Skip to main content

Croeso i Dreftadaeth 15 Munud, menter gan Cadw i'n hannog ni i gyd i archwilio'r dreftadaeth ar garreg ein drws. 

Mae craffu’n fanylach ar ein hamgylchfyd bob dydd yn gyfle diddorol iawn i ddarganfod agweddau ar ein treftadaeth yr ydym yn aml yn brysio heibio iddynt ac yn eu cymryd yn ganiataol.

Gall adeiladau, rhai domestig a dinesig, mannau agored, o'r cae pêl-droed lleol i lwybr cerdded cŵn, a thirnodau sy'n amrywio o adfeilion canoloesol i greiriau o ddiwydiant modern, i gyd ymddangos wrth chwilota 15 munud o'ch drws ffrynt.

I lansio ein prosiect, gofynnwyd i’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AS, i rannu ei stori dreftadaeth 15 munud — dilynwch ei ôl troed o Landaf ar draws pont Hen Reilffordd Taf a thrwy Barc Hailey wrth ‘Archwilio Llandaf’ ...

Gweld Treftadaeth 15 Munud — Archwilio Llandaf

Llandaff

Mae’r manteision niferus a ddaw o archwilio a chryfhau'r cysylltiad â'n treftadaeth leol yn cynnwys meithrin dealltwriaeth ddyfnach o'n hamgylchoedd gan helpu i hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol, a gwella ansawdd ein bywyd.

Mae hyd yn oed y weithred syml o gerdded neu feicio yn ein hardaloedd lleol yn dod â llawer o fanteision o ran lles corfforol a meddyliol sy'n aml yn darparu lle i anadlu o'n cartref prysur a'n bywyd gwaith.

Ac wrth i ni addasu i fyd sy'n newid yn barhaus, mae arloesi ym maes technoleg ddigidol yn parhau i'n cysylltu ag amgueddfeydd, safleoedd treftadaeth a gwaith celf gwych ledled y byd. Rydym bellach wedi defnyddio adnodd digidol newydd — ArcGIS StoryMaps — i lansio ein menter treftadaeth 15 munud.

Mae tair elfen i'w harchwilio ...

Adnoddau defnyddiol i ddechrau eich stori dreftadaeth 15 munud ...

Mae Casgliad y Werin Cymru yn llawn ffotograffau, dogfennau, recordiadau sain a fideo diddorol a straeon sy'n cysylltu â hanes, diwylliant a phobl Cymru.

Archwiliwch Gasgliad y Werin Cymru

Mae Archwilio yn darparu mynediad cyhoeddus i gofnodion yr amgylchedd hanesyddol (HERs) ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Archwilio

Coflein — Y catalog ar-lein o archaeoleg, adeiladau, treftadaeth ddiwydiannol a morol yng Nghymru.

Archwilio Coflein