Mynediad
Polisi Mynediad Cadw ar gyfer pob safle sydd â staff yn bresennol
Er mwyn annog a galluogi gymaint o bobl ag sy’n bosib i fwynhau’r cofadeiladau hanesyddol sydd yng ngofal Cadw, rydym yn cynnig ystod o docynnau dydd â chonsesiwn ac opsiynau o dâl aelodaeth rhatach. Edrychwch yn ofalus ar y wybodaeth isod cyn eich ymweliad os ydych yn dymuno cymryd mantais o’r cynigion hyn.
Pobl anabl
Croesewir pob person anabl i safleoedd Cadw yn rhad ac am ddim, a gallant ddod â chynorthwyydd/cydymaith am ddim hefyd. Yn Cadw, deallwn nad oes gan bob person anabl namau sy’n weladwy, felly rhowch wybod i’n staff os hoffech fanteisio ar y consesiwn hwn.
Consesiynau ac aelodaeth hŷn ac iau
Mae gan Cadw raddfa tocynnau mynediad dydd rhatach ar gyfer y rhai o dan 18 a 65 a hŷn, ac amrywiaeth o opsiynau o ddisgownt ar aelodaeth i ymwelwyr iau a hŷn. Mae’n bosib y bydd disgwyl i ymwelwyr ac aelodau ddangos prawf o’u hoedran.
Consesiwn ac aelodaeth i fyfyrwyr
Mae Cadw’n hapus i gynnig graddfa ratach ar gyfer myfyrwyr fel y gallant fwynhau’r cofadeiladau sydd yn ein gofal tra maent yn astudio. I gael tocyn mynediad dydd ac aelodaeth myfyrwyr, dowch â’ch cerdyn aelodaeth â llun gyda chi bob tro y byddwch yn ymweld. Rydym yn derbyn y rhan fwyaf o gardiau aelodaeth myfyrwyr ac eithrio’r rhai heb lun a chardiau y gellir eu cael heb dystiolaeth o statws myfyrwyr.
Consesiwn i filwyr presennol neu wedi ymddeol
Gall personél o’r lluoedd arfog presennol neu rai wedi ymddeol dderbyn graddfa tocyn dyddiol rhatach yn holl safleoedd Cadw sydd â staff yn bresennol. Rydym yn derbyn ystod o ddulliau gwahanol o gael eich adnabod, gan gynnwys cardiau adnabod milwrol, y cerdyn i gyn-aelodau o’r lluoedd arfog, a’r Cerdyn Gostyngiad i Filwyr, a chardiau i’r lluoedd arfog wedi ymddeol oddi allan i’r DU.
Os ydych chi’n gyn-filwr hŷn heb unrhyw fath o gerdyn adnabod, ewch at aelod o’n staff ar y safle pan fyddwch yn ymweld.
Tocynau Ar-lein
Mae’r polisïau uchod yn berthnasol i rai a brynir ar y diwrnod neu ar-lein.
Aelodau Cadw, English Heritage, Historic Scotland a Manx National Heritage
Mae gan aelodau Cadw fynediad anghyfyngedig i holl safleoedd Cadw lle mae staff ac fe allant fwynhau nifer o fuddion eraill. I ymuno ewch i www.aelodaethcadw.gwasanaeth.llyw.cymru.
Rydym hefyd yn croesawu aelodau o English Heritage, Historic Scotland a Manx National Heritage i safleoedd Cadw ar raddfa ratach neu’n rhad ac am ddim.
Ar gyfer yr holl sefydliadau:
- rhaid i’r cerdyn aelodaeth gael ei ddefnyddio gan ddaliwr y cerdyn a enwir yn unig
- dangoswch eich cerdyn ym mynedfa’r safle, os gwelwch yn dda. Ni fyddwn yn rhoi ad-daliad os y methir â dangos cerdyn dilys
- rhaid i bob oedolyn sy’n mynd i mewn i safle gan ddefnyddio’u cerdyn aelodaeth gael cerdyn dilys
- efallai y bydd angen i chi ddangos ffurf arall o adnabyddiaeth os y byddwn yn ansicr os mai chi yw’r person sy’n berchen y cerdyn aelodaeth
- pan fyddwch yn ymweld â safleoedd y sefydliadau eraill sydd â cherdyn aelodaeth, mae’r rheolau a amlinellir ym mholisi mynediad aelodaeth eich sefydliad chi yn dal yn weithredol, megis y nifer o blant a ganiatëir yng nghategori eich aelodaeth
- rhaid i blant fod yn rhan o grŵp teulu.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn ynglŷn â’r canllawiau uchod cysylltwch â’r safle Cadw rydych yn bwriadu ymweld â hi, mae’r manylion cyswllt i’w gweld ar dudalen pob safle ar ein gwefan. Ac yn olaf, rydym yn gobeithio y byddwch chi’n mwynhau eich ymweliad!
