Rhoi’r stori mewn hanes
Ewch ar eich antur a thanio’ch dychymyg. Plymiwch i hanes anhygoel Cymru a darganfod beth sy’n ei wneud yn arbennig ac yn unigryw i ni gyd.
Dewi Sant — Nawddsant Cymru
Ar 1 Mawrth yng Nghymru, rydyn ni’n dathlu ein sant cenedlaethol, Dewi Sant.
Mae’n amser gwisgo’r wisg draddodiadol Gymreig gyda chennin a chennin pedr wedi’u pinio ar ein crysau wrth i ni ddawnsio a chanu caneuon traddodiadol Cymreig. Ond pwy yn union oedd Dewi?
Darganfyddwch stori Dewi, sut y bu’n astudio’n galed i fod yn fynach (oes, mae hyd yn oed sant yn gorfod astudio) gan rannu ei ddysg gyda phobol ledled Cymru a thu hwnt; sut y perfformiodd wyrthiau a pha mor hir y cymerodd y Pab i gydnabod ei fywyd rhyfeddol a’i waith fel Archesgob Cymru!
Cofiwch neges Dewi Sant: ‘Byddwch lawen a chedwch eich ffydd a’ch cred, a gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf i.’