Mae ein safleoedd yn aml yng nghalon cymunedau ledled Cymru ac felly maent yn lleoliadau delfrydol ar gyfer digwyddiadau lleol.
Mae amrywiaeth o ddigwyddiadau cymunedol lleol ar graddfa fach yn cael eu cynnal ar ein safleoedd hanesyddol trwy gydol y flwyddyn.
Maent yn nodweddiadol yn fach o ran graddfa, yn anfasnachol / nid er elw ac yn cynhyrchu’r effaith leiaf bosibl ar brofiad ein ymwelydd.
Beth yw Digwyddiad Cymunedol?
Mae digwyddiadau cymunedol sy’n cael eu cynnal ar ein safleoedd fel arfer yn gweithgareddau fel datganiadau côr a cherddoriaeth, gwasanaethau crefyddol neu ddigwyddiadau ar raddfa fach. Maent:
Yn ogystal:
Os nad ydy’r digwyddiad yn dilyn y rhestr uwchben, efallai y bydd angen codi costau staff neu bydd rhaid estyn ein oriau agored, neu bod rhaid dod ag offer digwyddiadau ychwanegol i’r safle. Dylid ystyried digwyddiadau a fyddai’n cael mwy o effaith ar ein safleoedd ar gyfer Llogi Safle Cadw a bydd angen cyflwyno ffurflen gais Llogi Safle Cadw.
Dyma rhai enghreifftiau o ddigwyddiadau cymunedol:
Proses ymgeisio
Mae rhaid i bob grŵp cymunedol ddefnyddio ein ffurflen gais ar-lein er mwyn cofrestru diddordeb i ddefnyddio unrhywun o’n henebion, a fydd hyn yn galluogi'r tîm i benderfynu a yw’r digwyddiad yn briodol ar gyfer y safle o dan sylw. Mae hyn hefyd yn ein hysbysu o unrhyw ofynion arbennig sydd gan yr ymgeisydd ac yn caniatáu inni gynghori’r grŵp cymunedol o unrhyw bryderon.
Dylai’r ffurflen gael ei chyflwyno o leiaf 30 diwrnod cyn y digwyddiad, ac yn gynharach os yn bosibl.
Bydd angen cyflwyno gyda’r ffurflen, gynllun digwyddiad, asesiad risg a chadarnhad y bydd yswiriant cyhoeddus ar waith i gwmpasu’r digwyddiad.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau digwyddiadau cymunedol, e-bostiwch ein Tîm Digwyddiadau: digwyddiadaucymunedol@llyw.cymru