Castell Llanhuadain
Castell-blas anghofiedig sy’n aros yn y cof
Mae’n werth gyrru ychydig bach oddi ar yr A40 prysur ar eich ffordd drwy Sir Benfro i ymweld â’r castell hwn nad oes neb llawer yn gwybod amdano. Ar safle aruchel ymhlith coedwig deg a thir ffermio tonnog, mae cymysgedd anghonfensiynol Llanhuadain o nodweddion milwrol ac addurnol yn datgelu ei brif ddiben mewn bywyd: sef plas ag amddiffynfeydd yn fwy na chastell go iawn, wedi’i ddylunio’n breswylfa i esgobion cefnog Tyddewi a oedd yn hoff o’u cysuron cartref.
Bu’n safle cryn wasanaeth gweithgar cyn cael ei ailadeiladu ar hyd ei linellau presennol yn y 14eg ganrif gan yr Esgob David Martin. Roedd rhandai preifat, cwrt, llety i westeion ac anheddau i arsiwn parhaol. Y peth mwyaf trawiadol un yw talcen y porthdy, a ychwanegwyd tua diwedd y 14eg ganrif, ac sy’n dal i sefyll i’w lawn uchder.
Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
1st Ebrill - 31st Mawrth | 10am–4pm |
---|---|
Mynediad olaf 30 munud cyn cau Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr |
Gwybodaeth i ymwelwyr
Maes parcio
Mae maes parcio o fewn 250 metr, tua lle i 5 car.
Ceir mynediad drwy lôn darmac.
Croeso i gŵn
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Anhawster cerdded
Tirwedd: Lefel 2 – Hawdd
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Iechyd a Diogelwch
Rhaid cerdded ar hyd llethr byr ar lwybr anwastad i gael mynediad i’r castell. Gall y llwybr fod yn llithrig pan mae'n wlyb ac mae'r hen graig yn rhan ohono. Gallai achosi perygl o ran baglu.
Gall rhannau isaf y tiroedd allanol orlifo a gall dŵr dwfn gronni mewn mannau. Rhaid talu sylw wrth ymweld mewn tywydd gwael.
Mae'r rhan fwyaf o'r safle wedi'i orchuddio â glaswellt ac mae'r rhan fwyf o’r ardaloedd mewnol yn wastad.
Ceir cyfuniad o risiau carreg hanesyddol a grisiau dur modern; gall y rhain fod yn llithrig pan fyddant yn wlyb – defnyddiwch y canllawiau pan fyddant ar gael.
Mae rheiliau gwarchod wedi'u gosod i atal mynediad i unrhyw rannau o'r safle yr ydym wedi barnu eu bod yn beryglus neu i atal pobl rhag disgyn mewn mannau penodol.
Peidiwch â dringo dros unrhyw reiliau ac ati sydd wedi’u gosod, na dringo drwyddynt.
Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr.
Gall dringo arwain at anaf difrifol.
Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.
Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.
Iechyd a Diogelwch / Health and Safety
Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru
Mae’r arwyddion canlynol i’w gweld o amgylch y safle mewn ardaloedd risg allweddol, cymerwch sylw ohonynt lle bo’n briodol.
Cwymp sydyn
Dŵr dwfn
Cerrig yn disgyn
Wyneb llithrig neu anwastad
Steep and uneven steps
Cyfarwyddiadau
Google MapCyf Grid: SN072174. Lled/Hyd: 51.8223, -4.7976
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50
Perthynol
Faint a fynnid o ymweliadau â gorffennol Cymru
Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol
Mwynhewch holl fanteision bod yn aelod o Cadw
- 10% oddi ar siopau Cadw
- 50% oddi ar bris mynediad i safleoedd Treftadaeth Lloegr a’r Alban Hanesyddol
- Mynediad AM DDIM i English Heritage a Historic Scotland wrth adnewyddu
- Mynediad AM DDIM i eiddo Manx National Heritage
- Pecyn Aelodaeth AM DDIM yn cynnwys sticer car a map lliw llawn