Iechyd a Diogelwch
Gofynnwn i chi edrych ar ein tudalen Iechyd a Diogelwch cyn eich ymweliad, os gwelwch yn dda, gan fod ein cofadeiladau yn gallu cynnig rhai heriau penodol.
Wrth gynllunio'r gwyliau perffaith, mae rhywfaint o hyblygrwydd bob amser yn beth da. Pwy a ŵyr beth fydd ar droed neu pa fath o dywydd fydd hi? Rydyn ni yng Nghymru wedi'r cwbwl.
Un peth y gallwch ddibynnu arno yw tocynnau crwydro 3 neu 7 diwrnod Cadw. Mae'r tocynnau'n cynnig gwerth gwych am arian ac yn rhoi rhwydd hynt i chi ymweld â'r cyfoeth o atyniadau hanesyddol sydd gan Gymru i'w cynnig.
Mae’r tocynnau’n eich galluogi chi i grwydro dwsinau o atyniadau hanesyddol Cadw (mae’r manylion llawn isod), a’ch helpu chi i gael y gorau o’ch ymweliad â Chymru.
Gellir defnyddio'r tocyn 3 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 7 diwrnod a'r tocyn 7 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 14 diwrnod. Po fwyaf y defnyddir y tocyn, y mwyaf fydd yr arbedion.
Gallwch brynu Tocynnau Crwydro mewn llawer o’n hatyniadau hanesyddol (manylion llawn isod) ac maen nhw ar werth fel tocynnau i un oedolyn, dau oedolyn neu deulu.
Prisiau Manwerthu 2022:
UN OEDOLYN DAU OEDOLYN TEULU*
TOCYN 3 DIWRNOD £25.50 £39.40 £52.10
TOCYN 7 DIWRNOD £37.10 £59.10 £71.80
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn/wyr neu wyres o dan 18 oed.
Atyniadau hanesyddol sy’n derbyn ac yn gwerthu Tocynnau Crwydro.
- Abaty Glyn y Groes
- Abaty Tyndyrn
- Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion
- Capel y Rug
- Castell Biwmares
- Castell Caerffili
- Castell Caernarfon
- Castell Cas-gwent
- Castell Cilgerran
- Castell Coch
- Castell Conwy
- Castell Cricieth
- Castell Cydweli
- Castell Dinbych
- Castell Harlech
- Castell Oxwich
- Castell Rhaglan
- Castell Rhuddlan
- Castell Talacharn
- Gwaith Haearn Blaenafon
- Llys a Chastell Tretwr
- Llys yr Esgob Tyddewi
- Plas Mawr, Ty Trefol o oes Elisabeth
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 0300 0256000 neu e-bostiwch cadwcommercial@llyw.cymru.
Sylwch nad yw’n bosib prynu tocynnau Crwydro ar-lein ar hyn o bryd.
Efallai bod Cymru'n wlad fach ond estynnir croeso mawr i grwpiau. O gaerau gwych i abatai hudolus, mae gan Cadw lawer i'w gynnig i grwpiau o bob maint.
Ceir llu o arddangosfeydd a digwyddiadau gwych yn ein safleoedd hanesyddol drwy gydol y flwyddyn. Mae'r calendr yn rhedeg o fis Ebrill i fis Rhagfyr a gyda thros 150 o ddigwyddiadau unigol yn cael eu cynllunio bob blwyddyn, mae rhywbeth yn digwydd drwy'r amser. O farchogion yn ymladd mewn twrnameintiau i wersylloedd hanes byw a pherfformiadau theatrig i sioeau sain a golau digidol. Mae digon o hwyl a chyffro.
