Beth a wnawn ni
Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru.
Rydym yn gweithio dros warchod amgylchedd hanesyddol hygyrch i Gymru.
Byddwn yn gwneud hyn drwy:
- helpu i ofalu am ein hamgylchedd hanesyddol er budd pobl heddiw ac yfory
- hyrwyddo datblygiad y sgiliau sydd eu hangen i ofalu am ein hamgylchedd hanesyddol yn iawn
- helpu pobl i drysori a mwynhau ein hamgylchedd hanesyddol
- gwneud i’n hamgylchedd hanesyddol weithio er ein lles economaidd
- gweithio gyda phartneriaid i gyrraedd ein nodau cyffredin gyda’n gilydd.
Mae Cadw yn rhan o Adran Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru ac mae’n atebol i’r Dirprwy Weinidog, Arglwydd Dafydd Elis‑Thomas, AC. Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog ei Flaenoriaethau ar gyfer Amgylchedd Hanesyddol Cymru ym mis Medi 2018. Rydym yn gweithio i gyflawni ei uchelgeisiau drwy ein cynllun busnes tair blynedd.