Croes Caeriw
Hysbysiad ymwelwyr
O ddydd Llun, 14 Rhagfyr, bydd yr holl henebion sydd wedi’u staffio a heb staff ar gau hyd nes y clywir yn wahanol.
Daw hyn yn dilyn y cyhoeddiad ynglŷn â chau pob atyniad awyr agored yng Nghymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y datganiad ysgrifenedig: Diweddaru’r cynllun rheoli Covid-19 yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, ewch i: llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-diweddarur-cynllun-rheoli-covid-19-yng-nghymru
Hyd nes y gallwn eich croesawu’n ôl yn bersonol, beth am archwilio ein byd 3D o safleoedd Cadw …
Arolwg
Celf Geltaidd, eicon Cadw
A hithau’n 13 troedfedd / 4m trawiadol o uchder, credir bod y groes Geltaidd eithriadol hon, a’i cherfiadau dyrys, yn gofeb i un o frenhinoedd syrthiedig Cymru. Cyfieithwyd arysgrif Lladin ar waelod y cofadail yn ‘Croes Margiteut fab Etguin’, y credir ei fod yn cyfeirio at Faredudd, un o ddisgynyddion y deddfwr Hywel Dda, a reolodd deyrnas hynafol y Deheubarth ac a fu farw mewn brwydr ym 1035. Ochr yn ochr â’r arysgrif, mae’r groes wedi’i cherfio â phatrymau coeth o glymau a phlethi.
Dyma ddylunio Celtaidd hynafol ar ei orau, sy’n berthnasol yn gyfoes am iddo ysbrydoli ein logo ni ein hunain yn Cadw.