Mae ein safleoedd yn cynnig gwerth gwych am arian. Cynigir gostyngiad o 10% ar brisiau mynediad i grwpiau o 15 neu fwy. Gyda'r rhan fwyaf o'n digwyddiadau'n cael eu cynnwys yn y pris mynediad safonol, mae mwy o reswm fyth i drefnu grŵp ac ymweld â'n safleoedd. Peidiwch ag oedi!
Gallwn helpu drwy roi cyngor a gwybodaeth am bob agwedd ar eich ymweliad. Gan ein bod yn gofalu am rai o'r atyniadau hanesyddol gorau yng Nghymru, rydym mewn sefyllfa ddelfrydol i allu eich helpu.
- Ymweliadau ymgyfarwyddo am ddim i aelodau o'r fasnach deithio a'r wasg teithio
- Gwasanaeth benthyca lluniau
- Taflenni hyrwyddo am ddim i ategu eich rhaglenni
- Tocynnau Crwydro 3 a 7 diwrnod (gyda chomisiwn llawn, hyd at 25%) ar gael i'w gwerthu gan y cwmni
- Prisiau gostyngol ar gyfer ymweliadau grŵp
- Cynllun mynediad wedi'i flaenoriaethu
Cynllunio ymweliadau grŵp
Mae chwilio drwy leoedd i ymweld â hwy yn fan cychwyn da. Mae'n rhoi gwybodaeth gyffredinol a phenodol am safleoedd unigol. Gall grwpiau o sefydliadau addysgol ddod o hyd i wybodaeth werthfawr yn yr adran ymweliadau addysgol. Os yw eich grŵp yn cynnwys ymwelwyr anabl, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar dudalennau'r safleoedd unigol o dan 'Lleoedd i ymweld' neu ffoniwch bencadlys Cadw ar 0300 0256000 neu e-bostiwch cadw@llyw.cymru
Os hoffech gael cyngor ac awgrymiadau am ddim ar ba safleoedd fyddai'n gweddu orau i'ch rhaglen, cysylltwch â'n desg farchnata (manylion cyswllt isod).
Ymweliadau ymgyfarwyddo am ddim
Rhowch alwad i'n desg farchnata a byddwn yn fwy na pharod i drefnu ymweliad ymgyfarwyddo â'n heiddo am ddim (manylion cyswllt isod).
Taflenni hyrwyddo am ddim
Cysylltwch â'n desg farchnata (manylion cyswllt isod).
Gwasanaeth Llyfrgell Luniau
Mae gennym amrywiaeth eang o ffotograffau o ansawdd uchel i'w llogi. Cysylltwch â llyfrgell ffotograffau Wales on View neu cysylltwch â'n desg farchnata (manylion cyswllt isod).
Tocynnau Crwydro
- Mae Tocyn Crwydro 3 neu 7 diwrnod yn rhoi mynediad am ddim i'ch grŵp neu i ymwelwyr sydd am fynd fel y mynnent i 30 o atyniadau hanesyddol yng ngofal Cadw sy'n codi tâl. Hefyd, gellir ei werthu fel rhywbeth ychwanegol dewisol.
- Mae gan ddeiliaid y tocyn ryddid i ymweld â chymaint o atyniadau ag y dymunant naill ai am 3 diwrnod mewn unrhyw 7, neu 7 diwrnod mewn unrhyw 14.
- Mae Tocynnau Crwydro ar gael i: un oedolyn; dau oedolyn neu deulu
- Gallwch ennill comisiwn - hyd at 25%
- Mae Tocynnau Crwydro ar gael i'w gwerthu gan gwmnïau
Gostyngiadau i grwpiau
Cynigir gostyngiad o 10% ar docynnau i oedolion a thocynnau cyfradd ostyngol i grwpiau o 15 neu fwy.
I gael mwy o wybodaeth am ein cynigion i grwpiau, ffoniwch 0300 0256000 neu e-bostiwch cadw@llyw.cymru.
Pam ymuno â Cadw?
Mae ymuno â Cadw yn cynnig diwrnodau allan diderfyn i chi bob blwyddyn neu hyd yn oed am oes! A llawer, llawer mwy. . . .
