Skip to main content

Cyngor Dysgu Awyr Agored Cymru   

Mae Cyngor Dysgu Awyr Agored Cymru yn dod â randdeiliaid sy'n ymwneud â Dysgu yn yr Awyr Agored yng Nghymru ynghyd. Mae'n cydnabod bod gan bob un rôl werthfawr i'w chwarae i greu llais cyfunol, cydlynol ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored yng Nghymru. Wedi'i adeiladu ar ethos a sylfaen o fod yn gydweithredol, rhagweithiol a strategol, mae'n gweithredu fel platfform ar gyfer gweithio mewn partneriaeth, gan ddefnyddio cyfoeth o brofiad sefydliadau, i gydweithio er budd Dysgu Awyr Agored, a phawb sy'n cymryd rhan.

Mae Cadw yn sefydliad cefnogol, ac mae'r tîm Dysgu Gydol Oes yn ymgysylltu â phartneriaid ac aelodau i alluogi gweithgaredd ar ein safleoedd, sy'n ychwanegu at y cynnig dysgu awyr agored ar draws y cwricwlwm a thu hwnt.  Fel rhan o Lywodraeth Cymru, nid ydym yn ymgymryd mewn agweddau lobïo y gall Partneriaid ac Aelodau yn y grŵp eu cyflawni.

Un o'r uchafbwyntiau bob blwyddyn yw Wythnos Dysgu Awyr Agored Cymru, digwyddiad blynyddol a drefnir gan y Cyngor i hyrwyddo dysgu yn yr awyr agored ledled Cymru, dathlu gwaith sy'n cael ei wneud eisoes, ac annog eraill i gymryd rhan. Sut gallech chi gymryd rhan yn Wythnos Dysgu Awyr Agored Cymru.

Am ragor o wybodaeth am Ddysgu Awyr Agored ewch i Dysgu yn yr Awyr Agored | Cyngor Cymru ar gyfer Dysgu Awyr Agored neu dilynwch gyfrif cyfryngau cymdeithasol y cyngor https://x.com/WalesCouncil4OL  i gael y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau dysgu yn yr awyr agored.

Cofiwch dagio @WalesCouncil4OL a #DysguAwyrAgoredCymru yn ogystal â @cadwcymru os ydych yn ymgymryd ag unrhyw weithgaredd dysgu awyr agored yn ein safleoedd Treftadaeth ledled Cymru

‘Bwyd a Hwyl' Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf   

Mae Bwyd a Hwyl yn rhaglen addysg yn yr ysgol sy’n darparu addysg am fwyd a maeth, gweithgarwch corfforol, sesiynau cyfoethogi a phrydau bwyd iach i blant yn ystod gwyliau’r haf. Gan ddechrau fel cynllun peilot gan Gyngor Caerdydd yn 2015, mae Bwyd a Hwyl wedi datblygu’n rhaglen genedlaethol wedi’i hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru a gaiff ei gweinyddu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Fe fydd CLlLC yn parhau i gyflwyno’r rhaglen drwy weithio’n agos gydag awdurdodau lleol ac asiantaethau partner.  'Bwyd a Hwyl' Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf

Ers ei ddyddiau cynnar mae Cadw wedi bod, ac mae’n parhau i fod, yn bartner cefnogol gweithredol; gan ddarparu ystod eang o weithgareddau yn seiliedig ar dreftadaeth, ledled Cymru, sy'n ceisio ennyn diddordeb pobl ifanc yn eu hanes a gwneud treftadaeth yn hwyl, i'w hysbrydoli i archwilio ymhellach ac ymweld â'u hamgylchedd hanesyddol lleol a'n safleoedd.  Dros y blynyddoedd, mae tua 5000 o blant wedi gallu mwynhau treftadaeth yn y gwyliau, drwy gyfranogiad Cadw. Ac mi wnaeth hyd yn oed Michael Sheen ymuno ag un o'n sesiynau yng Nghastell-nedd.

Mae sesiynau Cadw yn gyfyngedig ac yn mynd yn gyflym, felly rydym yn annog trefnwyr i gysylltu â ni'n gyflym, i archebu slotiau, unwaith y byddant wedi'u cyhoeddi.  Ac rydym yn annog pawb sy'n cymryd rhan i gysylltu unrhyw gyfryngau cymdeithasol am eu sesiynau Cadw gyda @cadwcymru

Gŵyl Hanes Cymru i Blant 2024  

Bwriad yr ŵyl yw i greu brwdfrydedd, ymhlith plant yn bennaf, am hanes Cymru, gan estyn cyfleoedd unigryw i ddysgu mwy am gymeriadau a straeon difyr o’r gorffennol; darganfod safleoedd o bwys hanesyddol, a dathlu hanes a threftadaeth cyfoethog Cymru.

