Ceidwaid ifanc y castell
Yn ôl yn 2021 ffurfiodd tîm Dysgu Gydol Oes Cadw a Chastell Conwy bartneriaeth â Pigtown Theatre, Shakes VR, Celfyddydau Anabledd Conwy, Canolfan Ddiwylliannol Conwy ac wyth o sefydliadau eraill yn rhan o brosiect Realiti Rhithwir cyffrous.
Cafodd y prosiect ei greu a’i arwain gan Pigtown Theatre a’i ariannu gan Grant Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru, ac roedd Cadw wrth ei fodd o gael bod yn rhan o’r ffordd newydd ysbrydoledig hon o sicrhau mynediad i’n treftadaeth.
Roedd enw’r prosiect, sef BeConwy, yn enw addas iawn ac roedd yr antur i fyd rhithwir mor ysbrydoledig a gwreiddiol fel ei bod wedi torri tir newydd ym maes profiadau rhithwir byw!
Felly, aethom ati i wneud yr un peth eto a chynnig 120 o sesiynau dwyieithog er mwyn i ysgolion ledled Cymru allu ymuno â ni, gan ddefnyddio rhithffurfiau, i fynd drwy fersiwn rhithwir o Gastell Conwy gan ddatrys cliwiau i gyrraedd Gardd y Frenhines Eleanor.
At hynny, mae gennym adnodd dysgu newydd sbon!
Dewch i greu eich blodau digidol eich hun, cwrdd â Jac-do Bach a chreu parti ar gyfer y Frenhines Eleanor, a chael cyfle ar yr un pryd i weld tu mewn y castell rhithwir.
Hoffech chi ymweld â chastell go iawn yn eich ardal chi?
Mae ein holl ymweliadau addysgol yn rhad ac am ddim – i drefnu ymweliad, ewch i Ymweliadau Addysg | Cadw (llyw.cymru)