- Mynediad diderfyn i orffennol Cymru
Fel aelod o Cadw, gallwch ymweld â’n 130 o safleoedd mor aml ag yr hoffwch a helpu i’w diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. O gestyll i abatai, plastai i gaerau, mae gan Cadw safleoedd a fydd at ddant pob un math o aelod. Mae gennym hyd yn oed Safleoedd Treftadaeth y Byd, UNESCO!
- Ar gyfer pob math o aelod
Ydych chi’n teimlo’n angerddol am dreftadaeth? Oes gennych chi ddiddordeb mewn archaeoleg? Ydych chi’n hoff o hanes? Diwrnodau da allan? Ydych chi am fod yn rhan o deulu Cadw? Os ateboch yn gadarnhaol i un o’r rhain, yna mae aelodaeth Cadw ar eich cyfer chi. Mae hefyd yn gwneud anrheg berffaith...
- Cannoedd o ddigwyddiadau at ddant pawb
Mae aelodaeth Cadw hefyd yn cynnwys mynediad i’n rhaglen o ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn fel ein gwyliau canoloesol, sesiynau hanes ar waith, sesiynau rhoi cynnig ar saethyddiaeth, ailgreadau, gweithdai ymarferol a llawer mwy. Yn ogystal â hyn i gyd, mae’n safleoedd yn dod yn fyw dros y Nadolig, y Pasg a Chalan Gaeaf gyda’n digwyddiadau tymhorol.
- Diogelu’n treftadaeth ar gyfer y dyfodol
Mae’r holl incwm a ddaw yn sgil gwerthiant aelodaeth yn mynd yn ôl i ddiogelu amgylchedd hanesyddol Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol gan ganiatáu mynediad parhaus i’r mannau anhygoel hyn. Mae’ch cyfraniad wir yn gwneud gwahaniaeth.
Gallwch hefyd gyflwyno rhodd ariannol i Cadw yn unrhyw un o'n henebion.
Mynediad i dros 500 o eiddo hanesyddol a phalasau bythgofiadwy
Yn ogystal â chael mynediad i safleoedd Cadw, mae aelodaeth Cadw yn rhoi mynediad i safleoedd hanesyddol ledled Lloegr, yr Alban ac Ynys Manaw! Dyna i chi dros 500 o fannau hanesyddol i ymweld â nhw!
Mae manteision aelodaeth yn cynnwys:
- mynediad DIDERFYN i bob un o 130 o safleoedd Cadw
- mynediad DIDERFYN i amrywiaeth eang o ddigwyddiadau hanesyddol a theuluol
- mynediad HANNER PRIS i holl atyniadau English Heritage a Historic Scotland gan roi mynediad i chi AM DDIM os gwnewch chi adnewyddu’ch aelodaeth y flwyddyn nesaf
- mynediad DIDERFYN i eiddo Manx National Heritage
- cylchgrawn Arobryn Etifeddiaeth y Cymry YN RHAD AC AM DDIM, sy’n cynnwys newyddion a straeon o 130 o safleoedd Cadw
- digwyddiadau arbennig i aelodau a chynigion arbennig i aelodau fel bod gyda’r cyntaf i weld â safleoedd cloddio a chadwraeth
- cyfle cyntaf i brynu tocynnau ar gyfer rhai digwyddiadau unigryw a theithiau cyfyngedig
- 10% oddi ar nwyddau yn siopau rhodd Cadw
- 10% oddi ar nwyddau yn siop rhodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru neu unrhyw safle Amgueddfa Cymru*
- 10% oddi ar gyhoeddiadau RCAHMW.*
*Amodau a thelerau ar gael ar cadw.llyw.cymru/aelodaeth
Aelodaeth oes
Dewch yn aelod oes ac ewch â phob un o’ch plant a’ch wyrion (o dan 18 oed) ac un oedolyn yn rhad ac am ddim i leoliadau Cadw, English Heritage, Historic Scotland a Manx Heritage ar y diwrnod yr ymunwch. Mae aelodau oes Cadw wedi cyfrannu bron i £1 filiwn tuag at gadwraeth yn safleoedd Cadw.