Cynhaliwyd yr ŵyl gyntaf ym mis Medi 2015 ar ôl i Eleri Twynog, aelod o Fwrdd yr ŵyl, weld sioe am Harri Tudur yn cael ei pherfformio, i gynulleidfa o blant oed cynradd,yng Nghastell Rhaglan. Roedd yn brofiad gwefreiddiol a blannodd hedyn syniad am ŵyl fyddai’n cael ei gynnal led led y wlad, i ddathlu hanes Cymru. 

Mae’r ŵyl yn gwmni nid am elw, a dros gyfnod o 6 wythnos, ym mis Medi a Hydref bob blwyddyn, daw rhai o safleoedd treftadaeth Cymru yn fyw gyda perfformiadau; gweithdai; sgyrsiau ac arddangosfeydd. Yn ogystal â’r digwyddiadau byw, cynhelir nifer o sesiynnau ychwaengol ar lein gan ymestyn apêl a chyrhaeddiad yr ŵyl. Ers y cychwyn, gyda chefnogaeth nifer fawr o bartneriaid, mae’r ŵyl wedi cydlynnu rhai cannoedd o ddigwyddiadau gyda miloedd o blant wedi cymryd rhan.

Mae Tîm Dysgu Gydol Oes Cadw wedi bod yn cefnogi’r ŵyl hon yn frwd ers blynyddoedd lawer, hyd yn oed yn ystod anawsterau a chyfyngiadau’r pandemig. Rydym wedi gweld ein hunain yr holl ddysgu llawn mwynhad sy’n digwydd drwy’r profiadau hudolus hyn ar ein safleoedd neilltuol ledled Cymru, lle digwyddodd yr hanes mewn gwirionedd.

AMDANOM | Gwyl Hanes Cymru

Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig

Nod Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yw annog pobl ifanc, o bob oed, cefndir a gallu, i ymddiddori fwyfwy yn eu treftadaeth Gymreig (Cynefin a Stori Cymru), i ddarganfod rhagor am gyfoeth ac amrywiaeth eu treftadaeth ac i rannu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’u cymunedau eu hunain â’r byd yn ehangach. 

Mae’r fenter yn cynnal cystadleuaeth flynyddol ar gyfer prosiectau treftadaeth mewn ysgolion, gan gefnogi a meithrin datblygu sgiliau trawsgwricwlaidd trwy astudio hanes a diwylliant Cymru. Mae’r cwricwlwm newydd yn darparu cyfleoedd cyfoethog i archwilio’r dreftadaeth Gymreig a chysyniad cynefin gyda dysgwyr ym mhob lleoliad yng Nghymru.

Dehonglir y gair ‘treftadaeth’ yn y modd ehangaf, i gynnwys pobl a’u hanes cymdeithasol, crefydd, traddodiadau a diwylliant; byd gwaith, amaethyddiaeth, diwydiant, cyllid, masnach, gwyddoniaeth, technoleg, celfyddyd a chwaraeon.  

Gall y prosiectau hyn fod yn rhan o’r gwaith cwricwlwm-ganolog arferol yn amserlen yr ysgol, neu gallant adlewyrchu gwaith a wneir gan yr ysgol i goffáu digwyddiad, person neu adeilad lleol. Bydd y gwaith prosiect a wneir ar gyfer y gystadleuaeth hon yn ateb llawer o ofynion hanes y cwricwlwm newydd, Cwricwlwm i Gymru. Mae’r prosiectau hyn yn gofyn am ymchwil, casglu defnyddiau, dadansoddi a gwerthuso, ynghyd â sgiliau cyfathrebu.

Gellir eu cyflwyno trwy arddangosfeydd, perfformiadau, adferiadau a dulliau eraill sy’n cyfrannu at dreftadaeth, neu trwy gofnodion print neu ar ffurf electronig. Anogir ysgolion i rannu eu darganfyddiadau. Bydd beirniaid yn asesu’r prosiectau, gan ystyried y lefel briodol o safbwynt llythrennedd, rhifedd a sgiliau technoleg gwybodaeth.

MYDG yn cynnal cystadleuaeth flynyddol ar gyfer prosiectau treftadaeth yn ysgolion Cymru gan gynnig nifer o wobrau ariannol, gyda hyd at £1000 i’r enillwyr.

HAFAN | WHSI