Swyddi Gwag
Mae Cadw yn asiantaeth Llywodraeth Cymru, felly mae’r bobl sy’n gweithio yma yn weision sifil. Gallwn gynnig sawl budd, gan gynnwys cyfleoedd i hyfforddi a datblygu, cynlluniau pensiwn, lwfans gwyliau hael, gweithio hyblyg (yn ddibynnol ar eich swydd), ac, wrth gwrs, y cyfle i fod yn rhan o dîm ymroddedig sy’n falch o gadw asedau hanesyddol Cymru mewn cyflwr da ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Gyda sawl swydd bydd yn ofynnol i chi allu siarad Cymraeg, a bydd hynny’n cael ei nodi yn y swydd ddisgrifiad. Rydym yn annog pobl i ddysgu’r iaith ac yn cynnig cyfleoedd iddynt wneud hynny. Os ydych chi’n siaradwr Cymraeg, cewch fod yn rhan o weithle dwyieithog, ac mae gwasanaethau Adnoddau Dynol a gwybodaeth ar gael yn y ddwy iaith hefyd.
Mae ein swyddi’n cynnwys:
- Saer Meini
- Ceidwad
- Arbenigwr Cadwraeth
- Archeolegwr
- Syrfëwr Adeiladau Hanesyddol
Rydym hefyd yn cyflogi pobl sy’n gyfrifol am:
waith achosion, ystadau, digwyddiadau, cyfleusterau, cyllid, grantiau, iechyd a diogelwch, adnoddau dynol, dehongli, dysgu gydol oes, marchnata, ffotograffiaeth, cyhoeddiadau, manwerthu, datblygu ar gyfer y we, a hyd yn oed trefnu priodasau!
Rydym yn cyflogi ar sail cystadleuaeth deg ac agored, yn unol ag egwyddorion cyflogi’r gwasanaeth sifil. Gellir canfod manylion y swyddi gwag trwy ymweld â System benodi gwefan Llywodraeth Cymru.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda ni, ac os hoffech chi dderbyn hysbysiadau pan fydd swyddi gwag newydd, ewch i wefan recriwtio Llywodraeth Cymru a chofrestru ar gyfer hysbysiadau swyddi os gwelwch yn dda.
Fel rhan o Lywodraeth Cymru, mae'r gydberthynas sydd gennym â'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Yn ein barn ni, y ffordd orau o gyflawni ein nodau yw sicrhau bod y rheolwyr a'r undebau llafur yn gweithio gyda'i gilydd.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
- PCS
- Prospect
- FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
- cyflog
- telerau ac amodau
- polisïau a gweithdrefnau
- newid sefydliadol.
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.