Skip to main content

Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol

Mae cofnodion amgylchedd hanesyddol yn rhoi gwybodaeth fanwl am amgylchedd hanesyddol ardal benodol. Lluniwyd y cofnodion amgylchedd hanesyddol yng Nghymru o ganlyniad i ddegawdau o waith ymchwil ac ymchwiliadau.

Mae adrannau 194 a 195 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio cofnod amgylchedd hanesyddol sydd ar gael i'r cyhoedd ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru, a'i gadw'n gyfredol. Mae Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru yn cynnal a chadw cofnodion yr amgylchedd hanesyddol ar ran Gweinidogion Cymru.

Mae Archwilio yn caniatáu i’r cyhoedd weld, yn rhad ac am ddim, gofnodion yr amgylchedd hanesyddol ar gyfer ardal pob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae’n cynnwys (neu’n rhoi mynediad i):

• wybodaeth am ddegau o filoedd o safleoedd hanesyddol;

• miloedd o gofnodion sy’n ymwneud ag ymchwiliadau yng Nghymru;

• cofnodion cannoedd ar filoedd o enwau lleoedd hanesyddol.

Mae gwybodaeth ychwanegol a gedwir gan swyddfeydd rhanbarthol Heneb yn ategu’r cofnodion craidd sydd ar wefan Archwilio. Yn ogystal â bod yn ddefnyddiol i ymchwilwyr preifat ac academaidd, mae’r wybodaeth yn hollbwysig i awdurdodau lleol a sefydliadau eraill. Mae’n rhoi sail i gyngor strategol ac yn helpu i reoli achosion pan fo cynigion datblygu neu gynlluniau amaeth-amgylcheddol, coedwigaeth a choetiroedd yn effeithio ar yr amgylchedd hanesyddol.
 

Canllawiau statudol

Mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru: Llunio a Defnyddio fel canllawiau statudol o dan y pwerau yn adran 196 o Ddeddf 2023.

Rhaid i awdurdodau Lleol ac Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol yng Nghymru a Cyfoeth Naturiol Cymru roi sylw i'r canllawiau hyn. Mae'n esbonio sut y gallai'r cyrff cyhoeddus hynny gyfrannu at lunio cofnodion amgylchedd hanesyddol a sut y dylent ddefnyddio’r cofnodion hynny wrth gyflawni eu swyddogaethau.

Er i'r canllawiau hyn gael eu llunio yn benodol ar gyfer y cyrff a enwir yn adran 196 o'r Ddeddf, byddant yn berthnasol i ystod o gyrff cyhoeddus a gwirfoddol eraill, a chyrff eraill yn y sector preifat, yn ogystal ag unigolion â diddordeb yn amgylchedd hanesyddol Cymru.

Safonau a meincnodau

Caiff cofnodion yr amgylchedd hanesyddol eu cynnal a’u cadw, a’u diweddaru fel bod y cyhoedd yn gallu cael budd ohonynt a’u defnyddio yn unol â safonau cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru: Safonau a Meincnodau yn esbonio sut y dylid bodloni’r safonau ac mae’n nodi’r meincnodau a ddefnyddir bob pum mlynedd i fesur yr wybodaeth a gedwir gan yr ymddiriedolaethau archaeolegol rhanbarthol.

Er i’r canllawiau hyn gael eu llunio ar gyfer y sefydliadau hynny sy’n gyfrifol am ddarparu cofnodion amgylchedd hanesyddol yng Nghymru, byddant hefyd yn berthnasol i amrywiaeth o gyrff eraill yn y sector cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat, ac unigolion sy’n ymddiddori yn amgylchedd hanesyddol Cymru.

Archwiliadau o gofnodion amgylcheddol hanesyddol

O dan ei drefniadau gweithredu â Llywodraeth Cymru, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru sy’n gyfrifol am gadw llygad ar y cofnodion sy’n ymwneud â’r amgylchedd hanesyddol. Ar ran Gweinidogion Cymru, bydd y Comisiwn Brenhinol yn monitro’r safonau a lefelau gwasanaeth y cofnodion amgylcheddol hanesyddol yng Nghymru drwy gydgysylltu a dilysu archwiliadau. Cynhelir archwiliadau bob pum mlynedd i arolygu ansawdd data, i fesur perfformiad yn unol â phob un o’r dangosyddion, ac i nodi anghenion o ran gwella. Yn dilyn pob archwiliad, caiff cynlluniau pum mlynedd eu llunio i nodi blaenoriaethau ar gyfer cyflawni gwelliannau, gan gynnwys ymateb i adborth oddi wrth ddefnyddwyr.

Ar ran Gweinidogion Cymru, bydd Gwasanaeth yr Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru (Cadw) yn cyhoeddi adroddiad cryno ar-lein ar yr archwiliadau. Gellir lawrlwytho’r adroddiad cryno ar gyfer archwiliad 2015 isod.