ar y mwyaf.
Ystafelloedd y Gwesteion (Aden y Gogledd) – 22.27m (hyd) x 6.1m (lled) x 2.52m (uchder). Tair mynedfa – pob un â mesuriadau tebyg – 0.76m/1.1m (uchder) x ochrau 1.67m (uchder) x canol 1.83/1.87m. Mae gan bob un o’r drysau siliau 18cm. Lle i 50 o bobl ar y mwyaf.
Y Neuadd Isaf (Aden y Gogledd) – 14.6m (hyd) x 6.0m (lled) x 2.36m (uchder). Drws y de x 2 ddrws dwbl – 0.95m (lled) x ochrau 1.42m (uchder) x canol (2.24m). Drws sengl 0.77m (lled) x ochrau 1.55m (uchder) x canol 1.92m. Dau ris 18cm i fyny i’r drws dwbl, sil 18cm i’r drws sengl. Lle i 50 o bobl ar y mwyaf.

Trwydded ar gyfer Priodasau a Phartneriaethau Sifil

Oes - 3 x ystafelloedd yn yr llys sydd yn cael trwydded priodas

Cynllun  o’r safle

Oes

Power ar gael ar y safle

Oes – 2 x 32amp un wedd yn y tiroedd. 2 x 30amp cebl cylch yn y Llys

Dwr ar gael ar y safle

Oes – mae’r prif gyflenwad dŵr ar gael o bob un o’r toiledau gwryw / benyw (poeth ac oer) ac ar gael hefyd i’r cwrt a’r maes parcio (sef dŵr oer yn unig, a’r ddau yn addas i’w hyfed)

Caniatad I osod pegiau yn y llawr

Oes – hyd at 110mm – 4 modfedd

Unrhyw fannau cyfnedig?

Nac oes