Treftadaeth, Iechyd a Lles
Mae ymchwil wedi dangos bod modd cael effaith gadarnhaol ar les ac iechyd meddwl drwy ymgysylltu â threftadaeth, a bod safleoedd treftadaeth yn ein helpu i gysylltu â’n hymdeimlad o’n lle yn y byd.
Yn syml, rydyn ni’n teimlo’n well wrth chwilota a darganfod y lleoedd hanesyddol sydd o’n cwmpas.
Mae safleoedd treftadaeth yn dod â ni at ein gilydd i rannu un profiad cyffredin, ac maen nhw’n aml yn lleoliadau tawel sydd wedi’u hamgylchynu gan natur. Gall treulio amser mewn mannau gwyrdd o’r fath ein helpu i ymlacio a dianc rhag straen bywyd modern.
Os ydych chi eisiau lle i enaid gael llonydd, eisiau cerdded, rhedeg, beicio neu ddarganfod atyniadau o’ch cartref, beth am gysylltu â thirwedd hanesyddol eang ac amrywiol Cymru a dilyn ein llwybrau a’n teithiau treftadaeth.
Dyma olwg ar rai o’r gweithgareddau lles y gall Cadw eu cynnig neu gyfrannu atynt:
- Llwybrau treftadaeth a theithiau cerdded: Amrywiaeth o lwybrau a theithiau hunandywys sy’n caniatáu i ymwelwyr ddarganfod tirweddau hanesyddol, megis ein habatai a’n cestyll canoloesol, sy’n siŵr o’ch ysbrydoli a’ch ymdawelu.
- Ymwybyddiaeth ofalgar: Gall ymwybyddiaeth ofalgar helpu ymwelwyr i gysylltu â’r amgylchedd hanesyddol, gan hyrwyddo ymlacio a lles meddyliol. Chwiliwch am ysbrydoliaeth drwy ddilyn ôl troed artistiaid enwog ar ein Taith Ymwybyddiaeth Ofalgar o amgylch harddwch Tyndyrn.
- Digwyddiadau a theithiau: Gallwch fwynhau amrywiaeth o weithgareddau addysgol, diwylliannol a hwyliog drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys gweithdai, teithiau a pherfformiadau byw. Ewch i’n tudalen ddigwyddiadau i ddarganfod beth sydd ar gael yn ein safleoedd drwy gydol y flwyddyn. Mae rhywbeth i bawb ar gael yn ystod Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru (28 Ebrill - 4 Mai 2025) ac mae Drysau Agored yn ystod mis Medi yn cynnig mynediad am ddim a theithiau o gwmpas gwahanol safleoedd.
- Mynediad addysgol am ddim i rai grwpiau: Yn ogystal ag adnoddau addysg am ddim ar-lein, rydyn ni’n cynnig mynediad am ddim i safleoedd â staff ar gyfer grwpiau addysgol sy’n trefnu ymlaen llaw, gan gynnwys grwpiau ieuenctid a sefydliadau elusennol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Ymweliadau Addysg.
- Defnydd cymunedol am ddim mewn rai lleoliadau: Ar gael ar gyfer grwpiau a digwyddiadau penodol – mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Digwyddiadau Cymunedol.
- Cyfleoedd gwirfoddoli: Mae Cadw yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli sy’n gyfle i bobl ymgysylltu â safleoedd treftadaeth a chyfrannu at eu cadwraeth. Gall gwirfoddoli fod yn ffordd werth chweil o gysylltu â’r gymuned a chefnogi lles.