Rhoi aelodaeth yn anrheg
Mae aelodaeth Cadw hefyd yn gwneud y rhodd berffaith ar gyfer pobl sydd wrth eu bodd yn mynd ar antur. Rhowch yr allwedd i’ch ffrindiau a’ch teulu i deithio’n ôl mewn amser a mwynhau diwrnodau bythgofiadwy allan, nid yn unig yng Nghymru ond ledled Lloegr a’r Alban hefyd.
Os hoffech drafod aelodaeth Cadw ymhellach, cysylltwch â’n tîm ymroddedig ar 0800 0743121.
Diddymu Tocynnau Crwydro dros dro
Er mwyn gwella Tocyn Crwydro Cadw fel cynnyrch, rydym wrthi’n datblygu Tocyn Crwydro digidol a fydd ar gael i’w brynu ar-lein. Bydd y Tocynnau Crwydro Masnach cyfredol gan Cadw yn parhau i fod ddim ar gael dros dro wrth i ni drosglwyddo i’n proses newydd.
I elwa ar ein cynllun gweithredwyr teithiau ac i fwynhau cyfraddau mynediad masnach i safleoedd Cadw, cysylltwch â’n tîm masnachol ar: 03000 257182 neu e-bostiwch: cadwcommercial@gov.wales
Edrychwch ar y cyfraddau masnach i weithredwyr cofrestredig ar Gynllun Gweithredwyr Teithiau Cadw.
Mae Cadw yn gallu cynnig ad-daliad ar gyfer unrhyw Docynnau Crwydro sydd heb eu defnyddio a heb eu difetha a gaiff eu dychwelyd o stoc a brynwyd yn 2019.
Os ydych yn dymuno dychwelyd eich Tocynnau Crwydro rhowch wybod i cadwcommercial@llyw.cymru a’u hanfon ymlaen at:
Y Tîm Masnachol
Cadw
Ty’r Afon
Heol Bedwas
Caerffili
CF83 8WT
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a byddwn yn diweddaru’r sefyllfa hon wrth iddi newid.
Mae ehangu mynediad at dreftadaeth a diwylliant yn flaenoriaeth i Cadw.
Drwy'r cynlluniau a restrir yn yr adran hon ein nod yw cyfoethogi bywydau pobl ledled Cymru — yn enwedig pobl ifanc nad ydynt efallai yn ymddiddori yn eu treftadaeth — drwy ei gwneud yn haws iddynt ymweld â'r safleoedd yn ein gofal ni.
Cynllun ar gyfer Teuluoedd Maeth
Ymweliadau Cefnogi Cymdeithas Gwyliau Teulu
Ymweliadau Hunan Ddarpar am ddim Gyda Chefnogaeth
Cynnig Mynediad 2 am bris 1 gyda Trafnidiaeth Cymru
Wyddoch chi ein bod yn cynnig ymweliadau addysgol am ddim hefyd ar gyfer grwpiau ysgol ac ymweliadau am ddim a arweinir gennych chi’ch hun i’n holl safleoedd. Am ragor o wybodaeth am y cynlluniau hyn, ewch i adran Dysgu y wefan.
Mae mynediad am ddim ( ar ôl adnewyddu aelodaeth) i aelodau English Heritage, Manx Heritage a Historic Scotland i’n safleoedd ledled Cymru hefyd, ac mae mynediad am ddim i aelodau Cadw i’w safleoedd nhw. Am ragor o wybodaeth, ewch i adran Aelodaeth ein gwefan.
Byddwch yn ofalus gan y gall henebion fod yn beryglus.
Rhaid i blant gael eu goruchwylio bob amser.
Argymhellir yn gryf eich bod yn gwisgo dillad addas ac esgidiau cryfion.
Er mwyn eich diogelwch chi a’ch cerbyd gwnewch yn siŵr eich bod yn parcio yn ddigon pell o goed yn ystod gwyntoedd cryf a thywydd stormus.
Nid yw Cadw yn gyfrifol am unrhyw ddifrod a achosir gan barcio ym meysydd parcio henebion, cilfannau tynnu i mewn na chilfannau eraill.
Ceir arwyddion sy'n rhybuddio am beryglon yn llawer o'n safleoedd. Ceir arwyddion rhybuddio cyffredinol wrth y fynedfa ac, mewn llawer o achosion, fe'u hategir gan arwyddion 'pictogram' llai o faint sy'n nodi peryglon penodol sy'n ymwneud â henebion unigol.
