Arwyr ac Arwresau Cymru
Gornestau cleddyfau beiddgar a brwydrau gwefreiddiol. Rhamantau trychinebus ac arbrofion cyfrinachol. Tywysogion pwerus a thywysogesau dewr.
Bobl gyffredin yw rhai ohonynt sydd wedi gwneud pethau ysbrydoledig gyda chefndiroedd gwahanol a phrofiad byw; efallai fod deunydd arwr neu arwres ddiwylliannol Gymreig ynddoch chi – amser a ddengys!
Neu, os oes gennych chi ffôn clyfar neu ddyfais tabled, beth am lawrlwytho un o'r straeon cyfareddol fel eLyfr am ddim? Ewch i’n tudalen Arwyr ac Arwresau Cymru — eLyfrau am ddim i gael y fersiwn priodol ar gyfer eich dyfais.
Pwy oedd Betty Campbell?
Dyma gyfle i ddysgu am ferch a freuddwydiai am fod yn athrawes ac am newid y byd, a lwyddodd i oresgyn rhagfarn, a ddaeth yn bennaeth, ac a aeth yn ei blaen i fod yn ddylanwad pwysig o safbwynt sefydlu Mis Hanes Pobl Ddu yn y Deyrnas Unedig. Hi hefyd yw’r fenyw hanesyddol gyntaf o Gymru i gael ei chlodfori â cherflun. Drwy ei stori hi a’i llygaid hi, dewch i ddarganfod y gorau a’r gwaethaf o hanes ei chartref yn Tiger Bay – y lle gorau yn y byd yn ei barn hi.
Cafodd y ffilm hon gan Cadw i glodfori a chydnabod ei bywyd, ei gwaith, ei heriau, ei llwyddiannau a’i hangerdd tuag at addysgu a’i thref enedigol ei chreu yn rhan o Ŵyl Hanes Cymru i Blant 2022. Cafodd ei datblygu a’i haddasu o gynhyrchiad gan Mewn Cymeriad, gyda chymorth gan Theatr Genedlaethol Cymru a Chymdeithas Celfyddydau a Diwylliant Butetown, a’r actores Kimberley Abodunrin.
Mae’r ffilm yn cynnig cyfleoedd i archwilio: rhagfarn hiliol yn y gorffennol a’r presennol, a chydraddoldeb; goresgyn rhwystrau a chredu ynoch eich hun; uchelgeisiau; a beth sy’n golygu mai eich cartref yw’r lle gorau yn y byd. Beth sy’n wych am eich milltir sgwâr?
Llywelyn ap Gruffudd, Ŵyr Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd, Arglwydd Eryri, Tywysog Cymru Bur, Llywelyn eich Llyw Olaf a gafodd ei dwyllo a’i lofruddio ar yr 11eg o Ragfyr, yn yr oerfel ar Bont Orewin ger Llanfair ym Muallt yn y flwyddyn 1282.
Dewi Sant — Nawddsant Cymru
Ar 1 Mawrth yng Nghymru, rydyn ni’n dathlu ein sant cenedlaethol, Dewi Sant.
Mae’n amser gwisgo’r wisg draddodiadol Gymreig gyda chennin a chennin pedr wedi’u pinio ar ein crysau wrth i ni ddawnsio a chanu caneuon traddodiadol Cymreig. Ond pwy yn union oedd Dewi?
Darganfyddwch stori Dewi, sut y bu’n astudio’n galed i fod yn fynach (oes, mae hyd yn oed sant yn gorfod astudio) gan rannu ei ddysg gyda phobol ledled Cymru a thu hwnt; sut y perfformiodd wyrthiau a pha mor hir y cymerodd y Pab i gydnabod ei fywyd rhyfeddol a’i waith fel Archesgob Cymru!
Cofiwch neges Dewi Sant: ‘Byddwch lawen a chedwch eich ffydd a’ch cred, a gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf i.’
Fe ddethlir Dydd Santes Dwynwen, y cyfeirir ato’n aml fel Dydd Sant Ffolant Cymru, bob blwyddyn ar 25 Ionawr.
Ond pwy oedd Dwynwen a pham mai yw hi yw nawddsant cariadon Cymru?
Darganfyddwch stori Dwynwen sy’n ymwneud â chariad a thor calon, sut y daeth yn sant a neilltuodd ei bywyd yn gofalu am eraill, gan sicrhau eu bod yn dod o hyd i obaith a chryfder i ddilyn eu calonnau ac i fod yn hapus...