Swyddi Gwag
Ceidwad - Llys yr Esgob, Tyddewi
Rôl dros dro am oddeutu 3 mis, gan ddechrau cyn gynted â phosib, min 2 ddiwrnod yr wythnos.
Byddwch yn gweithio fel Ceidwad rhan amser, sail rota am oddeutu 3 mis. Bydd gofyn i chi gyfarch a gwasanaethu ymwelwyr, cymryd derbyniadau a chynorthwyo yn y siop ar y safle sy'n gwerthu cofroddion. Bydd y cyfrifoldebau'n cynnwys trin arian parod a chydbwyso fflôt, byddwch hefyd yn gyfrifol am gwirio'r wefan bob bore i sicrhau ei bod yn barod i dderbyn ymwelwyr.
Tymor Sefydlog – 2 flynedd
Lleoliad (au) - De-ddwyrain Cymru, Gogledd Cymru
Mae ein timau cadwraeth mewnol yn cyflawni cyfrifoldebau statudol ar gyfer cadwraeth a chynnal a chadw'r henebion sydd dan ein gofal. Y prif swyddogaethau yw cyflawni gwaith cadwraeth saer maen, gwaith cynnal a chadw cylchol ac adweithiol a gwaith cyflwyno ar safleoedd a henebion Cadw o fewn ardal ddaearyddol benodol.
Hoffem recriwtio sawl saer maen dan hyfforddiant. Byddwch yn dilyn cwrs hyfforddi dwy flynedd sy'n cynnwys hyfforddiant strwythuredig tuag at gymhwyster NVQ3 mewn Sgiliau Adeiladu Gwaith Maen Treftadaeth, ochr yn ochr â hyfforddiant seiliedig ar waith sy'n cael ei ddarparu'n fewnol gan dîm seiri maen medrus Cadw. Bydd asesiad terfynol i benderfynu a ydych wedi bodloni'r safon NVQ3 yn cael ei gynnal gan Ganolfan Tywi yn Fferm Dinefwr, Llandeilo.
Dyddiad cau - 27/11/2025, 16:00
Tîm recriwtio
- Ebost - SharedServiceHelpdesk@gov.wales
Mae gweithio i Cadw yn rhoi cyfle i chi chwarae eich rhan wrth ofalu am amgylchedd hanesyddol Cymru.
Boed hynny’n gwneud gwaith cadwraeth arbenigol, yn cynghori perchnogion eiddo hanesyddol ar yr arferion gorau o ran gwaith cynnal a chadw neu’n croesawu ymwelwyr i un o’r safleoedd arbennig yr ydym yn gofalu amdanynt.
Mae Cadw yn un o asiantaethau Llywodraeth Cymru, felly mae’r bobl sy’n gweithio yma yn weision sifil. Rydym yn cynnig llawer o fuddion, gan gynnwys cyfleoedd hyfforddi a datblygu, cynlluniau pensiwn, lwfans gwyliau hael, gweithio hyblyg (yn dibynnu ar eich rôl). A’r cyfle wrth gwrs i fod yn rhan o dîm ymroddedig sy’n falch o gadw asedau hanesyddol Cymru yn ‘daclus’ er mwyn i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer nifer o swyddi a bydd hyn yn cael ei nodi yn yr hysbyseb ar gyfer y swydd. Rydym yn annog ac yn darparu cyfleoedd i bobl ddysgu Cymraeg ac, os ydych chi’n siaradwr Cymraeg, gallwch ddisgwyl amgylchedd gwaith dwyieithog a gwybodaeth a gwasanaethau AD sydd ar gael yn ddwyieithog.
Mae ein swyddi yn cynnwys:
- Saer Maen
- Ceidwad
- Arbenigwr cadwraeth
- Archaeolegydd
- Arolygydd Adeiladau Hanesyddol
Rydym hefyd yn cyflogi pobl sy’n ymwneud â:
gwaith achos, ystadau, digwyddiadau, cyfleusterau, cyllid, grantiau, iechyd a diogelwch, AD, dehongli, dysgu gydol oes, marchnata, ffotograffiaeth, cyhoeddiadau, manwerthu, datblygu’r we a hyd yn oed trefnu priodasau!
Rydym yn recriwtio ar sail teilyngdod a chystadleuaeth deg ac agored yn unol ag egwyddorion recriwtio’r gwasanaeth sifil. Gellir dod o hyd i fanylion am swyddi gwag drwy fynd i Swyddi a swyddi gwag | LLYW. CYMRU.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio i ni ac eisiau cael gwybod pan fydd cyfleoedd yn codi, ewch i wefan recriwtio Llywodraeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer hysbysiadau swyddi.
Fel rhan o Lywodraeth Cymru, mae'r gydberthynas sydd gennym â'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Yn ein barn ni, y ffordd orau o gyflawni ein nodau yw sicrhau bod y rheolwyr a'r undebau llafur yn gweithio gyda'i gilydd.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
- PCS
- Prospect
- FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
- cyflog
- telerau ac amodau
- polisïau a gweithdrefnau
- newid sefydliadol.
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.