Efallai y bydd rhai neu bob un o'r arwyddion rhybuddio canlynol i'w gweld o amgylch y safleoedd.
Mae taflenni sy'n rhoi canllawiau (yn arbennig ar ddiogelwch) i drefnwyr ymweliadau ysgol/grŵp ar gael ar gyfer ein safleoedd mwyaf poblogaidd.
Rydym am i chi fwynhau eich ymweliad, felly sicrhewch eich bod yn cloi eich cerbydau ac nad oes unrhyw eitemau gwerthfawr yn y golwg. Cadwch nhw dan glo neu ewch â nhw gyda chi. Peidiwch â dwyn sylw at y ffaith eich bod yn rhoi pethau i gadw oherwydd gallai lladron fod yn gwylio.
Cofiwch — chi sy'n gyfrifol am unrhyw gerbydau, beiciau a chynnwys a adewir.
Pan fyddwch y tu mewn i'r heneb, sicrhewch eich bod yn cadw unrhyw fagiau neu eitemau gyda chi oherwydd gallant gael eu hystyried yn amheus a chael eu symud gan staff neu'r heddlu.
Ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw golled neu niwed o ganlyniad i hyn.
Cedwir eiddo coll a ganfyddir am chwe mis oni bai bod marciau adnabod arno neu fod yr eitemau yn ddarfodus.
Eir ag eitemau gwerthfawr fel pasbortau, waledi, pyrsau a chardiau credyd i'r orsaf heddlu sydd agosaf i'r heneb os nad yw'n amlwg pwy yw'r perchennog.
Dylid cyfeirio ymholiadau am eiddo coll a ganfyddir yn uniongyrchol at geidwad yr heneb.
Gyda Thocyn Caffi Castell Coch, gallwch ymweld â’r caffi yng Nghastell Coch mor aml ag y mynnwch ar ddydd Llun i ddydd Wener tan 1 Ebrill 2023, heb dalu’r tâl mynediad. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw llenwi ffurflen gais yng Nghastell Coch.
Gall deiliad y tocyn ond ei ddefnyddio yng Nghastell Coch i fynd i mewn i’r caffi yn rhad ac am ddim.
Mae mynediad ond yn ddilys gydag ID llun gan ddeiliad y tocyn yn unig. Mae Cadw yn cadw’r hawl i wrthod mynediad os ystyrir nad yw’r Tocyn yn perthyn i’r deiliad.
Nid yw’r cynllun yn ddilys ar y cyd ag unrhyw hyrwyddiadau eraill. Nid yw’r tocynnau yn ddilys ar ddyddiau digwyddiadau.
Mae tocynnau ar gael ar gyfer pob unigolyn 5 oed ac uwch (mae plant, hyd at eu pen-blwydd yn 5 oed, yn cael mynediad am ddim i safleoedd Cadw).
Nid oes gwerth ariannol i’r cerdyn, ni ellir ei ailwerthu, ei werthu mewn arwerthiant na’i gyfnewid, ac ni ellir ei ailhawlio yn gyfan neu’n rhannol am arian parod.
Mae Cadw yn cadw’r hawl i gynnig tynnu’r cynllun yn ôl ar unrhyw adeg yr ystyrir ei fod yn angenrheidiol oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’w rheolaeth resymol.
Telerau ac amodau Tocyn Caffi Castell Coch:
- Y Tocyn Caffi yw’r daleb sydd wedi’i rhoi i aelodau’r cyhoedd sy’n galluogi mynediad i gaffi Castell Coch heb unrhyw dâl mynediad. Deiliad y Tocyn yw’r person sydd wedi’i enwi ar y Tocyn Caffi.
- Mae’r Tocyn Caffi yn rhoi hawl i Ddeiliad y Tocyn gael mynediad am ddim i’r caffi yng Nghastell Coch o ddydd Llun i ddydd Gwener tra bod y safle ar agor. Dim ond yng Nghastell Coch y mae’r Tocyn Caffi yn ddilys ac ni ellir ei ddefnyddio ar ddydd Sadwrn neu ddydd Sul. Mae pob Tocyn yn ddilys tan 1 Ebrill 2023.
