Nodiadau i athrawon
Os oes angen syniadau arnoch ar gyfer eich ymweliad addysgol â Gwaith Haearn Blaenafon, Castell Cas-gwent, Castell Conwy neu Abaty Tyndyrn, lawrlwythwch ein nodiadau i athrawon i gael ysbrydoliaeth. Mae'r nodiadau'n cynnwys hanes cryno, map ac enghreifftiau o sut i dreulio eich amser ar y safle.
Adnoddau Addysg
Rydyn ni wedi datblygu nifer o adnoddau addysgol yn llawn gweithgareddau sydd wedi’u bwriadu i helpu i addysgu agweddu ar y Cwricwlwm Cenedlaethol, wedi’u hysbrydoli gan safleoedd Cadw, boed yn yr ystafell ddosbarth neu i’w defnyddio wrth ymweld ag un o’n henebion.
Adnoddau addysg yn y cartref
Dyma lle mae ein holl weithgareddau newydd yn mynd yn barod i chi eu defnyddio gartref.
Dealltwriaeth o Adeiladau Traddodiadol (cyn 1919) a Hanesyddol ar gyfer Cyrsiau Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Bydd yr adnodd addysgu hwn yn helpu unrhyw un sy’n addysgu dealltwriaeth o adeiladau traddodiadol (cyn 1919) fel rhan o gyrsiau a chymwysterau adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.