Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Sut i wella Effeithlonrwydd Ynni mewn Adeiladau Hanesyddol yng Nghymru

Sut i wella Effeithlonrwydd Ynni mewn Adeiladau Hanesyddol yng Nghymru

Mae her newid hinsawdd yn golygu bod angen i bawb weithredu.

Rydyn ni wedi creu canllawiau i unrhyw un sydd am wella effeithlonrwydd ynni adeilad traddodiadol neu hanesyddol. Mae rhesymau da dros wneud hyn, gan gynnwys gostwng allyriadau carbon a lleihau biliau tanwydd, ac yn aml gall wneud yr adeilad yn fwy cyfforddus i fyw neu weithio ynddo. Mae’n rhan o fyw'n fwy cynaliadwy hefyd.

Dyma ambell awgrym syml i gynyddu effeithlonrwydd ynni y gallwch eu rhoi ar waith heddiw i’ch rhoi ar ben ffordd:

  • cadw'r adeilad mewn cyflwr da. Mae adeilad sych, wedi'i gynnal a'i gadw'n dda, yn llawer haws a rhatach i'w wresogi
  • deall eich system wresogi a'i dull rheoli.  Bydd hyn yn eich helpu i'w ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithlon. Mae astudiaethau'n dangos y gall hyn gael mwy o effaith ar leihau allyriadau na newidiadau i adeiladwaith yr adeilad. Trefnwch i’ch boeler gael ei wasanaethu’n rheolaidd a'i addasu i fod mor effeithlon â phosib
  • troi'r thermostat i lawr 1 gradd canradd. Mewn cartref â system gwres canolog, gall hyn leihau eich ynni gwresogi 10% neu fwy bob blwyddyn
  • newid i gyflenwadau ynni carbon is
  • diffodd dyfeisiau yn y plwg pan nad ydych chi'n eu defnyddio, yn hytrach na’u rhoi ar 'standby' Mae ymchwil Nwy Prydain yn awgrymu y gallai hyn arbed hyd at 23% ar filiau trydan
  • peidio â gadael gwefrwyr wedi'u plygio i mewn i'ch dyfeisiau ar ôl gwefru'n llawn
  • lleihau gwastraff. Er enghraifft, aros nes bod eich peiriant golchi llestri neu'ch peiriant golchi dillad yn llawn cyn eu rhoi ymlaen a dim ond berwi'r hyn o ddŵr sydd ei angen arnoch   
  • gosod deunyddiau atal drafftiau. Dyma un o'r ffyrdd mwyaf cost-effeithiol o leihau eich biliau ynni a gwneud eich adeilad yn fwy clyd. Cofiwch adael digon o gyfleoedd awyru i atal lleithder rhag cronni, a sicrhau amgylchedd iach dan do
  • inswleiddio'r atig, ond meddyliwch am y deunyddiau rydych chi'n eu defnyddio. Fel pob deunydd adeiladu, mae gan ddeunydd insiwleiddio'r hyn a elwir yn 'garbon ymgorfforedig' - y CO2 sy'n gysylltiedig â'i weithgynhyrchu a'i gludo. Mae dewis deunyddiau â charbon isel ymgorfforedig yn lleihau effeithiau amgylcheddol
  • adnewyddu neu ailosod caeadau ffenestri coll, ychwanegu llenni a bleindiau. Mae caeadau wedi'u haddasu gydag insiwleiddio yn gallu lleihau'r gwres a gollir 60% pan fyddant ar gau. Gyda gwydr dwbl, mae hyn yn cynyddu i 77%. 

Mae canllawiau "Sut i Wella Effeithlonrwydd Ynni mewn Adeiladau Hanesyddol" ar gyfer perchnogion a rheolwyr adeiladau hanesyddol. Maent yn disgrifio'r 'dull adeilad cyfan' o lunio a gweithredu gwelliannau effeithlonrwydd ynni:

  • sy'n osgoi difrodi pwysigrwydd yr adeilad
  • sy'n effeithiol, yn gosteffeithlon, yn gymesur ac yn gynaliadwy
  • sy'n sicrhau amgylchedd iach a chyfforddus i breswylwyr
  • sy'n lleihau risg canlyniadau anfwriadol.

Maent yn ystyried y ffactorau sy'n dylanwadu ar lefelau'r defnydd o ynni mewn adeiladau hanesyddol ac yn esbonio holl broses cynllunio ynni adeilad yn fanwl. Maent yn cynnwys rhestrau gwirio mesurau effeithlonrwydd ynni hefyd, a allai fod yn addas fel rhan o'r dull hwn, gyda dolenni i ffynonellau gwybodaeth dechnegol fanylach ar uwchraddio elfennau o adeilad megis toeau, waliau a lloriau.

Y gred gyffredinol yw nad yw adeiladau hŷn yn defnyddio ynni'n effeithlon a bod rhaid eu huwchraddio'n sylweddol er mwyn gwella eu perfformiad. Yn ymarferol, mae'r sefyllfa'n fwy cymhleth, a does dim cyfiawnhad bob amser dros ragdybio perfformiad gwael. Er hynny, mae modd gwella perfformiad ynni a charbon y rhan fwyaf o adeiladau. Ac mae arbedion bach yn cronni'n gyflym.