- Dim ond y person sydd wedi derbyn y tocyn sydd â’r hawl i’w ddefnyddio ac nid oes modd ei drosglwyddo. Mae mynediad ond yn ddilys gydag ID llun gan Ddeiliad y Tocyn yn unig. Mae Cadw yn cadw’r hawl i wrthod mynediad os ystyrir nad yw’r Tocyn yn perthyn i’r deiliad.
- Mae’r data personol y mae Cadw yn ei gasglu yn angenrheidiol er mwyn i ni allu gweinyddu eich contract. Bydd Cadw’n rhannu eich data ag Equinox, asiantaeth trydydd parti, er mwyn gweinyddu eich tocyn. Ni fydd eich data’n cael ei rannu ag unrhyw drydydd parti arall y tu hwnt i’r broses o weinyddu eich tocyn.
- Am bolisi preifatrwydd Cadw yn unol â GDPR, ewch i cadw.llyw.cymru/polisi-preifatrwydd
- Bydd y Tocyn Caffi yn rhoi hawl i Ddeiliad y Tocyn gael mynediad am ddim i gaffi Castell Coch yn ystod oriau agor arferol. Nid yw’r Tocyn yn ddilys pan mae digwyddiadau’n cael eu cynnal yng Nghastell Coch. Caiff digwyddiadau eu rhestru ar wefan Cadw.
- Mae’r Tocyn Caffi yn parhau’n eiddo i Cadw. Os yw’r Tocyn Caffi yn cael ei golli, bydd rhaid i Ddeiliad y Tocyn wneud cais i Cadw i’w amnewid.
- Bydd rhoi gwybodaeth anghywir a’r bwriad o dwyllo Cadw, neu ddefnydd amhriodol o’r Tocyn Caffi, yn arwain at fforfedu’r tocyn.
- Mae’r Tocynnau Caffi ar gael ar gyfer unigolion 5 oed ac uwch (mae plant, hyd at eu pen-blwydd yn 5 oed, yn cael mynediad am ddim i safleoedd Cadw).
- Nid oes gan y Tocyn Caffi unrhyw werth ariannol, ni ellir ei ailwerthu, ei werthu mewn arwerthiant na’i gyfnewid, ac ni ellir ei ailhawlio yn gyfan neu’n rhannol am arian parod.
- Mae Cadw yn cadw’r hawl i gynnig tynnu cynllun Tocyn Caffi Cadw yn ôl ar unrhyw adeg yr ystyrir ei fod yn angenrheidiol oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’w rheolaeth resymol.
- Mae Cadw yn cadw’r hawl i newid y telerau ac amodau hyn neu’r buddion sydd ar gael i Ddeiliaid y Tocyn ar unrhyw adeg drwy gyhoeddi unrhyw newidiadau ar wefan Cadw. Bydd unrhyw newidiadau yn digwydd ar y dyddiad y maent yn cael eu rhoi ar y wefan. Fe’ch cynghorir i wirio’r telerau ac amodau hyn yn rheolaidd i gael diweddariadau.
- Pan fyddwch wedi cwblhau ffurflen gais yng Nghastell Coch, bydd eich manylion yn cael eu hanfon ymlaen i Equinox i brosesu eich cais. Byddwch yn cael taleb dros dro fel y gallwch ddefnyddio'r caffi heb unrhyw dâl mynediad tra byddwch yn aros i'ch taleb gael ei hanfon atoch. Bydd eich Tocyn Caffi yn cael ei anfon atoch drwy e-bost neu gopi caled yn y post. Pan fyddwch yn ymweld â Chastell Coch, gallwch naill ai ddangos y tocyn i staff Cadw ar eich dyfais neu ddangos y daleb copi caled. Os na fyddwch yn derbyn eich Tocyn Caffi o fewn 28 diwrnod, cysylltwch â thîm aelodaeth Cadw ar cadwmembership@equinox.cymru neu ffoniwch 0800 0743121.
- Mae eich Tocyn Caffi ond yn ddilys fel rhan o ymweliad personol ac ni fydd yn ddilys fel rhan o daith a drefnir gan drydydd parti.
- Efallai na fyddwch yn defnyddio eich Tocyn Caffi er budd masnachol, ond bydd defnydd amhriodol o'r Tocyn Caffi yn arwain at fforffedu'r tocyn.